Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Gyda gradd yn y dyniaethau, byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy, llythrennedd digidol, a hyder i lywio drwy'r dyfodol, beth bynnag a ddaw.

Mae dilyn eich diddordebau a'r hyn sy'n eich tanio yn ddechrau da i unrhyw daith. Nid yn unig y mae ein graddedigion yn llwyddo yn y farchnad swyddi ar ôl ein gadael ni, ond yr un mor bwysig, maen nhw'n dod o hyd i yrfaoedd boddhaus gyda'u brwdfrydedd a'u chwilfrydedd yn eu sbarduno.

Cyfleoedd israddedig

Gyda'n rhaglenni israddedig, cewch gyfle i ddatblygu llythrennedd academaidd, proffesiynol a digidol sy’n amhrisiadwy yn y gweithle.

Yn ôl yr arolwg diweddaraf, roedd 88% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2020/21).

Paratoi ar gyfer eich gyrfa

Mae ein modiwl ail flwyddyn, Cyflogadwyedd: Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad, yn helpu ein myfyrwyr i gael profiad ymarferol, creu cynllun gyrfa effeithiol a chystadlu yn y broses recriwtio graddedigion.

Caiff y modiwl ei gyflwyno ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd hynod brofiadol Prifysgol Caerdydd a bydd yn rhoi cipolwg hanfodol i chi ar y farchnad lafur i raddedigion, gan ganolbwyntio’n benodol ar gyfleoedd i raddedigion ym meysydd newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant.

Eich dewisiadau gyrfa

Aiff ein graddedigion ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiol feysydd sy'n dangos sut y gall gradd yn y dyniaethau eich helpu i sicrhau'r sgiliau a'r hyblygrwydd sydd eu hangen i gadw eich dewisiadau ar agor drwy gydol eich bywyd gwaith. Mae’r llwybrau gyrfa yn cynnwys:

  • Hysbysebu
  • Cyfathrebu
  • Newyddiaduraeth
  • Cynhyrchu ffilmiau
  • Cysylltiadau cyhoeddus
  • Cyhoeddi
  • Addysgu
  • Cynhyrchu teledu

Mae LinkedIn Learning yma

Platfform ar-lein yw LinkedIn Learning yn cynnwys miloedd o gyrsiau byr, ar-lein yn ymwneud â sgiliau proffesiynol, technegol a chreadigrwydd.

Gellir defnyddio cyrsiau i guradu eich 'llwybr dysgu' eich hun er mwyn gwella'ch sgiliau personol, proffesiynol a chreadigol yn ogystal â datblygu sgiliau craidd ar gyfer dysgu a chyflogadwyedd ar yr un pryd.

Manteision cynfyfyrwyr

Dyw ein cymorth gyrfa ddim yn dod i ben wrth i chi raddio. Mae nifer o fuddion ar gael i gynfyfyrwyr yn unig.

Mae cyngor gyrfa ar gael i gynfyfyrwyr am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio, gyda ffeiriau gyrfaoedd, gweithdai, digwyddiadau yn ogystal â mynediad at wybodaeth gyrfaoedd a swyddi, interniaethau i raddedigion a mwy.

Cewch gyfle hefyd i ymuno â Cysylltu Caerdydd, llwyfan rhwydweithio cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sy'n gadael i chi gysylltu â chyn gyd-fyfyrwyr ac ehangu eich rhwydwaith proffesiynol mewn amgylchedd dibynadwy.

Mae'n llwyfan unigryw sy’n gadael i raddedigion rannu eu harbenigedd, ystyried cyfleoedd i weithio a gwirfoddoli, a chefnogi myfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill.

Gall cynfyfyrwyr hefyd ymuno â Rhwydwaith Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar LinkedIn a rhwydweithio gyda thros 10,000 o aelodau. Byddwch yn gallu cysylltu'n uniongyrchol â chynfyfyrwyr eraill  i ofyn cwestiynau am yrfaoedd, clywed am gyfleoedd swyddi, a chael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am Brifysgol Caerdydd.


Ffynhonnell: Yn cynnwys data HESA: Hawlfraint Jisc 2023. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.