Ewch i’r prif gynnwys

Parc Mynydd Bychan

Mae cyrsiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd (ac eithrio Fferylliaeth ac Optometreg) wedi'u lleoli ym Mharc Mynydd Bychan. Mae'r Campws rhyw filltir o ganol y ddinas ac wrth ymyl 100 o erwau o barciau a chaeau chwarae.

Tu Allan i Adeilad Cochrane
Tu Allan i Adeilad Cochrane ar gampws Parc Mynydd Bychan.

Mae Ysgolion Academaidd y Brifysgol yn rhannu’r safle gydag Ysbyty Athrofaol Cymru, sef un o'r ysbytai mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Mae gan bob Ysgol ei hadnoddau a’i chyfleusterau arbenigol ei hun. Mae’r ystafelloedd darllen a’r cyfleusterau technoleg gwybodaeth ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae yna ddarlithfeydd, ystafelloedd seminar, llyfrgelloedd a theatrau llawdriniaeth ar y campws hefyd.

Mae arbenigwyr ymchwil mewn amryw o feysydd meddygol yn darparu gwasanaethau amhrisiadwy, gan gynnwys gofal i gleifion, yn y ganolfan addysgu ac ymchwilio bwysig hon.

Mae'r gwasanaethau Preswylfeydd a'r Undeb Myfyrwyr ar y safle hefyd a gall fyfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys pwll nofio, cyrtiau sboncen a badminton, ac ystafell ffitrwydd.

  • Campws gofal iechyd penodol yn cael ei rannu gydag Ysbyty Athrofaol Cymru
  • Adeilad Cochrane sy’n werth £18m gan gynnwys llyfrgell dri-llawr, labordai a mannau ar gyfer seminarau
  • Theatrau llawdriniaeth ar y safle
  • Preswylfeydd gerllaw
  • Undeb Myfyrwyr a gwasanaethau cymorth ar y safle
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd (gan gynnwys pwll nofio)
  • Tîm Plismona ar y safle
  • Milltir i’r gogledd o ganol y ddinas

Ble mae'r Campws?

Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XN

Heath Park location