Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
- Meysydd pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth , Cerddoriaeth
- Côd UCAS: WQ33
- Derbyniad nesaf: Medi 2024
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Wedi'i deilwra i chi
Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.
Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth
Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.
Yr offeryn o’ch dewis
Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.
Profiad yn y diwydiant
Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.
Dysgu gan y gorau
Cewch elwa o gynnwys a arweinir gan ymchwil; a dysgu gan ysgolheigion ac awduron llenyddol byd-enwog.
Mae'r Ysgol Cerddoriaeth a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn cynnig cyrsiau heriol o fodiwlau yn y naill bwnc a’r llall. Mae hyblygrwydd y cwrs yn eich galluogi i arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun, gan gaffael addysg gadarn ac eang a datblygu sgiliau trosglwyddadwy. Mae Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig mynediad at holl rychwant llenyddiaeth Saesneg, o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid hyd at yr 21ain ganrif. Ond ni chyfyngir y cwricwlwm i’r gair printiedig - gan fod y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith, a diwylliant poblogaidd yn ennyn ein chwilfrydedd, mae’n haddysgu ni’n adlewyrchu’r diddordebau hynny.
Ar ôl cael eich trwytho yn y flwyddyn gyntaf, bydd gennych rwydd hynt i ddilyn rhaglen draddodiadol sy’n rhychwantu nifer o gyfnodau a genres neu i greu cyfuniad mwy arbennig o fodiwlau sy’n cyfuno astudio llenyddol â dadansoddi ffurfiau diwylliannol eraill.
Mae dinas Caerdydd yn gartref i'r celfyddydau, ac yn lleoliad gwych ar gyfer yr astudio Cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol (Opera Cenedlaethol Cymru) a hefyd gerddorfa symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch chi fod meysydd a safbwyntiau ategol, yn ogystal â sgiliau, sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Byddwch yn treulio swm tebyg o amser ar bob pwnc, gan elwa ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau cerddorol wrth astudio pwnc cyfareddol a heriol Athroniaeth.
Mae disgwyl i chi fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un neu ragor o offerynnau, neu lais, ar adeg gwneud eich cais. Efallai y cewch chi eich ystyried os nad ydych chi’n astudio Cerddoriaeth Safon Uwch ond bod gennych chi Radd 7/8 Theori (neu'n gweithio tuag ati) a’ch bod chi’n astudio pynciau Dyniaethau priodol ar Safon Uwch.
Nid ydym yn cyfweld ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon fel arfer. Efallai y bydd ymgeiswyr sydd â chymhwyster anhraddodiadol yn cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, a fydd yn cael effaith ar y penderfyniad dethol.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth
Maes pwnc: Cerddoriaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
ABB-BBB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.
Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'w rhain gynnwys gradd 6 mewn Llenyddiaeth a Cherddoriaeth Saesneg Lefel Uwch.
Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DM mewn Diploma BTEC mewn Cerddoriaeth, a gradd A mewn Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch neu Iaith a Llenyddiaeth Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol neu gymhwyster cyfatebol.
Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Os nad oes modd pennu lefelau sgiliau trwy gymwysterau amgen, gallech gael eich gwahodd i glyweliad.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.
Gradd dair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddwy Ysgol. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’r modiwlau.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024
Blwyddyn un
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd Cerddoriaeth.
Mae blwyddyn gyntaf y radd mewn Cerddoriaeth yn gosod y sylfeini i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Cynigir hyfforddiant creiddiol i chi mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol. Mae pob myfyriwr BA yn cael rhwydd hynt i ddewis o'r pynciau hyn, os ydynt r gael.
Sylwer bod rhai modiwlau Cerddoriaeth yn 'rhagofynion' sy'n rhoi paratoad hanfodol ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.
I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.
Ar y rhaglen Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn astudio tri modiwl 20 credyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Critical Reading and Critical Writing | SE2146 | 20 Credydau |
Ways of Reading | SE2148 | 20 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Composition 1A | MU1113 | 20 Credydau |
Techniques in Jazz and Popular Music | MU1201 | 20 Credydau |
Composition 1B | MU1213 | 20 Credydau |
Elements of Tonal Theory | MU1311 | 20 Credydau |
Writing About Music | MU1312 | 20 Credydau |
Music as Culture | MU1320 | 20 Credydau |
Case Studies in Music History | MU1321 | 20 Credydau |
Practical Portfolio I | MU1322 | 20 Credydau |
Practical Musicianship 1 | MU1325 | 20 Credydau |
Drama: Stage and Page | SE2139 | 20 Credydau |
Star-cross'd Lovers: the Politics of Desire | SE2140 | 20 Credydau |
Transforming Visions: Text and Image | SE2142 | 20 Credydau |
Transgressive Bodies in Medieval Literature | SE2147 | 20 Credydau |
Blwyddyn dau
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd Cerddoriaeth.
O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol.
Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.
O ran Llenyddiaeth Saesneg, cewch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy’n seiliedig ar gyfnod, genre neu thema, a byddwch chi’n darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.
Blwyddyn tri
Byddwch chi’n astudio 60 credyd Llenyddiaeth Saesneg a 60 credyd Cerddoriaeth.
O ran Cerddoriaeth, fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a gallwch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.
Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'agored' o flaen arholwyr a chynulleidfa a wahoddir (Dawn Gerddorol Ymarferol IV).
Erbyn trydedd flwyddyn y cwrs Llenyddiaeth Saesneg, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genre a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau mewn dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Felly byddwch mewn sefyllfa ardderchog i ddewis rhwng amrywiaeth mwy arbenigol o fodiwlau fydd yn eich galluogi i ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod mewn perthynas ag awduron a thestunau yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw.
Mae’r dewis yn y naill bwnc i ysgrifennu traethawd hir yn rhoi’r cyfle i chi ddewis pwnc sy'n tynnu ar y ddwy ddisgyblaeth, os ydych chi’n dymuno.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Bydd myfyrwyr yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.
Yn yr Ysgol Cerddoriaeth, rydyn ni’n defnyddio ystod o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol. Mae Caerdydd yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle mae myfyrwyr yn cael eu galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.
Yn yr Ysgol Saesneg, cewch eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.
Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach. Fel arfer, bydd y seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
Sut y caf fy nghefnogi?
O ran Cerddoriaeth, ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.
Bydd gennych diwtor personol yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Ar gyfer prosiectau’r flwyddyn olaf, byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
A range of formative and summative assessment methods are used, including essays, examinations, presentations, portfolios, performances and creative assignments.
Essays and examinations are used not only for assessment purposes but also as a means of developing your capacities to gather, organise, evaluate and deploy relevant information and ideas from a variety of sources in reasoned arguments. Dedicated essay workshops and individual advice enable you to produce your best work, and written feedback on essays feeds forward into future work, enabling you to develop your strengths and address any weaker areas.
The optional final-year dissertation provides you with the opportunity to investigate a specific topic of interest to you in depth and to acquire detailed knowledge about a particular field of study, to use your initiative in the collection and presentation of material and present a clear, cogent argument and draw appropriate conclusions.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:
- gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
- nodi a chymhwyso data perthnasol
- sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer)
- sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
- ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
- creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- llythrennedd cyfrifiadurol
- arddangos sgiliau arwain, gwaith tîm a hunan-reoli.
- nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.
Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.
Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.
Lleoliadau
Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.