Therapi Galwedigaethol (MSc)
- Hyd: Tair blynedd
- Dull astudio: Rhan amser
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y cwrs hwn, ar gyfer therapyddion galwedigaethol sy'n ymarfer, yw datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau hanfodol i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa. Byddwn yn eich annog i ddefnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol ac i archwilio eich proffesiwn, gan eich galluogi i wneud cyfraniad ystyrlon at wella gofal cleifion.
Ymunwch â’r Ysgol orau yn y DU ar gyfer Therapi Galwedigaethol (BSc) yn ôl tablau’r Complete University Guide 2019. Ein MSc mewn Therapi Galwedigaethol yw un o'r ychydig gyrsiau yn y DU sydd ar gael i weithwyr proffesiynol cymwysedig, ac mae’n cynnig y cam nesaf i chi yn eich gyrfa.
Mae gan ein rhaglen gysylltiadau agos â Choleg y Therapyddion Galwedigaethol, sy'n golygu bod yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn gyfredol ac yn berthnasol. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn y theori a'r arfer sy'n canolbwyntio ar alwedigaeth gan ddatblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau hefyd. Byddwch yn datblygu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fynd ati i ymarfer yn arloesol, gan gymhwyso ymchwil a thystiolaeth i lywio arferion heddiw ac yfory yn eich gwlad frodorol a thu hwnt.
Mae hwn yn gwrs hyblyg sy'n eich galluogi i deilwra eich datblygiad proffesiynol eich hun i weddu i'ch anghenion, drwy ystod o fodiwlau therapi galwedigaethol a rhyngbroffesiynol fel datblygu eich sgiliau ym maes diogelwch cleifion neu drawsnewid systemau a gwasanaethau gofal drwy arweinyddiaeth. Byddwch hefyd yn ymdrin â meysydd craidd fel Gwyddor Alwedigaethol a Theori a Chymhwysiad Therapi Galwedigaethol.
Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd yn cefnogi eich dysgu. Caiff tiwtor personol ei ddyrannu i chi, fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau.
Yn ogystal, byddwch yn dysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol o fyfyrwyr byd-eang sy'n astudio ar wahanol gamau yn eu gyrfa, gan rannu gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth o ymarfer Therapi Galwedigaethol ledled y byd.
Byddwch yn rhan o rywbeth sy'n newid bywydau ac ewch ati i ymgymryd â her newydd heddiw.
Nodweddion unigryw
Join a School ranked 4th in the UK overall and 1st for our research environment in the 2014 Research Excellence Framework assessment (under Allied Health Professions, Dentistry, Nursing and Pharmacy). Here are some of the key features of why we think our Occupational Therapy programme is the right choice for you:
- The involvement of research-active and clinical staff in course design and delivery. Making sure you are learning the most relevant and up to date skills.
- We have close links with the College of Occupational Therapists meaning your learning is relevant and up to date.
- You will have academic support and be assigned a designated personal tutor throughout your Studies.
- The opportunity to learn in a School which is an accredited Joanna Briggs Centre.
- You also have the ability to tailor your module choices in a way that best fits your needs.
- The opportunity to become a student representative and shape future educational provision.
- Benefit from learning alongside a globally diverse group who are studying at various points in their career.
- All University teaching sessions are captured on video and made available online* for you to review and revisit your learning (*where appropriate to do so).
- If your first language is not English, there are open access English Language courses available
- We run an occupational therapy clinic on-site, providing you with the opportunity to observe and assist with assessment and treatment of clients with developmental disabilities. (This is not a required part of the course and your participation may require DBS checks)
Ble byddwch yn astudio
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.
Meini prawf derbyn
The programme is for qualified occupational therapists.
To be admitted to the course, students must be in possession of either:
A BSc honours degree in Occupational Therapy (with or without post registration clinical experience) awarded a 2.2 or higher (or equivalent).
OR
A Diploma in Occupational Therapy plus two years' practice experience.
Applications are judged on a ‘personal statement’ where a judgement is made on your suitability for the programme.
You must address the following points in your personal statement, this list is not exhaustive:
- Why have you selected this programme?
- What interests you about this programme?
- Any relevant experience related to the programme or module content.
- How you plan to use the qualification in your career.
- How you and your profession will benefit from your studies.
- Why you feel you should be given a place on the programme.
Application deadline: End of July of each academic year. Your application may be considered after this date, but it may be for a later intake.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Mae'r rhaglen MSc Therapi Galwedigaethol yn fodiwlaidd; rhaid i fyfyrwyr gwblhau 120 credyd yng nghydran a addysgir y rhaglen a 60 credyd arall yng nghydran y traethawd hir. Mae 90 credyd yn fodiwlau craidd a rhaid iddyn nhw gael eu cwblhau, ac mae 30 credyd yn ddewisol. Trefnir y modiwlau a addysgir mewn fformat bloc a chânt eu cynnal drwy gydol y semester.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau dau fodiwl craidd (60 credyd).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Occupational Science and Occupational Therapy Theory and Application | HCT236 | 30 credydau |
Research methods and data analysis in healthcare | HCT343 | 30 credydau |
Blwyddyn dau
Ym Mlwyddyn Dau byddwch yn cwblhau un modiwl dewisol (30 credyd) ac un modiwl craidd (30 credyd).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
The Art & Science of Occupational Therapy | HCT342 | 30 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Facilitating Learning and Teaching (non NMC Route) | HCT120 | 30 credydau |
Evidencing Learning in Specialist Professional Practice | HCT199 | 30 credydau |
Evidencing Learning in Specialist Professional Practice | HCT199 | 30 credydau |
Patient Safety and Clinical Risk | NRT073 | 30 credydau |
Transforming Care, Systems and Services through Leadership | NRT150 | 30 credydau |
Blwyddyn tri
Ym Mlwyddyn Tri byddwch yn cwblhau eich traethawd hir.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Empirical Dissertation | HCT117 | 60 credydau |
Empirical Dissertation | HCT117 | 60 credydau |
Dissertation M Level: Work-based Project | NRT079 | 60 credydau |
Dissertation M Level: Work-based Project | NRT079 | 60 credydau |
Dissertation M Level: Systematic Review of the Literature | NRT080 | 60 credydau |
Dissertation M Level: Systematic Review of the Literature | NRT080 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Addysgir yn bennaf drwy drafodaethau, sesiynau dan arweiniad darlithwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr, cyflwyniadau a thiwtorialau unigol. Ceir rhai darlithoedd hefyd.
Mae gwaith astudio hunangyfeiriedig yn rhan bwysig o'r cwrs, a chewch eich tywys drwy’r meysydd astudio.
Sut y caf fy asesu?
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfaoedd ac i ddefnyddio gwahanol ffyrdd o gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd. Y prosiect ymchwil yw penllanw datblygu’r sgiliau hyn.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, crèche a chyfleusterau dydd, cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae rhannu syniadau fel hyn yn eich galluogi i ddysgu ac elwa o brofiadau pobl eraill. Rhoddir cyfle am y math hwn o drafodaeth a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.
Byddwch yn cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Ddysgu Canolog- yn helaeth. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau.
Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiaeth o fformatau. Bydd y rhain yn cynnwys adborth llafar yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig a ddarperir drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth ysgrifenedig electronig ar waith cwrs a asesir drwy GradeMark. Gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol â'ch tiwtor personol.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau.
Dyma rai o’r nodweddion:
- Mapiau o’r campws
- Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
- Amserlen myfyrwyr
- Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
- Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
- Newyddion myfyrwyr
- Derbyn hysbysiadau pwysig
- Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu Canolog).
- Dolenni i apiau a argymhellir fel Nextbike, i helpu i wneud y mwyaf o brofiad myfyrwyr.
Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?
The Learning Outcomes for this Programme describe what you will be able to do as a result of your study at Cardiff University. They will help you to understand what is expected of you.
The Learning Outcomes for this Programme can be found below:
Knowledge & Understanding:
- an analytical and problem-solving approach and show advanced skills in implementing the occupational therapy process.
- Develop an in depth understanding of occupational therapy theory, the evidence behind it, and its application in practice.
- Confidence in initiating change and advancing the occupational therapy profession through scholarship and leadership.
Intellectual Skills:
- Evaluate practice and critically appraise advances or changes in professional practice.
- Ability to reflect on own practice and therapeutic use of self.
- Ability to engage in critical analysis, advanced scholarship, and research.
Professional Practical Skills:
- Develop standards of practice based on reflective thinking and problem-solving.
- Confidently link theory to practice.
Transferable/Key Skills:
- Critical appraisal skills and ability to manage a research based project.
- Ability to initiate change and advance the profession through research and critical thinking.
- Ability to communicate clear and concisely in both speech and writing, presenting well-considered arguments.
- Ability to work to deadlines and prioritise workload.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Gan fod y rhaglen hon yn dair blynedd neu'n hŷn ac mae ganddi gymhwyster cyfwerth ag amser llawn blwyddyn, ni fyddwch yn gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Mae gan Lywodraeth y DU fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig.
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Mae’r MSc Therapi Galwedigaethol yn cynnig cyfle i ddatblygu eich sgiliau o ran gwerthuso, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, a chynyddu eich gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol o ffisiotherapi fel eich bod yn gallu cymhwyso’r sgiliau hynny at symud eich proffesiwn ymhellach yn ei flaen.
Gall cymhwyster ôl-raddedig proffesiynol arwain at gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa mewn nifer o gyfeiriadau, o ymarfer uwch yn eich maes clinigol, i rolau rheoli neu arwain, neu i swyddi mewn addysg. Mae astudio ôl-raddedig a addysgir hefyd yn gam delfrydol tuag at astudio neu ymchwilio ymhellach.
Mae ein graddedigion wedi ennill rolau gan gynnwys:
- Swyddi therapi galwedigaethol
- Swyddi rheoli therapi galwedigaethol
- Swyddi addysgol fel darlithydd
- Cydymaith Ymchwil
- Ysgoloriaeth PhD
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2022.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.