Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Poen (MSc)

  • Hyd: 1 year
  • Dull astudio: Amser llawn

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dyma gwrs rhyngbroffesiynol e-ddysgu a anelir at weithwyr gofal iechyd a hoffai arbenigo ym maes rheoli poen.

Mae'r cwrs blwyddyn hwn yn dechrau drwy gyflwyno natur amlochrog gofalu am gleifion sydd mewn poen i weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r modiwlau wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddeall agweddau bioseicogymdeithasol poen a defnyddio’r wybodaeth honno i werthuso'r amryw ddulliau o asesu a rheoli cleifion sy’n dioddef gwahanol fathau o boen. Bydd materion proffesiynol, gan gynnwys ansawdd a diogelwch, arwain a'r gyfraith hefyd yn cael eu cynnwys yn y cwrs. Mae asesiadau’r modiwl yn adolygiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a all lywio eich ymarfer clinigol. Mae'r traethawd hir yn cynnwys adolygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ond gall hefyd fod yn rhan o brosiect ymchwil neu brosiect gwella ansawdd mewn maes rheoli poen. Nod cyffredinol pob un o agweddau’r rhaglen, gyda’i gilydd, yw gwella canlyniadau i gleifion a dulliau rheoli ar gyfer unigolion sy'n byw gyda phoen.

Nodweddion unigryw

  • Rhaglen e-ddysgu hyblyg - Mae fformat dysgu o bell, ar-lein yn galluogi’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i ddysgu’n hyblyg, wrth ei bwysau, gan gyd-fynd â’i ymrwymiadau presennol. 
  • Perthnasol i ymarfer clinigol - Mae cynnwys ac asesiadau yn gysylltiedig yn uniongyrchol â rheoli cleifion â phoen mewn gwahanol feysydd gofal iechyd, drwy ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i wahanol feysydd clinigol.
  • Teilwra eich dysgu - Canolbwyntio eich dysgu a'ch asesiadau ar eich maes(meysydd) ymarfer clinigol a/neu eich diddordeb ym maes poen.
  • Astudiaeth ryngbroffesiynol, ryngwladol - Gweithio, dysgu a chydweithio â myfyrwyr a staff ledled y byd, o amrywiaeth o broffesiynau gofal iechyd a disgyblaethau academaidd eraill. 

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel gofal iechyd, nyrsio, neu feddygaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. 
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Tystiolaeth eich bod wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda'r corff proffesiynol sy'n berthnasol i'ch proffesiwn.
  4. Tystiolaeth bod gennych ddwy flynedd o brofiad cyfwerth ag amser llawn mewn maes clinigol sy'n berthnasol i'r rhaglen. Gellir darparu tystiolaeth o'ch cyflogaeth ar ffurf geirda cyflogwr wedi'i lofnodi a'i ddyddio. 
  5. Datganiad personol nad yw'n fwy na 500 gair ac sy'n rhoi manylion eich profiad clinigol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol cyfwerth ag amser llawn. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid oes gofyn i chi gwblhau gwiriad GDG (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) neu ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer/dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffywiau
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r MSc amser llawn hwn yn cynnwys dau gam – Cam T (cam a addysgir) a Cham D (cam traethawd hir):

  • Cam T (cam a addysgir)

Mae’r cam hwn yn para am wyth mis, ac mae'n cynnwys chwe modiwl 20 credyd, sef cyfanswm o 120 credyd, ar Lefel 7.

  • Cam D (cam traethawd hir MSc)

Mae’r cam traethawd hir yn para am dri mis arall, gan ddod â chyfanswm yr MSc yn flwyddyn. Bydd yn cynnwys traethawd hir 60 credyd ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm o 180 credyd i gyd ar Lefel 7 i gwblhau'r rhaglen MSc.

Fel rheol, ni fydd y traethawd hir yn fwy nag 20,000 o eiriau. Bydd pwnc traethawd pob myfyriwr yn cael ei gymeradwyo gan Gadeirydd y Bwrdd Astudiaethau dan sylw neu ei enwebai.

Mae’n cymryd blwyddyn i gwblhau'r rhaglen MSc lawn fel arfer (camau T a D), o'r dyddiad cofrestru ar yr MSc am y tro cyntaf.

Mae'r traethawd hir, ar y cyd â'r cam a addysgir, yn cael ei bwysoli 33.33% at ddibenion cyfrifo'r marc terfynol:

Cam     Pwysoliad

Modiwlau a addysgir      66.66%

Traethawd Hir (cam R)   33.33%

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r rhaglen yn rhedeg am un flwyddyn academaidd. Mae pob modiwl yn para 5 wythnos o hyd ac yn cael eu hastudio un ar ôl y llall. Mae cyfnod y traethawd hir yn para 10 wythnos. Mae egwyl o 2 wythnos yn ystod modiwl 3 ar gyfer y Nadolig (bydd y Brifysgol wedi cau). Mae'r rhaglen yn dechrau gyda chyfnod cyflwyno o wythnos i'ch galluogi i ymgyfarwyddo â phlatfform ar-lein y Brifysgol (e.e. eich cofnod myfyriwr, canllawiau sgiliau astudio a gwasanaethau llyfrgell) a Dysgu Canolog lle mae eich holl fodiwlau'n cael eu cyflwyno, ac yn cael eu rhyddhau un ar y tro. Mae tîm y rhaglen yn eich cefnogi drwy gydol y flwyddyn academaidd ac ar ddechrau pob modiwl, bydd y tîm yn cynnal galwadau fideo i gyflwyno eu hunain a'r modiwl. Darperir cymorth academaidd drwy fyrddau trafod, adolygu ac adborth ar fersiynau drafft o waith a galwadau fideo neu ffôn. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, i ddarparu cymorth bugeiliol i drafod unrhyw beth sy'n effeithio ar eich gallu i astudio. Mae holl gynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno'n anghydamserol, sy'n golygu bod hyblygrwydd wrth astudio cynnwys modiwlau. Bydd rhywfaint o gynnwys cydamserol e.e. gweminarau, ond cewch wybod am y rhain ymlaen llaw. Mae asesiadau’r modiwlau’n 'adolygiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth', sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb i chi mewn rheoli poen. Maent yn cael eu cyflwyno ar-lein ar Turnitin. Mae'r rhaglen yn dechrau gyda Modiwl ar Ymchwil, Ystadegau a Meddygaeth sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth, sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi ddatblygu adolygiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae ystod eang o arddulliau addysgu a dysgu yn cael eu defnyddio drwy gydol y cwrs, a gyflwynir drwy fformat e-ddysgu ar amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, Dysgu Canolog™. Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol ac mae gan rai eraill is-bynciau lle mae gennych ddewis.

Defnyddir amrywiaeth o gyfryngau i gyflwyno'r cynnwys:

  • Modiwlau ar-lein, rhyngweithiol
  • Cyflwyniadau PowerPoint wedi’u trosleisio
  • Dolenni i adnoddau eraill ar-lein
  • Cyflwyniadau
  • Gweminarau.

Y myfyriwr fydd yn dewis asesiadau modiwlau a phynciau traethawd hir, ond mae'n rhaid i dîm y rhaglen eu cymeradwyo.

I raddau helaeth, bydd astudiaethau ar lefel traethawd hir MSc yn golygu astudiaeth ac ymchwil annibynnol dan arweiniad, gan ddefnyddio’r cyfleusterau dysgu ac ymchwil helaeth sydd ar gael.  Bydd goruchwyliwr prosiect yn cael ei ddynodi i’ch cefnogi a’ch cynghori ar ymchwilio i bwnc eich traethawd hir penodol a’i ysgrifennu.  

Sut y caf fy asesu?

Mae'r asesiadau wedi'u dewis i sicrhau bod y deilliannau dysgu yn cael eu profi'n briodol ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi eu bodloni.  Bydd dulliau asesu modiwlau penodol ar gyfer pob modiwl yn cael eu pennu gan y Bwrdd Astudiaethau perthnasol ac mae eu manylion ar gael yn y Disgrifiad o’r Modiwl perthnasol.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ffurfiannol a chrynodol, fel:

  • Cynlluniau/fersiynau drafft o Aseiniadau Ysgrifenedig
  • Aseiniadau Ysgrifenedig
  • Cwestiynau amlddewis
  • Byrddau trafod

Bydd traethawd hir yr MSc yn cael ei asesu’n gyfan gwbl ar sail y traethawd hir terfynol. Bydd y disgwyliadau ar gyfer fformat, cyflwyno a marcio'r traethawd hir yn dilyn y Rheoliadau Asesu cyfredol, a ategir lle bo'n briodol gyda gofynion ychwanegol y Rhaglen/Ysgol/Coleg ac unrhyw ofynion penodol sy'n deillio o natur y prosiect a gynhaliwyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd y garfan myfyrwyr yn cael galwadau fideo rhagarweiniol ar gyfer pob modiwl. Darperir cymorth ar-lein drwy fyrddau trafod e.e., i drafod cynnwys modiwlau, syniadau asesu, datblygu asesiadau, materion clinigol. Fe'ch anogir i gyfrannu’n rheolaidd i'r byrddau trafod ar Dysgu Canolog, lle cewch eich cefnogi gan dîm y rhaglen a phanel o arbenigwyr clinigol. Byddwch yn gallu cynllunio a myfyrio ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu mewn modiwlau ac asesiadau unigol, drwy eich blog personol eich hun (gellir tynnu hwn i'w gynnwys mewn Portffolios Proffesiynol/dilysu proffesiynol, ail-ddilysu).

Caiff tiwtor personol ei neilltuo i bob myfyriwr i gael cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol, a bydd yn cysylltu'n rheolaidd i drafod cynnydd a chynnig cyngor ac arweiniad fel bo angen.  Rhoddir adborth ysgrifenedig helaeth ar bob asesiad i'ch helpu a'ch arwain ar gyfer asesiadau yn y dyfodol.

Adborth

Er mwyn eich helpu a'ch arwain gyda'r gwaith o gynllunio, ysgrifennu a datblygu asesiadau, bydd adborth ffurfiannol yn cael ei roi drwy ddulliau electronig ac ysgrifenedig, mewn da bryd.  Darperir adborth crynodol ar asesiadau o fewn yr amserlen a nodir gan y Brifysgol.

Bydd goruchwyliwr personol yn cael ei ddynodi i fyfyrwyr yn ystod y cyfnod traethawd hir. Bydd yn rhoi adborth ysgrifenedig ar fersiynau drafft o’r traethawd hir, ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn ei gyflawni erbyn diwedd eich rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn nodi'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Ar ôl cwblhau eich Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

GD 1  Gwerthuso a chyfosod rolau cyflenwol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, timau amlddisgyblaethol, ymchwilwyr, comisiynwyr iechyd i bobl â phoen/cyflyrau poen, asesu'r gydberthynas rhwng gwahanol ddarparwyr gofal ac effeithiolrwydd rheoli poen mewn lleoliadau gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol

GD 2  Myfyrio'n feirniadol ar y rhyngweithio rhwng yr agweddau biolegol, cymdeithasol a seicolegol ar boen er mwyn darparu gofal i gleifion a’u rheoli mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd

GD 3  Myfyrio ar y systemau gofal iechyd/darpariaeth addysg yn y strwythur rheoli, sy'n gyson â rôl arwain uwch mewn lleoliad gofal iechyd

GD 4  Gwerthuso'r dystiolaeth sy'n ymwneud â rheoli poen o safbwynt sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan fyfyrio ar eich ymarfer clinigol eich hun a newidiadau a allai fod yn ofynnol ar gyfer datblygiadau arloesol i wella'r gwaith o ddarparu ac ymarfer gofal

GD 5  Datblygu gwybodaeth ryngbroffesiynol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth am boen a sut mae rheoli poen i gefnogi unrhyw fenter glinigol ac addysgol

Sgiliau Deallusol:

SD 1  Datblygu dull gwybodus o chwilio am dystiolaeth, gwerthuso a graddio cryfder y dystiolaeth, myfyrio ar gryfderau a gwendidau'r dystiolaeth a chyfosod y canlyniadau i lywio cwestiynau sy'n ystyrlon yn glinigol yn seiliedig ar sylfaen wybodaeth gadarn o ymchwil, arloesedd ac archwilio. Byddwch yn gwerthuso gwasanaethau gan ddefnyddio safbwynt damcaniaethol, gan hwyluso trafodaethau a dadleuon gyda'r gyfadran a chyfoedion

SD 2  Datblygu dull o arwain, gwneud newidiadau clinigol a darparu gofal clinigol gyda phersbectif beirniadol yn seiliedig ar eich gallu gwell fel ymarferydd myfyriol sy'n gallu defnyddio data, adnoddau a chanllawiau mewn modd arloesol, cynaliadwy ac adeiladol

SD 3  Llunio trafodaeth ddiduedd, wedi’i llywio gan ymchwil, sy'n canolbwyntio ar y claf ynghylch yr heriau o ran rheoli poen neu’r rhai sy’n byw â chyflyrau sy'n gysylltiedig â phoen ac atebion posibl iddynt.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

SY 1  Meistroli'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ddysgwr gydol oes sy'n dylanwadu ar ofal/addysg poen, gan ddefnyddio offer dilys a dibynadwy i werthuso newidiadau a wnaed

SY 2  Gwerthuso arferion presennol a dulliau ac agweddau traddodiadol o ddelio â phoen a’i reoli, mewn ffordd feirniadol

SY 3  Myfyrio ar ofal diogel, effeithiol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda phroffesiynoldeb priodol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

SA 1  Cymhwyso hunanymwybyddiaeth broffesiynol a hunanfyfyrio i'ch datblygiad proffesiynol eich hun mewn ffyrdd sy'n gwella eich ymarfer ac yn gwella canlyniadau cleifion. Nodi meysydd i wella ansawdd a darparu addysg gofal iechyd/poen sy'n seiliedig ar dystiolaeth

SA 2  Cynllunio, trefnu a rheoli gwaith cwrs yn effeithiol, gan ddangos annibyniaeth, mentergarwch a gwreiddioldeb

SA 3  Cyfathrebu'n glir ac yn gryno drwy ddysgu ar y cyd mewn amrywiaeth o arddulliau, gan ddefnyddio ystod o gyfryngau

SA 4  Cyfuno ac ystyried ymestyn arferion presennol drwy weithgareddau ymchwil

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £18,900 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Bydd cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus yn ychwanegu gwerth i'ch CV. Mae graddedigion wedi crybwyll bod y rhaglen wedi arwain yn uniongyrchol at ddyrchafiad, ac ysbrydolwyd llawer hefyd i ddilyn gyrfaoedd academaidd drwy astudio ymhellach hyd at PhD.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), dylai astudio ar y lefel hon helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos nifer o sgiliau academaidd y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a’r posibilrwydd o wella gwasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosibl wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arwain.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Medicine, Healthcare


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.