Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) gyda Blwyddyn o Leoliad Proffesiynol (BSc)

  • Maes pwnc: Rheoli busnes
  • Côd UCAS: 2B68
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 4 blwyddyn
  • Modd (astudio): Llawn amser gyda blwyddyn ryngosod

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dysgu gan y gorau

Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.

location

Agor byd o bosibiliadau

Cewch fynd i'r afael â heriau busnes sy'n berthnasol yn fyd-eang fydd yn eich paratoi i weithio ledled y byd.

briefcase

Blwyddyn ar leoliad

Cewch brofiad o ddiwydiant yn eich dewis faes; gan ddatblygu sgiliau a chysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

certificate

Nodwyd am ragoriaeth

Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).

Mae globaleiddio busnesau ledled y byd yn golygu bod busnesau’n gweithredu ar lefel ryngwladol i ateb y galw cynyddol am nwyddau a gwasanaethau. Wrth i sefydliadau ddod o hyd i ffyrdd o ymateb i’r galw hyn, mae galw mawr am weithwyr ag arbenigedd rheoli rhyngwladol.

Bwriedir i’n rhaglen Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) roi’r sgiliau ymarferol a’r hyder proffesiynol i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn corfforaeth amlwladol.

Byddwch yn datblygu arbenigedd rheoli busnes gan ein tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr busnes. Bydd ein harbenigwyr yn eich cyflwyno i egwyddorion amlddiwylliannedd, moeseg a moesoldeb ac arferion megis marchnata diwylliannol, logisteg busnes rhyngwladol a rheoli adnoddau dynol.

Mae ein Blwyddyn ar Leoliad Gwaith Proffesiynol yn gyfle i roi’r wybodaeth rydych chi’n ei hennill yn y brifysgol ar waith wrth i chi ymgymryd â rôl sy’n cael ei thalu ac ategu eich astudiaethau academaidd gyda chysylltiad â sefyllfaoedd busnes rhyngwladol yn y byd go iawn.

Achrediadau

Maes pwnc: Rheoli busnes

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Busnes.

Lefel T

D mewn Cyfrifeg neu Gyllid Lefel T.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £1,800 Dim
Blwyddyn pedwar £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri (blwyddyn ryngosod) £4,540 Dim
Blwyddyn pedwar £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau blynyddoedd rhyngosod

Yn ystod blwyddyn ryngosod, (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn ar leoliad neu flwyddyn dramor), bydd y ffi yn is. Cewch fanylion llawn ar ein tudalennau ffioedd.

Costau ychwanegol

Nid oes costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae'r holl fyfyrwyr, beth bynnag fo’u llwybr, yn astudio Blwyddyn Gyntaf gyffredin, ac nid yw'r flwyddyn hon yn cyfrif tuag at y radd derfynol. Ar ddiwedd Blwyddyn 1, mae gennych yr opsiwn i naill ai aros gyda'r radd BSc Rheoli Busnes (Rheoli Rhyngwladol) neu symud i un o'r rhaglenni Rheoli Busnes eraill os ydych wedi datblygu diddordeb mewn maes arall.

Ym Mlynyddoedd 2 a 4, mae modiwlau gorfodol yn dibynny ar y llwybr a ddewisir, ond rydych hefyd yn dewis modiwlau dewisol o restr gymeradwy sy'n eich galluogi i deilwra'r radd ymhellach i'ch diddordebau.

Treulir blwyddyn tri ar Leoliad Gwaith Proffesiynol lle byddwch yn rhoi ar waith y wybodaeth a'r sgiliau rydych chi eisoes wedi'u datblygu trwy'ch modiwlau a addysgir.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mynd i’r afael â’r hanfodion ar flwyddyn gyntaf ein cwrs rheoli busnes byd-eang.

Byddwn yn eich cyflwyno chi i ddisgyblaethau gan gynnwys cyfrifeg, technoleg ac economeg ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr o’n llwybrau marchnata, adnoddau dynol a logisteg a gweithrediadau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cymdeithas a'r EconomiBS100120 Credydau
Rheoli GweithrediadauBS100210 Credydau
Cyflwyniad i GyfrifegBS150320 Credydau
Rheolaeth: Theori a ThystiolaethBS151120 Credydau
MarchnataBS152820 Credydau
Pobl mewn sefydliadauBS152920 Credydau
Technoleg a'r Oes DdigidolBS153210 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cyfuno theori ac ymarfer wrth i'ch dealltwriaeth o'r hanfodion ddatblygu.

Byddwch yn darganfod sut mae arferion amlddiwylliannedd a rheoli adnoddau dynol yn croestorri gydag ymddygiad sefydliadol, marchnata a strategaeth wrth feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o'r dirwedd busnes ryngwladol.

Ategwch eich gwybodaeth arbenigol gyda modiwlau dewisol mewn prynu a chyflenwi, cyllid ac ymddygiad prynwyr.

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Defnyddiwch y wybodaeth a enilloch yn y brifysgol yn y byd go iawn, wrth i chi fentro ar flwyddyn ar leoliad gwaith, gyda chyflog, yn y DU neu dramor.

Dyma eich cyfle i wella eich rhagolygon gyrfa trwy feithrin rhwydwaith o gysylltiadau busnes.

Cewch gipolwg ar sefydliadau a diwydiannau heb rwymedigaethau hirdymor a datblygu sgiliau newydd. Bydd hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi fod yn unigryw yn y farchnad swyddi graddedig.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Lleoliad ProffesiynolBS4020120 Credydau

Blwyddyn pedwar

Dewch â’ch profiad proffesiynol yn ôl i’r ddarlithfa yn eich blwyddyn olaf wrth i chi fynd i’r afael â materion presennol a materion sy’n dod i’r amlwg ym maes busnes rhyngwladol.

Bydd modiwlau mewn strategaeth a rheoli adnoddau dynol rhyngwladol yn arwain at gyfleoedd i deilwra eich gradd i'r dyheadau gyrfa y cawsoch flas ohonynt ar eich lleoliad.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae cyfadran a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes, yn dod â'r gwersi a ddysgwyd o'u hymchwil ddiweddaraf i'r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn cyfoes.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Assessment methods vary from module to module but, across your degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.

Feedback

We will provide you with regular feedback on your work. This comes in a variety of formats including oral feedback, personalised feedback on written work, and generic written feedback.

You will be given general feedback following each examination period and will be able to discuss your overall performance with your personal tutor.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth o'r agweddau mewnol ar strwythur, llywodraethu, swyddogaethau a phrosesau sefydliadau.
  • Gwerthfawrogiad o'r rhyngweithio deinamig rhwng sefydliadau a’r amgylchedd busnes cymdeithasol ac economaidd y maent yn gweithredu ynddo.
  • Gwybodaeth am brosesau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer rheoli sefydliadau amrywiol yn effeithiol a chyfrifol.
  • Gwerthfawrogiad o ba mor bwysig yw hi bod sefydliadau yn deall ar yn rheoli eu marchnadoedd.
  • Dealltwriaeth o sut mae pobl yn rhyngweithio o fewn sefydliadau a sut y gellir eu harwain, eu rheoli a'u datblygu.
  • Gwybodaeth am wahanol systemau a phrosesau ar gyfer rheoli gweithrediadau o fewn sefydliadau a rhwng sefydliadau.
  • Ymwybyddiaeth o'r polisïau a’r strategaethau priodol i fodloni buddiannau rhanddeiliaid, rheoli risg a chyflawni cymaint o amcanion strategol ag sy’n bosibl.
  • Gwerthfawrogiad o sut y gall sefydliadau greu gwelliant cymdeithasol yn ogystal â gwelliant economaidd.
  • Dealltwriaeth o'r prosesau a'r gweithgareddau penodol sy'n ymwneud â rheoli sefydliadau rhyngwladol.
  • Dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes rhyngwladol, gan gynnwys agweddau ar farchnata, diwylliannau a'r cyd-destun rheoleiddio byd-eang.
  • Gwerthfawrogiad o gymhlethdod ychwanegol rheoli pobl mewn amgylchedd rhyngwladol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu beirniadol i ddadansoddi, gwerthuso a chyfosod gwybodaeth.
  • Y gallu i ddatrys problemau.
  • Cymhwysedd wrth arddangos dadleuon beirniadol gwybodus a chytbwys.
  • Y gallu i gymhwyso damcaniaethau a dulliau arfer perthnasol.
  • Deall natur a gweithrediadau amgylchedd proffesiynol.
  • Gweithredu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y gweithle.
  • Datblygu, gwella a dangos sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cysylltiedig â gwaith, mewn meysydd gan gynnwys proffesiynoldeb, moeseg, iechyd a diogelwch.
  • Y gallu i nodi ac addasu i arferion gweithio ac arferion cysylltiedig mewn lleoliad cyflogaeth, a myfyrio'n feirniadol arnynt.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Sgiliau Rheoli Pobl.
  • Y gallu i ddefnyddio ymchwil i fabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth o ran rheoli.
  • Craffter masnachol.
  • Arloesedd, creadigrwydd a menter.
  • Deall natur a gweithrediadau amgylchedd proffesiynol.
  • Gweithredu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y gweithle.
  • Datblygu, gwella a dangos sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cysylltiedig â gwaith, mewn meysydd gan gynnwys proffesiynoldeb, moeseg, iechyd a diogelwch.
  • Y gallu i nodi ac addasu i arferion gweithio ac arferion cysylltiedig mewn lleoliad cyflogaeth, a myfyrio'n feirniadol arnynt.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Hunan-reoli effeithiol a thueddiad i ddatblygu'n bersonol.
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy amrywiaeth o gyfryngau, ac i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Y gallu i ddefnyddio sgiliau cydweithio a gweithio'n effeithiol mewn gydag eraill.
  • Dadansoddi a myfyrio ar sgiliau rheoli personol, gan nodi ffyrdd o wella trwy gynllunio datblygiad personol.
  • Datblygu sgiliau seiliedig ar waith a phrofiad, gan adeiladu ar hyder a phroffesiynoldeb.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae 97% o’n graddedigion mewn gwaith cyflogedig a/neu astudiaethau pellach cyn pen chwe mis ar ôl graddio.

Mae ein cynghorwyr gyrfa penodedig yn gallu eich helpu gyda phethau fel lleoliadau mewn diwydiant, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd.

Byddwch yn elwa ar ymgynghoriadau gyrfa, gweithdai cyfweliadau ac ysgrifennu CV, digwyddiadau diwydiant-benodol ac asesiadau seicometrig arbenigol a hyfforddiant sgiliau eang.

Lleoliadau

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys blwyddyn o leoliad gwaith proffesiynol yn ystod blwyddyn 3 y rhaglen bedair blynedd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'ch lleoliad gwaith eich hun, er y bydd tîm cyflogadwyedd yr Ysgol yn eich cefnogi. Os na allwch gael gafael ar leoliad gwaith addas, cewch drosglwyddo i'r rhaglen 'ddi-leoliad' gyfwerth, gan gymryd bod y gofynion academaidd perthnasol yn cael eu bodloni. Gellir cynnal lleoliadau gwaith yn Saesneg neu yn Gymraeg.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Er mwyn rhoi cyfle i chi gael safbwynt byd-eang, yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd (marc cyfartalog cyffredinol o 60% neu uwch yn y flwyddyn gyntaf a chyfweliad llwyddiannus gyda'r Cyfarwyddwr Cyfnewid Rhyngwladol) gallwch drosglwyddo i'r Semester Rhaglen Dramor. Ar y rhaglen semester dramor byddwch yn cymryd chwe modiwl sengl gorfodol yn semester cyntaf blwyddyn 2 cyn treulio semester gwanwyn blwyddyn 2 yn un o'n prifysgolion partner dramor yn astudio modiwlau perthnasol yn Saesneg.

Mae gennym gytundebau cyfnewid gydag Ysgolion Busnes a phrifysgolion o safon ledled y byd lle byddwch chi'n astudio modiwlau a addysgir ac a asesir yn Saesneg. Mae rhestr o sefydliadau partner sy’n cynnig modiwlau a addysgir yn Saesneg i’w gweld ar ein gwefan.

Mae ein tîm Cyfnewid a Chanolfan Cyfle Byd-eang y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda chi i baratoi ar gyfer ac yn ystod eich hastudiaethau dramor.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.