Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Newyddiaduraeth (BA)

Welsh students

Pam astudio'r cwrs hwn

rosette

Arwain y ffordd

Rhowch eich hun ar flaen y gad ym maes Newyddiaduraeth a Chyfathrebu mewn ysgol o safon uchel a gydnabyddir yn rhyngwladol.

location

Cysylltiadau’r Brifddinas

Mae Caerdydd yn ffynnu; manteisiwch ar y diwydiannau cyfryngau a chreadigol sy'n tyfu, ynghyd â chysylltiadau â BBC Cymru a Media Wales, sydd drws nesaf.

academic-school

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Yn cynnwys llyfrgell arbenigol ar y safle, mannau astudio golau a chwe ystafell newyddion.

people

Cymuned lewyrchus

Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

Bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd ym meysydd newyddiaduraeth, y cyfryngau neu'r tu hwnt.

Mae’r cwrs Cymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei gyflwyno gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth academaidd ac ymarferol drylwyr o’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ysgrifenedig a llafar yn y Gymraeg, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Nod cyffredinol Newyddiaduraeth yw paratoi myfyrwyr i fod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n gyforiog o gyfryngau. Man cychwyn y radd yw’r rhagdybiaeth bod angen i ni, os ydym am ddeall ein cymdeithas fodern, ddeall rôl ganolog y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol ynddi. Byddwch yn gallu dilyn rhai modiwlau ymarferol, ond mae pwyslais y radd yn academaidd a dadansoddol.

Maes pwnc: Newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC. Disgwylir i ymgeiswyr fod â Chymraeg ysgrifenedig o safon briodol (mae’r ffaith eu bod wedi astudio pynciau Safon Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, neu gymhwyster Safon Uwch neu UG mewn Cymraeg [iaith gyntaf neu ail iaith] yn arwydd o hyn).

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg Iaith Gyntaf sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DM mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau neu’r Gwyddorau Cymdeithasol a gradd B mewn Cymraeg Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. 20 credyd yw gwerth y rhan fwyaf o’rmodiwlau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio 120 i gyd, 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

Cymraeg

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol (ieithyddol, dadansoddol, creadigol ac o ran cyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau iaith
  • Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
  • Yr Iaith Gymraeg heddiw

Newyddiaduraeth

Mae’r tri modiwl newyddiaduraeth gorfodol yn rhoi sylfaen fframweithiau cysyniadol a damcaniaethol ar gyfer astudio'r cyfryngau a diwylliant. Mae’r pwyslais ar hanes sefydliadau’r cyfryngau ac astudiaethau cyfryngau, dulliau o ymdrin â dadansoddi testun a'r cyfryngau yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i astudio newyddiaduraeth ar lefel uchel.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
History of Mass Communication and CultureMC111020 Credydau
Cymru: Y Senedd, Y Straeon a'r SpinMC111720 Credydau
Understanding Journalism StudiesMC157820 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Astudio LlenyddiaethCY151320 Credydau
Sgiliau IaithCY151520 Credydau
Y Gymraeg HeddiwCY151620 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

Cymraeg

Byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a gafwyd ym mlwyddyn un. Mae elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol (mae newyddiaduraeth ddarlledu a phrint yn ddau faes posibl).

Mae modiwlau blwyddyn dau a blwyddyn olaf yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol sy'n berthnasol i ystod o wahanol feysydd cyflogaeth ac astudio ôl-raddedig.

Newyddiaduraeth

Byddwch chi’n cymryd un modiwl 20 credyd gorfodol sy’n esbonio ymchwil y cyfryngau (gan roi sylfaen ar gyfer prosiectau datblygedig) a fydd yn eich cyflwyno i rai o'r damcaniaethau allweddol a'r gwaith dadansoddi sy'n ganolog i astudiaethau diwylliannol ac astudiaethau newyddiaduraeth. Byddwch chi’n cymryd dau fodiwl dewisol, a fydd efallai’n eich cyflwyno i feysydd megis astudiaethau cynulleidfa, hysbysebu a moeseg astudiaethau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Yr Ystafell Newyddion 1MC261720 Credydau
Yr Ystafell Newyddion 2MC261820 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cymraeg ProffesiynolCY221520 Credydau
Myrddin a MerlinCY235020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY270220 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 Credydau
Caffael IaithCY291020 Credydau
Media and GenderMC210720 Credydau
Media, Power and SocietyMC211620 Credydau
Mediation of Political ViolenceMC260720 Credydau
Critical Issues in Television ProductionMC262420 Credydau
Celebrity CultureMC262720 Credydau
Fashion Futures: Technology, Innovation and SocietyMC262920 Credydau
Internet GovernanceMC263020 Credydau
Media, Globalisation and CultureMC263120 Credydau
Public Relations and Political CommunicationMC263220 Credydau
Media FandomMC263320 Credydau
Employability: Knowledge, Skills & ExperienceMC263420 Credydau
Red Penned: Censorship and Resistance in Contemporary Arts ActivismMC264420 Credydau
War, Politics and Propaganda IIMC354920 Credydau
Doing Media Research: Approaches and MethodsMC355120 Credydau
Media and DemocracyMC360320 Credydau
Media and DemocracyMC360320 Credydau
Media and DemocracyMC360320 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

Cymraeg

Mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Mae gennych ddewis o draethawd neu brosiect 5,000 gair (20 credyd) neu 9,000 gair (40 credyd), i’w gwblhau o dan arweiniad aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu ddarparu arddangosfa effeithiol amdanoch i gyflogwyr posibl. Byddwch hefyd yn dewis modiwlau dewisol ychwanegol.

Newyddiaduraeth

Hefyd, byddwch yn gallu dewis astudio traethawd hir neu brosiect unigol 40 credyd opsiynol. Gall hyn gynnwys Cymraeg a Newyddiaduraeth, neu fod yn seiliedig ar un yn unig o'r meysydd pwnc.

Bydd yr holl fodiwlau ar y lefel hon yn cynnwys cynnal ymchwil annibynnol ac yn defnyddio syniadau damcaniaethol a dulliau gwaith ymarferol a/neu ddadansoddol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Myrddin a MerlinCY335020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY370220 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 Credydau
Caffael IaithCY391020 Credydau
DissertationMC310340 Credydau
Mediating ChildhoodMC358520 Credydau
The Making and Shaping of NewsMC358920 Credydau
East Meets West in Film and Popular CultureMC359020 Credydau
Media, Racism, ConflictMC359320 Credydau
Spin Unspun: Public Relations and The News MediaMC359620 Credydau
The Creative and Cultural IndustriesMC360820 Credydau
Sport and the MediaMC361220 Credydau
Communicating CausesMC361620 Credydau
Understanding Media BusinessMC361920 Credydau
Palu am y GwirMC362520 Credydau
Stori Pwy? Cyfathrebu CymruMC362620 Credydau
Reporting the WorldMC362820 Credydau
Media, Money and MarketsMC363020 Credydau
The Cultural Politics of Contemporary HollywoodMC363220 Credydau
The Cultural Politics of Contemporary HollywoodMC363220 Credydau
Popular Music, Media, & CultureMC363320 Credydau
Understanding Digital Society through Black MirrorMC363420 Credydau
Marketing, Branding and Promotional Cultures in TelevisionMC363720 Credydau
Screening LocationsMC364120 Credydau
(Me) me, Myself and I:The Power and Politics of Digital Remix Culture and Online InequalitiesMC364220 Credydau
Clothing Matters: Global Fashion Cultures and PoliticsMC364420 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hun. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Wrth astudio Cymraeg, mae rôl bwysig i'w chwarae hefyd gan diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith.

Addysgir pob modiwl yn Ysgol y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol y Gymraeg

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg ar bob lefel.

Darganfod mwy am yrfaoedd a chyflogadwyedd.

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i’n graddau meistr newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ôl-raddedig, ac yna i swyddi amrywiol yn y cyfryngau.

Ymhlith enghreifftiau diweddar o swyddi lefel mynediad mae: awdur cynnwys, gweithredwr cyfryngau digidol, cynghorydd polisi cyfryngau cymdeithasol, intern ymchwil, intern golygyddol, gohebydd, gweithredwr/cynorthwyydd cysylltiadau cyhoeddus, intern polisi, gweithredwr ymgyrchoedd, cynorthwyydd addysgu a rheolwr prosiect hefyd.

Darganfod mwy am yrfaoedd a chyflogadwyedd.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Gohebydd
  • Newyddiadurwr
  • Athro
  • Golygydd

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 80% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.