Ymchwil Glinigol (MSc)
- Hyd: 3 blynedd
- Dull astudio: Rhan amser yn dysgu o bell
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd
Does dim modd gwneud cais ar hyn o bryd. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn
Mae'r cwrs dysgu o bell rhan-amser hwn yn cynnig gwybodaeth ac arbenigedd helaeth sy'n berthnasol i'r rhai sy'n gweithio mewn treialon clinigol. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai mewn rôl uwch mewn ymchwil glinigol mewn ymchwil fferyllol, biotechnoleg, dyfeisiau, contractau neu gwmni rheoli safle neu'r GIG.
Arwain arfer gorau ym maes ymchwil glinigol
Ewch ati i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o arfer gorau ym maes ymchwil glinigol er mwyn ei defnyddio wrth gynnal treialon clinigol.
Hyfforddiant uwch i wella gyrfa ym maes arwain treialon clinigol
Ewch ati i wneud hyfforddiant manwl ar ddatblygu cyffuriau, therapiwteg, treialon clinigol a gofynion arfer clinigol da ar gyfer rheoleiddio treialon clinigol.
Gwybodaeth gan y diwydiant fferyllol
Manteisiwch ar y datblygiadau allweddol diweddaraf ym maes ymchwil glinigol drwy gael gwybodaeth gan y diwydiant fferyllol.
Professional networking opportunities
The diversity of employment backgrounds of participants provides an ideal environment for networking with other clinical research personnel.
Internationally recognised School with close academic support
Opportunity to undertake a research project at an internationally recognised research school, and receive close academic support from an experienced personal tutor.
Mae'r cwrs MSc Ymchwil Glinigol wedi'i ddylunio i wella a datblygu eich gyrfa ym maes Ymchwil Glinigol yn y diwydiant fferyllol, gwasanaethau iechyd, sefydliadau ymchwil o dan gontract, awdurdodau rheoleiddio, sefydliadau rheoli data ac ysgrifennu meddygol.
Ei nod yw dysgu lefel uwch o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i chi ym maes ymchwil glinigol. Mae'n cynnig trosolwg o brosesau treial clinigol a'r rheoliadau ar gyfer cyflwyno endid cemegol newydd, ac mae'n rhoi lefel uwch o wybodaeth a dealltwriaeth o feysydd therapiwtig a'u triniaethau mewn perthynas â threialon clinigol, cofrestriadau cyffuriau a diogelwch cyffuriau. Mae dulliau ymchwil glinigol a sgiliau dadansoddi data yn cael eu haddysgu a'u hymgorffori drwy'r rhaglen gyfan. Byddwch yn dangos ac yn cael eich asesu yn y sgiliau hyn fel rhan o'r traethawd ymchwil hir yn y drydedd flwyddyn.
Lluniwyd y cwrs i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ym maes Ymchwil Glinigol yn ogystal ag amrywiaeth eang o feysydd therapiwtig. Mae hyn yn caniatáu i chi symud yn hyderus rhwng meysydd therapiwtig a chynyddu eich gwerth posib i gyflogwyr. Yn y flwyddyn traethawd hir, cewch eich annog i gwblhau prosiect sydd o werth uniongyrchol i'ch cyflogwr.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol
Rydym ar flaen y gad o ran datblygu sgiliau clinigol, ac mae gennym enw da rhyngwladol am ein haddysgu a’n hymchwil.
Meini prawf derbyn
Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.
Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:
- Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel gwyddorau biolegol neu fywyd neu bwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
- copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. Dylech hefyd ddarparu tystiolaeth o gofrestru proffesiynol gyda'r corff rheoleiddio perthnasol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.
Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrion
- Rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Cyflwynir y rhaglen yn rhan amser dros dair blynedd.
Bydd myfyrwyr yn astudio tri modiwl craidd gwerth 20 o gredydau yn y flwyddyn gyntaf.
Yn yr ail flwyddyn, bydd myfyrwyr yn astudio dau fodiwl craidd gwerth 20 o gredydau, ac yn dewis un modiwl dewisol gwerth 20 o gredydau o restr o bum opsiwn. Efallai na fydd yn bosibl cynnal modiwlau dewisol mae pump neu lai o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer y modiwl. Mae hyn yn golygu efallai na fydd yr holl fodiwlau dewisol ar gael i chi eu hastudio mewn blwyddyn benodol.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau prosiect unigol gwerth 60 o gredydau yn y drydedd flwyddyn.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.
Blwyddyn un
Byddwch yn astudio 60 o gredydau mewn tri modiwl gwerth 20 o gredydau yn y flwyddyn hon. Mae’r modiwl cyntaf yn trafod datblygiad cyn-glinigol therapi. Mae’r ail fodiwl yn trafod ffarmacoleg glinigol gan gynnwys mecanweithiau gweithredu cyffuriau a ffarmacocineteg. Mae’r trydydd modiwl yn trafod camau cynnar ymchwiliad clinigol mewn treialon clinigol cam I a cham II.
Cewch symud ymlaen i ail flwyddyn y rhaglen wrth ei gwblhau yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr yn dewis pa un o’r modiwlau dewisol gwerth 20 o gredydau yr hoffent eu hastudio yn yr ail flwyddyn tua diwedd y flwyddyn gyntaf (Mawrth). Caiff myfyrwyr wybod pa fodiwl y byddant yn ei astudio ar ôl cwblhau holl fodiwlau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Moleciwl i'r Clinig | PHT105 | 20 credydau |
Ffarmacoleg Glinigol | PHT106 | 20 credydau |
Ymchwiliad clinigol cam cynnar: Y cyntaf mewn pobl i ddiwedd cam 2 | PHT107 | 20 credydau |
Blwyddyn dau
Yn y flwyddyn hon, byddwch yn astudio 60 o gredydau, dau fodiwl craidd 20 o gredydau ac un modiwl dewisol y gallwch ei ddewis. Mae’r modiwl cyntaf yn parhau â threialon clinigol cam II i gam III a’r broses gymeradwyo. Mae’r ail fodiwl yn symud i gam IV treialon clinigol a marchnata therapïau newydd.
Byddwch yn astudio 20 o gredydau ychwanegol o blith y modiwlau dewisol sydd ar gael. Efallai na fydd yn bosibl cynnal modiwlau dewisol mae pump neu lai o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer y modiwl. Mae hyn yn golygu efallai na fydd yr holl fodiwlau dewisol ar gael i chi eu hastudio mewn blwyddyn benodol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Treialon clinigol cam hwyr: Cam 3 i Gymeradwyo Awdurdodi Marchnata | PHT205 | 20 credydau |
Mynediad i'r farchnad ac ôl-gymeradwyo | PHT206 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Pynciau ymchwil clinigol: Offer diagnostig a dyfeisiau Meddygol | PHT221 | 20 credydau |
Pynciau ymchwil clinigol: CNS ac iechyd meddwl | PHT222 | 20 credydau |
Pynciau ymchwil clinigol: cardiofasgwlaidd ac anadlol | PHT223 | 20 credydau |
Pynciau ymchwil clinigol: Canser, bioleg a therapi genynnau | PHT224 | 20 credydau |
Pynciau ymchwil clinigol: Haint | PHT225 | 20 credydau |
Blwyddyn tri
Yn y flwyddyn hon, byddwch yn parhau ac yn ysgrifennu traethawd MSc hir (60 o gredydau).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dulliau Ymchwil | PHT301 | 60 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Addysgir y cwrs drwy gyfres o bodlediadau, ymarferion ffurfiannol ar-lein, tiwtorialau ar-lein a fforymau trafod.
Mae astudiaeth hunangyfeiriedig yn rhan bwysig o'r cwrs a chewch eich cyfeirio at sgiliau astudio penodol i gynorthwyo eich dysgu.
Er mwyn helpu eich cynnydd, darperir amserlenni astudio enghreifftiol a chyfleoedd rheolaidd i gysylltu â staff academaidd mewn sesiynau tiwtorial ar-lein i gynnig cyfleoedd i gael arweiniad ac adborth ffurfiannol ar gynnydd.
Bydd adnoddau dysgu ar-lein ar gael drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Dysgu Canolog). Cynhelir tiwtorialau ar-lein gan ddefnyddio system gynadledda'r Brifysgol (Collaborate).
Sut y caf fy asesu?
Mae asesiadau'n mesur cynnydd academaidd tuag at y deilliannau dysgu ar gyfer pob modiwl. Mae llawer o fodiwlau'n cynnwys asesiadau ffurfiannol (asesiadau nad ydynt yn cyfrif tuag at farc y modiwl) y bwriedir iddynt roi adborth ac arwydd o'ch cynnydd.
Mae dulliau asesu crynodol (asesiadau sy'n cyfrif tuag at farc y modiwl) yn amrywio yn dibynnu ar y modiwl a'u deilliannau dysgu penodol. Mae portffolios, cyflwyniadau llafar, aseiniadau ysgrifenedig fel traethodau, aseiniadau myfyriol, adolygiadau dadansoddol a dadansoddi/dehongli data ymysg y dulliau.
Asesir prosiect ymchwil y flwyddyn olaf drwy gyflwyno traethawd hir, sy'n gofyn am adolygiad llenyddiaeth sylweddol a thystiolaeth o ddadansoddi pwnc ym maes ymchwil glinigol. Bydd asesiad o'r traethawd ymchwil yn canfod i ba raddau y gallwch arddangos sgiliau ysgrifennu gwyddonol, dadansoddi data, meddwl yn feirniadol a chymhwyso dull gwyddonol o ddatblygu gwybodaeth neu ddealltwriaeth newydd.
Sut y caf fy nghefnogi?
Rhaglen ymsefydlu gychwynnol ar gyfer ymgyfarwyddo a chyflwyno'r rhaglen.
Llawlyfr myfyrwyr a Chanllaw i Raglenni Modiwlaidd.
- Darparu llinell amser astudiaeth ddangosol, mynediad at diwtorialau ar-lein rheolaidd ac ymarferion a aseswyd yn ffurfiannol.
- Llyfrgell helaeth ac adnoddau dysgu eraill gan gynnwys ystafelloedd TG.
- Mynediad at gyfrif ebost myfyriwr ac adnoddau electronig a dysgu (Dysgu Canolog).
- Cynigir adborth wedi'i bersonoli a mynediad at staff academaidd yn ystod sesiynau tiwtorial ar-lein dethol.
- Neilltuir tiwtor personol i bob myfyriwr i'ch cefnogi yn eich astudiaethau.
- Mynediad electronig at ddarparwyr cynnwys.
- Mynediad hawdd at Gyfarwyddwr y Cwrs.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i'ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant hefyd yn eich helpu i ddeall yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych.
Gellir gweld y Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon isod:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- dealltwriaeth systematig o egwyddorion ffarmacoleg a ffarmacocineteg a'u defnydd ym maes ymchwil glinigol
- ymwybyddiaeth feirniadol o egwyddorion moeseg profi dynol a sut y mae'r rhain yn cael eu diogelu gan gyrff rheoleiddio rhyngwladol (Ewrop, Siapan ac UCA)
- dealltwriaeth gynhwysfawr a chymhwyso Arfer Clinigol Da sy'n berthnasol i ymchwil glinigol
- ymwybyddiaeth feirniadol o'r egwyddorion sylfaenol, nodau a rheoli'r camau gwahanol mewn treial clinigol
- gallu dadansoddi, asesu'n feirniadol, dehongli ac adrodd ar ddata ymchwil glinigol
- dealltwriaeth feirniadol a gwybodaeth am sut caiff therapiwteg eu cymeradwyo i'w defnyddio, a rôl economeg iechyd yn y penderfyniadau hynny
- dealltwriaeth a gwybodaeth am ddatblygu therapiwteg cyn-glinigol a cherrig milltir allweddol ar y daith i brofi clinigol.
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:
Sgiliau Deallusol:
- gallu nodi ffynonellau gwybodaeth priodol i lywio gwybodaeth a dealltwriaeth o'r pynciau sy'n gysylltiedig ag ymchwil glinigol
- gallu arfarnu'n feirniadol, crynhoi, dehongli a chyfleu canfyddiadau ymchwil glinigol i gynulleidfaoedd lleyg neu arbenigol
- sgiliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol sy'n ofynnol i nodi a datrys problemau posibl ym maes ymchwil glinigol.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
- ysgolheictod ar lefel uwch a phrofiad ymarferol wrth ddylunio, dehongli ac adrodd ar ddata ymchwil glinigol
- gallu gwerthuso methodolegau ym maes ymchwil glinigol a datblygu beirniadaeth ohonynt
- gallu dehongli a chymhwyso'r egwyddorion Arfer Clinigol Da i gynnal ymchwil.
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
- gallu ysgrifennu am ddulliau cynnal, canfyddiadau a dehongli ymchwil glinigol yn gryno, yn wrthrychol ac yn eglur i gynulleidfaoedd lleyg neu arbenigol
- gallu arfarnu eich gwaith eich hun a gwaith eraill yn feirniadol
- gallu dadansoddi a dehongli data ymchwil meintiol ac ansoddol
- gallu bod yn annibynnol ac yn ddysgwr hunangyfeiriedig sy'n gallu hunanfyfyrio'n feirniadol a gweithredu ar hyn.
Beth yw deilliannau dysgu’r cwrs/rhaglen?
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £3,817 | Dim |
Blwyddyn dau | £3,817 | Dim |
Blwyddyn tri | £3,817 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £9,150 | £2,500 |
Blwyddyn dau | £9,150 | Dim |
Blwyddyn tri | £9,150 | Dim |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Arian
Gyrfaoedd graddedigion
Mae ymchwil glinigol yn faes sy'n ehangu ac yn hynod gystadleuol. Bydd ymgymryd â'r MSc hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu a gwella eich gyrfa mewn ymchwil glinigol.
Mae'r rhaglen hon yn addas ar gyfer graddedigion o ofal iechyd, y gwyddorau bywyd neu ddisgyblaethau cysylltiedig eraill, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn treialon clinigol yn y gwasanaeth iechyd, fferyllol, biotechnoleg, diwydiannau dyfeisiau, Sefydliadau Ymchwil Contract/cyflenwyr i'r diwydiant fferyllol. Mae hefyd yn gwrs delfrydol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn treialon clinigol ac sydd am ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach o dreialon clinigol.
Mae cyfleoedd gyrfa posibl yn cynnwys treialon clinigol, ymchwil glinigol, rheoli data clinigol, rheoleiddio treialon clinigol, ysgrifennu meddygol, treialon clinigol academaidd, unedau treialon clinigol Cam I, y diwydiant fferyllol, ysbytai, archifo mewn treialon clinigol, sicrwydd ansawdd mewn treialon clinigol, rheoli prosiectau ymchwil, gweinyddu treialon clinigol, cydlynydd treialon clinigol, gweinyddu treialon clinigol/cymorth i dreialon clinigol a mwy.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych statws uwch yn glinigol ac yn academaidd, gyda'r potensial i fod ar flaen y gad yn eich dewis o broffesiwn.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Pharmacy and Pharmaceutical Sciences
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.