Cymraeg a Newyddiaduraeth (BA)


Am y tro cyntaf, mae cyfle i fyfyrwyr astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ar y cyd gyda’r cwrs newydd ac unigryw hwn.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

Trosolwg y cwrs

Drwy gyfuno’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa.

Gall astudio gradd gydanrhydedd eich symbylu a rhoi boddhad, wrth ichi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc.

Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen i chi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.

Nod cyffredinol Newyddiaduraeth yw arfogi myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus mewn cymdeithas sy’n orlawn o gyfryngau. Mae’n dechrau gyda'r rhagdybiaeth fod angen i ni ddeall y rôl ganolog a chwaraeir gan y cyfryngau a’r diwydiannau diwylliannol er mwyn deall cymdeithas fodern.

Byddwch yn gallu cymryd rhai modiwlau ymarferol, ond mae pwyslais y radd yn academaidd a dadansoddol.

SYLWER: Nid yw’r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr Cymraeg ail iaith. Bydd ymgeiswyr i'r radd hon fel arfer wedi astudio rhai cymwysterau ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at derbyncymraeg@caerdydd.ac.uk.

Nodweddion nodedig

Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:

  • y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
  • modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
  • ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
  • modiwlau cyfryngau mor amrywiol â Rheoli Cyfryngau Cyfathrebu, Gwleidyddiaeth Rhyfel a Phropaganda ac Achosion Cyfathrebu
  • y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
  • y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
  • y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
  • y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
  • mynediad at gynlluniau Erasmus ac Astudio Dramor
  • wythnosau gyrfaoedd a gweithdai wedi eu trefnu’n rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n barod ar gyfer 'byd gwaith'
Côd UCASPQ55
Derbyniad nesafMedi 2018
Hyd3 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer mae 30 lle ar gael yn Ysgol y Gymraeg. Fel arfer mae 125 lle ar gael yn Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae Ysgol y Gymraeg yn derbyn tua 100 o geisiadau. Mae Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn derbyn tua 1000 o geisiadau.

Gofynion mynediad

BBB - BBC gan gynnwys gradd B mewn Cymraeg Iaith Gyntaf. Sylwer, nid ydym yn derbyn Cymraeg Ail Iaith nac Astudiaethau Cyffredinol

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd.

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Cyflawni Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol gyda 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch yn ogystal â cymhwyster Iaith Gymraeg.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ac Ysgol y Gymraeg.

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd angen cymhwyster TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith arnoch ar radd C neu radd 4. Fel arall, caiff cymhwyster IGCSE Saesneg Iaith Gyntaf neu Saesneg Ail Iaith ei ystyried ar radd C.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Nodiadau:

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn unol â'r gyfraith neu bolisïau Llywodraeth Cymru yn yr ail flwyddyn neu flynyddoedd dilynol cyrsiau. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth fydd y cynnydd yn y ffi erbyn diwedd Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn y flwyddyn academaidd lle fydd y ffi yn codi.

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2018/19)

Ffioedd DysguBlaendal
£15,950Dim

Nodiadau:

Caiff y ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol eu pennu ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau israddedig tair blynedd o hyd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu'r un pris ym mlwyddyn un ag y byddwch chi ym mlynyddoedd dau a thri. Mae rhai cyrsiau wedi'u heithrio, yn cynnwys rhaglenni pedair a phum mlynedd o hyd a chyrsiau Meddygol a Deintyddol. Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Gradd tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2018/19. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2018

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio cyfanswm o 120 credyd. Bydd myfyrwyr yn astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

CYMRAEG

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un y Gymraeg ar ddatblygu sgiliau allweddol (rhai ieithyddol, dadansoddol, creadigol a chyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt.

Ar gyfer y Gymraeg y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

NEWYDDIADURAETH

Mae tri modiwl craidd Newyddiaduraeth yn rhoi sylfaen o ran fframweithiau cysyniadol a damcaniaethol ar gyfer astudio'r cyfryngau a diwylliant. Mae’r pwyslais ar hanes sefydliadau cyfryngol ac astudiaethau cyfryngau, dulliau o ymdrin â dadansoddi testun a'r cyfryngau yn y sector cyhoeddus, yn ogystal â’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i astudio Newyddiaduraeth ar lefel uchel.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Iaith ac YstyrCY160020 credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 credydau
History of Mass Communication and CultureMC111020 credydau
Cymru: Y Senedd, Y Straeon a'r SpinMC111720 credydau
Understanding Journalism StudiesMC157820 credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

CYMRAEG

Ym mlwyddyn dau y Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd ym mlwyddyn un. Bydd elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol (gall darlledu neu newyddiaduraeth brint fod yn ddau faes posibl).

Yn ogystal â’r elfennau craidd hyn, mae cwrs y Gymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, megis cynllunio ieithyddol, sgriptio a chyfieithu.

NEWYDDIADURAETH

Ym mlwyddyn dau Newyddiaduraeth byddwch chi’n cymryd un modiwl craidd 20 credyd sy’n esbonio ymchwil y cyfryngau (ac sy’n cynnig sylfaen ar gyfer prosiectau datblygedig) ynghyd â chyflwyno myfyrwyr i rai o'r damcaniaethau allweddol a'r gwaith dadansoddi sy'n ganolog i astudiaethau diwylliannol ac astudiaethau newyddiaduraeth. Byddwch chi’n cymryd dau fodiwl dewisol, a fydd efallai yn eich cyflwyno i feysydd megis astudiaethau cynulleidfa, hysbysebu a moeseg astudiaethau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 credydau
Yr Ystafell Newyddion 1MC261720 credydau
Yr Ystafell Newyddion 2MC261820 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Academaidd UwchCY221020 credydau
Llenyddiaeth PlantCY231020 credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY233020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY236020 credydau
Bywydau LlênCY242520 credydau
TafodieithegCY245020 credydau
SosioieithyddiaethCY253020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY266520 credydau
Media and GenderMC210720 credydau
Media, Power and SocietyMC211620 credydau
Critical Issues in Television ProductionMC262420 credydau
Celebrity CultureMC262720 credydau
Fashion Futures: Technology, Innovation and SocietyMC262920 credydau
Internet GovernanceMC263020 credydau
Media, Globalisation and CultureMC263120 credydau
Public Relations and Political CommunicationMC263220 credydau
Tele-FictionsMC351720 credydau
War, Politics and Propaganda IIMC354920 credydau
Doing Media Research: Approaches and MethodsMC355120 credydau
Media Law Year 2MC360020 credydau
Media and DemocracyMC360320 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd yn y Gymraeg a 60 credyd Newyddiaduraeth.

CYMRAEG

Ym mlwyddyn tri y Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Byddwch yn cael dewis naill ai traethawd neu brosiect 5,000 o eiriau (20 credyd) neu 9,000 o eiriau (40 credyd), i’w gwblhau o dan gyfarwyddyd aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu fod yn ffordd effeithiol o arddangos eich sgiliau i gyflogwyr y dyfodol. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

NEWYDDIADURAETH

Hefyd, byddwch yn gallu dewis astudio traethawd hir neu brosiect unigol 40 credyd opsiynol. Gall hyn gynnwys Cymraeg a Newyddiaduraeth, neu fod yn seiliedig ar un yn unig o'r meysydd pwnc.

Bydd yr holl fodiwlau ar y lefel hon yn cynnwys cynnal ymchwil annibynnol ac yn defnyddio syniadau damcaniaethol a dulliau gwaith ymarferol a/neu ddadansoddol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Llenyddiaeth PlantCY331020 credydau
Theori a Beirniadaeth LenyddolCY333020 credydau
Ysgrifennu CreadigolCY336020 credydau
Bywydau LlênCY342520 credydau
TafodieithegCY345020 credydau
SosioieithyddiaethCY353020 credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 credydau
Treftadaeth a ThwristiaethCY366520 credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 credydau
Blas ar YmchwilCY390020 credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 credydau
DissertationMC310340 credydau
Media LawMC321320 credydau
Mediating ChildhoodMC358520 credydau
The Making and Shaping of NewsMC358920 credydau
Spin Unspun: Public Relations and The News MediaMC359620 credydau
The Creative and Cultural IndustriesMC360820 credydau
21st Century British Television: Industry, Form and AudiencesMC361020 credydau
Communicating CausesMC361620 credydau
Understanding Media BusinessMC361920 credydau
Reporting Conflict and the Civil SphereMC362420 credydau
Palu am y GwirMC362520 credydau
Stori Pwy? Cyfathrebu CymruMC362620 credydau
Data PowerMC362720 credydau
Reporting the WorldMC362820 credydau
Media, Money and MarketsMC363020 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Rydym ni’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill ystod o sgiliau a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Cewch ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle ichi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bychain a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. O ran y Gymraeg, mae rôl allweddol hefyd i diwtorialau, gweithdai a dosbarthiadau iaith. Addysgir pob modiwl yn Ysgol y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth rheolaidd ichi ar eich gwaith. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o ffurfiau (gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig ichi ar eich gwaith. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol ar arholiadau yn dilyn cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun monitro hunanasesu myfyrwyr.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu ystod o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd ichi:

  • ddeall pynciau cymhleth yn hyderus
  • gofyn y cwestiynau cywir am destunau cymhleth
  • cael dealltwriaeth ddychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio i derfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori adborth
  • gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Ysgol y Gymraeg

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn darparu cymhwyster hynod werthfawr ar gyfer swyddi sy’n gofyn am bersonél dwyieithog. Mae nifer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd ym meysydd y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg, neu’n astudio ar lefel ôl-raddedig.

Yn 2015/16, dywedodd 100% o raddedigion Ysgol y Gymraeg oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol

Yn 2015/16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod nhw mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i’n graddau meistr newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu ôl-raddedig, ac yna i swyddi amrywiol yn y cyfryngau.

Ymhlith enghreifftiau diweddar o swyddi lefel mynediad y mae: awdur cynnwys, gweithredwr cyfryngau digidol, cynghorydd polisi cyfryngau cymdeithasol, intern ymchwil, intern golygyddol, gohebydd, swyddog gweithredol/cynorthwyydd cysylltiadau cyhoeddus, intern polisi, swyddog gweithredol ymgyrchoedd, cynorthwyydd addysgu a rheolwr prosiect.

Ar ôl mynd yn eu blaenau o swyddi lefel mynediad mae ein cyn-fyfyrwyr bellach yn cynnal nifer o rolau cyfryngau a gweinyddu megis: newyddiadurwr cynhyrchu (Telegraph Media Group), golygydd cylchgrawn (The Independent), uwch swyddog y wasg (Guardian News & Media), cynhyrchydd ffilmiau (See Saw Films) a rheolwr ymgyrchoedd digidol a chymunedol (Ruder Finn).

Swyddi

  • Reporter
  • Journalist
  • Teacher
  • Editor

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol. Mae’r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau sydd wedi ei chynllunio er mwyn gosod ffocws ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 83% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Dydd Mercher 27 Mawrth

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais