Ffiseg gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol (MPhys)
- Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
- Côd UCAS: F304
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 5 blwyddyn
- Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod
Pam astudio'r cwrs hwn
Ffiseg yw un o'r prif ddisgyblaethau ym maes gwyddoniaeth, sy'n ymwneud â dod o hyd i atebion am gyfrinachau'r Bydysawd a deall y byd o'n cwmpas.
Nod y rhaglen MPhys Ffiseg (gyda Lleoliad Proffesiynol) pum mlynedd hon yw rhoi dealltwriaeth eang i chi o ffiseg ddamcaniaethol ac arbrofol, a chael profiad proffesiynol yn y byd go iawn hefyd.
Mae'r rhaglen pum mlynedd hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) ac yn mynd i fwy o ddyfnder na'r cwrs BSc, gan eich galluogi i ddatblygu eich dealltwriaeth ymarferol o'r pwnc ymhellach.
Gan astudio ochr yn ochr â ffisegwyr o fri rhyngwladol ac sy'n rhoi sylfaen ar gyfer arloesiadau chwyldroadol drwy eu gwaith, byddwch yn rhan o amgylchedd cyffrous a chyfeillgar ac yn gallu manteisio ar gyfarpar o'r radd flaenaf, gan gynnwys laserau, ffynonellau pelydr-X ac electroneg .
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys blwyddyn ar leoliad proffesiynol mewn diwydiant, masnach, y llywodraeth neu ddarparwr lleoliad perthnasol arall a gymeradwywir gan y Brifysgol fydd yn rhoi cyfle i chi ennill profiad gwaith perthnasol yn y maes.
Nodweddion nodedig
Mae nodweddion unigryw’r cwrs yn cynnwys:
- Cyfle i gwblhau blwyddyn o leoliad proffesiynol mewn diwydiant
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr
- Cyfle i ddysgu mewn adran sy'n ymrwymo'n gryf i waith ymchwil
- Mae staff sy’n flaenllaw ym myd ymchwil yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio a chyflwyno’r cwrs.
- Prosiect ymchwil sylweddol yn eich blwyddyn olaf.
- Cyfleoedd cyson i gynnal gwaith ymarferol yn labordai’r Ysgol
- Pwyslais ar ddysgu annibynnol.
Bydd yr holl gynnwys craidd sydd ei angen ar gyfer y radd yn cael ei achredu gan y Sefydliad Ffiseg (IOP) a bydd yn rhan o'r cwrs.
Achrediadau
Maes pwnc: Ffiseg a seryddiaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-AAB. Rhaid cynnwys A mewn Mathemateg.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc HL. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn HL Mathemateg a Ffiseg.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C / 4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)
Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD mewn Diploma BTEC mewn pynciau gwyddoniaeth a pheirianneg a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau blynyddoedd rhyngosod
Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.
Costau ychwanegol
Mae’r Ysgol yn talu am offer hanfodol, gan gynnwys gwerslyfrau craidd y cwrs yn y ddwy flynedd gyntaf. Mae'r holl werslyfrau awgrymedig eraill ar gael drwy lyfrgelloedd y Brifysgol.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Bydd y Brifysgol yn darparu’r holl offer hanfodol. Bydd hefyd yn darparu'r gwerslyfrau ffiseg a mathemateg craidd yn y flwyddyn gyntaf. Gallwch ddewis prynu gwerslyfrau eraill yn dilyn cyngor gan y staff. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno ystyried prynu cyfrifiadur personol, gliniadur neu ddyfais tabled, er bod cyfleusterau cyfrifiadura penodol ar gael ar y safle.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Gradd amser llawn pum mlynedd o hyd yw hon, a byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn ar leoliad proffesiynol. Mae'r cwrs yn cynnig cydbwysedd o fodiwlau craidd a ddewiswyd yn ofalus, ynghyd â rhai modiwlau dewisol. 10 neu 20 credyd yw gwerth y modiwlau fel arfer, a bydd yn ofynnol i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Diben yr ystod o fodiwlau a gynigir yn y flwyddyn gyntaf yw ennyn eich diddordeb mewn Ffiseg, ar yr un pryd â rhoi sylfaen gadarn i chi adeiladu arni yn y blynyddoedd dilynol. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, gallwch barhau â'ch rhaglen radd wreiddiol o ddewis neu ddewis un arall o'n graddau ffiseg a seryddiaeth.
Byddwch yn astudio modiwlau craidd gwerth 110 credyd a modiwl 10 credyd dewisol.
Yn Semester y Gwanwyn gallwch ddewis rhwng modiwlau dewisol fel Cyflwyniad i Astroffiseg neu Cyflwyniad i Ffiseg Feddygol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dulliau mathemategol ar gyfer ffisegwyr 1 | PX1120 | 20 Credydau |
Mecaneg a mater | PX1121 | 20 Credydau |
Planet Earth | PX1127 | 10 Credydau |
Ffiseg Arbrofol | PX1150 | 20 Credydau |
Trydan, Magnetedd a Thonnau | PX1221 | 20 Credydau |
Sgiliau Cyfrifiadurol ar gyfer Datrys Problemau | PX1224 | 10 Credydau |
Dulliau mathemategol ar gyfer ffisegwyr 2 | PX1230 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Astroffiseg | PX1228 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ffiseg Feddygol | PX1240 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae blwyddyn dau y cwrs yn parhau i adeiladu ar y deunydd ffiseg craidd ac yn cynnig dewis ar gyfer eich un modiwl dewisol.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gynnal isafswm cyfartaledd o 55% ym mlynyddoedd un a dau er mwyn parhau â'u hastudiaethau ar y rhaglen MPhys.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg Caeau a Llifoedd | PX2131 | 20 Credydau |
Mecaneg Quantum Rhagarweiniol | PX2132 | 10 Credydau |
Rhaglennu Strwythuredig | PX2134 | 10 Credydau |
Ffiseg Ymarferol Canolradd | PX2150 | 20 Credydau |
Ffiseg Thermol ac Ystadegol | PX2231 | 20 Credydau |
Opteg | PX2232 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ffiseg Mater Cyddwysedig | PX2236 | 10 Credydau |
Ffiseg ar Waith: Datrys Problemau'r Byd Go Iawn | PX2241 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Y sêr a'u planedau | PX2140 | 10 Credydau |
Llwybrau at Lwyddiant yn y Gweithle Ffiseg | PX2141 | 10 Credydau |
Bioffiseg | PX2144 | 10 Credydau |
Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod
Byddwch yn treulio blwyddyn tri ar leoliad proffesiynol mewn diwydiant, masnach, y llywodraeth neu ddarparwr perthnasol arall sy'n cynnig lleoliad. Bwriad y flwyddyn ar leoliad yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau ymhellach, a’ch annog i ddefnyddio menter, i gaffael methodoleg gwaith proffesiynol, a phrofiad ymarferol.
Yn ogystal â gwella eich sgiliau trosglwyddadwy megis ysgrifennu adroddiadau a chyflwyniadau llafar, efallai y byddwch yn cael profiad o weithio mewn tîm, cynyddu eich hunanhyder a deall yn well bwysigrwydd Iechyd a Diogelwch.
Mae'r lleoliad (naw mis o hyd fel arfer) hefyd yn caniatáu i chi werthfawrogi strwythur amgylchedd y gweithle a myfyrio ar eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Lleoliad | PX9001 | 120 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Mae blwyddyn pedwar ein gradd yn caniatáu i chi arbenigo ac astudio pynciau dethol yn fanwl. Mae prosiect ymchwil yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich dysgu ffiseg ac i ddatblygu sgiliau mewn ymchwil annibynnol, gwneud cyflwyniadau, ysgrifennu adroddiadau a rheoli gwybodaeth.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg atomig a niwclear | PX3141 | 20 Credydau |
Ffiseg Mater Cyddwysedig | PX3142 | 10 Credydau |
Ffiseg Gronynnau a Pherthnasedd Arbennig | PX3241 | 20 Credydau |
Prosiect Ffiseg | PX3350 | 30 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Ffiseg Gyfrifiadurol | PX3143 | 10 Credydau |
Ffiseg Amgylcheddol | PX3153 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Ddelweddu Cyseiniant Magnetig | PX3155 | 10 Credydau |
Ffiseg Ddamcaniaethol | PX3158 | 10 Credydau |
Cyfathrebu Gwyddoniaeth | PX3160 | 10 Credydau |
Diogelu Ymbelydredd a Ffiseg Radioleg Diagnostig | PX3164 | 10 Credydau |
Dyfeisiau a Chymwysiadau Lled-ddargludyddion | PX3242 | 10 Credydau |
Ffiseg Laser ac Opteg Anllinellol | PX3243 | 10 Credydau |
Mecaneg Ystadegol | PX3249 | 10 Credydau |
Masnacheiddio Arloesi | PX3253 | 10 Credydau |
Cosmoleg | PX3254 | 10 Credydau |
Ymbelydredd di-ïoneiddio mewn meddygaeth | PX3255 | 10 Credydau |
Radiotherapi | PX3256 | 10 Credydau |
Blwyddyn pump
Mae'r prosiect blwyddyn olaf yn rhan sylweddol o'n cyrsiau MPhys ac rydym yn rhoi pwyslais arbennig arno. Ar hyn o bryd mae'n cyfrif am hanner y flwyddyn pump (60 credyd) ac yn darparu hyfforddiant mewn dadansoddi, synthesis a datrys problemau – y sgiliau allweddol sydd eu hangen ar ffisegydd proffesiynol. Bydd y prosiect yn gysylltiedig â gwaith ymchwil yr Ysgol ac yn rhoi cyfle i chi weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr proffesiynol a staff academaidd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Prosiect | PX4310 | 60 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Moleciwlau Mawr a Bywyd | PX4119 | 10 Credydau |
Cyflwyniad i Berthnasedd Cyffredinol | PX4124 | 10 Credydau |
Offeryniaeth ar gyfer Seryddiaeth | PX4125 | 10 Credydau |
Gwneuthuriad lled-ddargludyddion | PX4131 | 10 Credydau |
Opteg Cwantwm Modern | PX4133 | 10 Credydau |
Theori Cwantwm Systemau llawer o ronynnau | PX4134 | 10 Credydau |
Gwyddor Data | PX4146 | 10 Credydau |
Synwyryddion tonnau disgyrchol | PX4195 | 10 Credydau |
Dyfeisiau Lled-ddargludyddion Dimensiwn Isel | PX4221 | 10 Credydau |
Perthnasedd Cyffredinol Uwch a Thonnau Disgyrchol | PX4224 | 10 Credydau |
Ffiseg a Realiti | PX4230 | 10 Credydau |
Seryddiaeth Tonnau Disgyrchol Arsylwadol | PX4237 | 10 Credydau |
Ffiseg Gronynnau Uwch | PX4240 | 10 Credydau |
Ffotoneg Dyfais Lled-ddargludyddion Uwch | PX4241 | 10 Credydau |
Exoplanets a'r Chwilio am Fywyd | PX4245 | 10 Credydau |
Perthnasedd rhifiadol a modelu waveform | PX4294 | 10 Credydau |
Technegau mewn Mesur Precision | PX4296 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Cynhelir yr addysgu gan ddefnyddio ystod o dechnegau, megis darlithoedd traddodiadol, tiwtorialau a gwaith labordy ac ymarferion cyfrifiadurol, yn seiliedig ar brosiectau a sgiliau. Mae Ffiseg yn ddisgyblaeth hierarchaidd, felly mae strwythur y cwrs yn systematig, ac yn adeiladu ar ddealltwriaeth sylfaenol.
Mae ymarferion yn rhan annatod o bob modiwl sy’n seiliedig ar ddarlithoedd, ac mae’r rhain yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich gwybodaeth, cynyddu eich ymwybyddiaeth feirniadol a gwella eich sgiliau datrys problemau.
Byddwch yn cael dosbarthiadau labordy wythnosol yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, i'ch paratoi ar gyfer astudiaeth arbrofol yn rhan o'ch prosiect blwyddyn tri ac ar gyfer eich prosiect mawr yn eich blwyddyn olaf.
Addysgir Mathemateg ochr yn ochr â’r prif gysyniadau Ffiseg ac Astroffiseg ym mhob blwyddyn, gyda modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf. Mae’n hollbwysig er mwyn deall y pwnc ac mae wedi’i hymgorffori mewn nifer o fodiwlau.
Addysgir sgiliau TG yn y flwyddyn gyntaf yn ogystal â rhaglennu elfennol drwy ddefnyddio Python. Efallai y byddwch yn cymryd modiwlau dulliau cyfrifiadurol a rhifiadol pellach mewn blynyddoedd diweddarach.
Cynhelir sesiynau tiwtorial rheolaidd mewn grwpiau bach ym mlynyddoedd un a dau. Bydd y cyfarfodydd hyn yn eich galluogi i gwrdd â myfyrwyr eraill mewn grwpiau bach (fel arfer pedwar neu bump o fyfyrwyr i un tiwtor) a chael adborth ar eich asesiad parhaus. Yn y flwyddyn gyntaf mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn wythnosol, ac yn yr ail flwyddyn maen nhw’n cael eu cynnal bob pythefnos.
Drwy gydol y gwaith o gyflawni‘r rhaglen, lle bynnag y bo'n bosibl, mae canlyniadau ymchwil diweddar yn cael eu defnyddio i ddangos enghreifftiau a goleuo'r pwnc.
Disgwylir i ddarparwr eich lleoliad proffesiynol roi profiad i chi o amgylchedd gwaith, lle gellir defnyddio a datblygu rhai sgiliau academaidd y gallwch eu disgrifio mewn adroddiad technegol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd eich prif fodd o ryngweithio â staff academaidd yn digwydd drwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol labordai, gweithdai neu sesiynau addysgu grŵp bach (tiwtorialau).
Byddwn hefyd yn dyrannu tiwtor personol ar eich cyfer. Aelod staff academaidd fydd eich tiwtor, a bydd yn gallu rhoi cymorth bugeiliol a chyngor academaidd i chi yn ystod eich cwrs.
Gallwch gysylltu â phob aelod o'r staff drwy ebost. Os oes gennych ymholiad penodol, bydd croeso i chi fynd i siarad â nhw neu bydd ganddynt system ar waith er mwyn trefnu amseroedd cyfarfod. Gall Swyddfa'r Ysgol ateb y rhan fwyaf o'r ymholiadau gweinyddol ar unwaith.
Bydd eich lleoliad proffesiynol yn cael ei oruchwylio gan fentor lleoliad a'i oruchwylio gan aelod staff academaidd a benodir yn benodol.
Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, bydd modd i chi gael gafael ar ddeunyddiau amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod. Bydd cyfleoedd i chi fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl 'Cynllunio Datblygiad Personol' ar Dysgu Canolog.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Fel arfer, cewch adborth ynghylch eich cynnydd drwy gyfuniad o drafodaeth yn y dosbarth, sylwadau ysgrifenedig am waith a gyflwynwyd, ac adolygiad o atebion amlinellol i broblemau. Cewch eich annog i drafod unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â modiwlau penodol gyda darlithwyr unigol.
Sut caf fy asesu?
There are a wide variety of assessment methods. Some modules combine continuous assessment and end-of-semester exam and others are solely based on continuous assessment.
At first the nature and methods of experiments are clearly defined for you, and by year three you will be capable of tackling more open-ended investigations.
In your final-year project you will submit a fixed-format summary of your work plus a self-assessment at the end of the Autumn Semester. You will submit your final dissertation at the end of the Spring Semester. Part of your assessment will involve an interview with your supervisor and assessor (viva) and you will be asked to give a short research seminar about your project. All of these elements are assessed.
You will complete a reflective assessment of your placement, initial and final reports and give an oral presentation of the technical outcomes of your placement year.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Bydd astudio’r cwrs hwn yn eich galluogi i gaffael a datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys rhai penodol i’r ddisgyblaeth ac yn seiliedig ar gyflogadwyedd yn gyffredinol. Byddwch yn:
- Datblygu eich sgiliau arbrofol, dadansoddol ac ymchwiliol mewn dosbarthiadau labordy
- Dysgu sut i ddylunio offer arbrofol, cylchedwaith electronig neu gaffael data neu algorithmau lleihau data
- Defnyddio cyfrifiadau manwl gywir neu gyfrifiadau trefn maint mewn sefyllfaoedd priodol
- Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol a/neu ysgrifennu meddalwedd
- Cynnal ymchwil annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell fel gwerslyfrau, cyfnodolion gwyddonol a chronfeydd data electronig
- Datblygu eich sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm a'ch gallu i werthuso eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill yn feirniadol
- Datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol a rheoli eich amser yn effeithiol
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae galw mawr am raddedigion Ffiseg a Seryddiaeth ymhlith cyflogwyr ac mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn ystod eang o wahanol feysydd gan gynnwys y gwyddorau ymchwil, ffiseg a thechnoleg feddygol, addysgu a chyllid a bancio.
Rydym yn darparu ystod o gymorth i helpu ein myfyrwyr i ddod o hyd i'r cyfleoedd gyrfa sy'n gweddu orau iddynt, megis Cynghorydd Gyrfaoedd sydd wedi'i leoli'n rhan-amser yn yr Ysgol, ffeiriau gyrfaoedd ar y safle ac ymweliadau â chyflogwyr. Ein nod hefyd yw paratoi ein myfyrwyr drwy roi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo i gael swyddi a theimlo'n hyderus yn y gweithle o'u dewis.
Bydd y cysylltiadau a wnewch a'r profiad gwaith a gewch yn ystod eich blwyddyn lleoliad yn gwella eich CV a gall hyd yn oed arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth neu ddarparu cyfeiriadau gwell ar gyfer ceisiadau am swyddi eraill.
Roedd cyflogwyr yn cynnwys prifysgolion rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau fel Rolls Royce, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, Lockheed Martin, Tata, Offerynnau Cenedlaethol a Barclays.
Gyrfaoedd graddedigion
- Gwyddonydd Ymchwil
- Ystadegydd
- Dadansoddwr Data
- Cyfathrebwr Gwyddoniaeth
- Cyllid a bancio
- Peilot Awyrennau
- Peiriannydd meddalwedd
- Athro
Lleoliadau
Byddwch yn treulio blwyddyn tri ar leoliad proffesiynol mewn diwydiant, masnach, y llywodraeth neu ddarparwr perthnasol arall sy'n cynnig lleoliad a gymeradwyir gan y Brifysgol.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.