Therapïau Gwybyddol ac Ymddygiadol (PgCert)
- Hyd: 1 flwyddyn
- Dull astudio: Rhan amser
Dyddiad cau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 30 Mehefin.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Bydd y rhaglen hyfforddiant hon a achredir gan BABCP yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau clinigol sydd eu hangen i chi gymhwyso fel therapydd seicolegol.
Achredir gan Gymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP)
Mae'r rhaglen hon yn bodloni safonau uchel addysg a osodwyd gan BABCP, a'r nod yw eich helpu i gael achrediad ymarferwr unigol gyda BABCP
Dyma'r unig gwrs achrededig ar Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yng Nghymru
Dyma'r unig raglen Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol yng Nghymru sydd wedi'i hachredu gan BABCP
4ydd yn y DU a 44fed yn y byd
Yn ôl rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau’r Byd 2020, mae ein Hysgol yn sgorio’n uchel am Seicoleg.
Addysgir gan ymarferwyr achrededig BABCP
Cewch eich addysgu gan ymarferwyr achrededig BABCP sydd ag amrywiaeth eang o brofiad proffesiynol, clinigol ac ymchwil.
Mae Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yn driniaeth siarad a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl ac mae tystiolaeth yn dangos ei fod yn helpu pobl i reoli amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl, fel gorbryder ac iselder.
Mae’r cwrs rhan-amser hwn ar gyfer gweithwyr iechyd meddwl, fel nyrsys iechyd meddwl, therapyddion galwedigaethol, seiciatryddion, ffisiolegwyr clinigol a gweithwyr cymdeithasol. Rydym hefyd yn cynnig llwybr arall o’r enw Asesiad Gwybodaeth a Sgiliau (KSA) sy’n galluogi ymarferwyr sydd â’r profiad a’r wybodaeth ddigonol i gyflawni’r lefel hyfforddiant cyfatebol.
Mae'r maes llafur yn seiliedig ar fframwaith cymhwysedd Roth & Pilling ar gyfer CBT ynghylch anhwylderau gorbryder ac iselder. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar CBT gydag oedolion, er ein bod hefyd yn croesawu ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion hŷn.
Mae’r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant o ansawdd uchel i ôl-raddedigion mewn Therapïau Gwybyddol ac Ymddygiadol (CBT), ac mae BABCP yn ei hachredu ar Lefel 1. Bydd yn rhaid i chi fodloni rhai meini prawf pellach, yn ogystal â’r cwrs, i gael achrediad ymarferydd llawn.
Mae gofyn am 100 awr o ymarfer i gyflawni’r cwrs, y mae angen i’r rhan helaeth ohono fod ar sail 1 i 1. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag anhwylderau Iselder a Gorbryder y byddwch yn dysgu amdanynt ar y rhaglen hyfforddiant.
Achrediadau
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Seicoleg
Dewch i astudio mewn amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, wedi'i lywio gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd mewn maes pwnc perthnasol, neu radd gyfatebol ryngwladol.
- Tystiolaeth bod gennych broffesiwn craidd ym maes iechyd meddwl neu bortffolio Gwybodaeth, Sgiliau ac Agweddau (KSA) (cysylltwch â cbt-admin@cardiff.ac.uk am ragor o fanylion).
- Tystiolaeth eich bod yn gweithio (cyflogedig neu ddi-dâl) yn y DU, a gallwch ymarfer CBT unigol gyda chleientiaid sy'n profi gorbryder ac iselder.
- Tystiolaeth bod gennych reolwr a goruchwyliwr clinigol (gall y rhain fod yr un person). Llenwch ffurflenni'r Rheolwr a'r Goruchwyliwr.
- Datganiad personol, sy'n darparu eich addasrwydd, diddordeb ac ymrwymiad personol i CBT.
- Tystiolaeth eich bod yn aelod o fyfyrwyr BABCP.
- Tystiolaeth o TGAU Saesneg iaith gradd C/4. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudiwyd yn y DU, rhowch hyn yn lle TGAU.
- Copi wedi'i gwblhau o'r ffurflen Cwestiynau Ychwanegol.
Sylwer y dylech wneud cais am y dystysgrif ôl-raddedig (PgCert) yn y lle cyntaf oni bai bod gennych dystysgrif CBT achrededig BABCP o Brifysgol Caerdydd neu sefydliad arall.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Y dyddiad cau yw 30 Mehefin. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael o hyd.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad, a gynhelir ym mis Awst fel arfer. Gwneir cynigion yn seiliedig ar ganlyniad y cyfweliad.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Lawrlwythiadau ymgeisio
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Os nad ydych yn gweithio i’r GIG ar hyn o bryd bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) os yw’ch cais yn llwyddiannus. Os ydych yn gwneud cais o wledydd penodol dramor neu wedi byw mewn gwledydd penodol, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da. Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y siec a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.
Strwythur y cwrs
Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig (PgCert) yn cynnwys cyfres o ddiwrnodau hyfforddi sy'n dechrau ym mis Medi.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Hanfodion CBT | PST401 | 20 credydau |
CBT ar gyfer Anhwylderau Penodol | PST402 | 40 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy 14 diwrnod o hyfforddiant seiliedig ar sgiliau. Mae'n ofynnol i chi fynychu pob un o'r pedwar diwrnod hyfforddi cyntaf. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o'r sylfaen ddamcaniaethol ac ymchwil ar gyfer CBT. Bydd y diwrnodau hyfforddi hyn yn cynnwys addysgu didactig, trafodaeth, fideo, deunydd clinigol, myfyrdodau ar ymarfer, chwarae rôl ac ymarferion drwy brofiad i annog y rhai sy’n cymryd rhan i fyfyrio ar gysylltiadau rhwng theori, ymchwil ac ymarfer. Bydd 10 diwrnod hyfforddi arall yn ceisio datblygu eich dealltwriaeth a'ch sgiliau wrth gymhwyso technegau CBT i anhwylderau penodol fel y nodir yn y Fframwaith Cymwyseddau (Yr Adran Iechyd, 2008).
Disgwylir i chi fynychu o leiaf wyth o’r deg diwrnod hyfforddiant, ymarfer y sgiliau y cawsoch eich dysgu yn eich ymarfer CBT eich hun a bod yn barod i drafod eich gwaith clinigol mewn diwrnodau hyfforddi.
Sut y caf fy asesu?
Mae'r cwrs yn gofyn i chi gwblhau traethawd, astudiaeth achos a dau naratif clinigol estynedig. Byddwch hefyd yn cadw llyfrau log dros y flwyddyn yn nodi manylion gweithgareddau sy'n gysylltiedig â CBT.
Sut y caf fy nghefnogi?
Bydd gennych diwtor personol i oruchwylio gofal bugeiliol, a bydd cyfleoedd i chi ymgynghori â'r staff addysgu a chymryd rhan mewn trafodaethau â hyfforddwyr gwadd.
Bydd Llawlyfr y Rhaglen yn cynnwys gwybodaeth fanwl am y rhaglen astudio gan gynnwys canllawiau ar gwblhau gwaith a asesir. Bydd amlinelliad o’r cwrs, y llawlyfr a’r amserlenni ar gael ar wefan Prifysgol Caerdydd, a bydd gennych fynediad i Lyfrgell Prifysgol Caerdydd, llyfrgell fechan sy’n cynnwys testun allweddol yng nghanolfan y cwrs, ac adnoddau ar-lein drwy wefan Prifysgol Caerdydd.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £4,500 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd gan raddedigion o'r cwrs dystiolaeth o sgiliau mewn Therapïau Gwybyddol Ymddygiadol, a gydnabyddir gan BABCP, y gellir eu defnyddio mewn nifer o feysydd cyflogaeth.
I wneud cais am achrediad, yn gyntaf mae angen i chi fod â chefndir proffesiynol cydnabyddedig BABCP ym maes iechyd meddwl y mae'r BABCP yn ei alw'n Broffesiwn Craidd. Os nad yw eich proffesiwn iechyd meddwl blaenorol wedi'i restru yma, neu os nad ydych yn bodloni'r meini prawf yn llawn, cydnabyddir hyfforddiant a phrofiad cyfatebol mewn iechyd meddwl drwy Lwybr Achrediad KSA.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Seicoleg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.