Optometreg Glinigol (MSc)
- Hyd: 5 mlynedd
- Dull astudio: Dysgu cyfunol rhan amser
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y rhaglen hon yw rhoi’r cyfle i optometryddion ymgymryd â rhaglen lefel 7 heriol a buddiol ym maes optometreg glinigol, sy’n canolbwyntio ar eu datblygiad personol fel gweithwyr proffesiynol sy’n arwain, yn rheoli ac yn datblygu rolau ymarfer offthalmig a modelau darparu gofal.
Wedi'i lunio ar gyfer y gweithwyr proffesiynol modern ym maes gofal llygaid
Wedi’i lunio i ddiwallu anghenion hyfforddiant ac addysg barhaus gweithwyr proffesiynol modern ym maes gofal llygaid, wrth iddynt gyflawni gradd uwch ar yr un pryd.
Cronni credydau
Mae'r rhaglen hon yn rhan o'n cynnig unigryw i gronni credydau sy'n cyfuno ein modiwlau optometreg glinigol unigol, PgCert, PgDip ac MSc yn un rhaglen optometreg glinigol ar lefel MSc.
Nod y rhaglen hon yw rhoi’r cyfle i optometryddion ymgymryd â rhaglen lefel 7 heriol a buddiol ym maes optometreg glinigol, sy’n canolbwyntio ar eu datblygiad personol fel gweithwyr proffesiynol sy’n arwain, yn rheoli ac yn datblygu rolau ymarfer offthalmig a modelau darparu gofal.
Dyluniwyd y cwrs Optometreg Glinigol lefel MSc ar gyfer optometryddion mewn meysydd cynradd, eilaidd a thrydyddol sy’n dymuno hybu eu sylfaen wybodaeth, a sgiliau clinigol ac arwain arbenigol. Byddwch yn cymryd rhan amlwg mewn datblygu optometreg.
Gall myfyrwyr gwblhau cyn lleied â 10 neu gynifer â 180 o gredydau ar y rhaglen hon. Fe'i cynlluniwyd i ddiwallu anghenion addysg a hyfforddiant parhaus y gweithiwr gofal llygaid proffesiynol modern sy'n darparu gwybodaeth uwch ac sy’n hwyluso dealltwriaeth yn y maes gofal iechyd hwn sy'n ehangu'n gyflym, gan gyflawni gradd uwch ar yr un pryd.
Cynigir portffolio eang o fodiwlau yn fwriadol er mwyn cydnabod yr awydd cynyddol am hyfforddiant arbenigol ym maes optometreg, gan gynnwys glawcoma, gofal llygaid acíwt, pediatreg, llygaid sych, retina meddygol, addysgu clinigol ac arweinyddiaeth, ymhlith eraill. Awgrymir llwybrau rhaglenni penodol i’r rhai sy’n dymuno canolbwyntio ar feysydd ymarfer penodol.
Bydd myfyrwyr llwyddiannus ar y rhaglen hon mewn sefyllfa well yn glinigol ac yn academaidd, gan eu rhoi ar flaen y gad yn y proffesiwn a gwella eu datblygiad personol a phroffesiynol
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg
Mae ein myfyrwyr yn elwa o addysgu rhagorol ac ymarferol mewn amgylchedd ymchwil arloesol.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- full GOC registration (UK students) - if you are registered with the GOC you will need to provide your GOC number in the Membership of Professional Bodies section of the application form and do not need to provide evidence of your previous qualifications or references (where it asks for this information please write not-applicable)
- an Honours degree in Optometry or a professional optometric qualification.
Candidates who have studied at a postgraduate level in clinical optometry elsewhere (such as City or Aston Universities) can be considered for access to the programme at Cardiff University. This will be done via recognition of prior learning (RPL), and candidates must submit documentary evidence to support such an application e.g. through records of achievement documents, portfolios, and clinical records.
English language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Other essential requirements:
If you are not registered with the GOC you will need to provide a written professional reference which is signed, dated, and supplied on the University’s reference form or headed paper. The reference will need to comment specifically on your slit-lamp technique to assess the anterior eye and slit-lamp Volk technique to assess the retina. If it is not possible to provide a professional reference academic references will be considered.
You will also need to supply a personal statement which clearly states the modules you intend to study and your clinical experience including your ability to use the slit-lamp technique to assess the anterior eye and slit-lamp Volk technique to assess the retina. Please see the module list for for more information on the range of optional modules we offer. There is a very high demand for certain modules and places are allocated on the basis of date of application. If a module is full, wherever possible, we will offer the applicant a place on the next available occurrence.
Modules that are accredited by the College of Optometrists must be completed in order i.e. students must achieve the College’s Professional certificate before selecting the module accredited for the College’s Higher Certificate, and must achieve the College’s Higher Certificate before selecting to the module accredited for the College’s Diploma.
Application Deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible. Late applications, or if the intake is full, will automatically be deferred to the next available intake.
Selection process:
As the scope of optometric practice varies considerably around the world, interviews may be held with non-UK optometrists, in person or using Skype, to ensure practitioners have the relevant clinical skills required to undertake this course. You may be required to have particular clinical skills that will be confirmed through references and interview and/or may need to complete primary care modules prior to completing other modules.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement
- contact with people related to Cardiff University.
Strwythur y cwrs
Fel rhan o'r rhaglen Optometreg Glinigol ar lefel MSc, gallwch astudio hyd at 120 credyd o fodiwlau a addysgir o ddetholiad o fodiwlau ôl-raddedig sydd ar gael gan yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg.
Os ydych am gwblhau Gradd Meistr mewn Optometreg Glinigol; bydd angen i chi astudio 'Sgiliau Astudio ac Ymchwil' ynghyd â modiwl prosiect ymchwil (60 credyd) sy'n dechrau ym mis Medi bob blwyddyn academaidd. Bydd tîm y rhaglen yn eich cynghori ar y cyfle mwyaf priodol i astudio'r modiwl hwn.
Bydd eich cofnodion yn parhau i fod yn weithredol am bum mlynedd, ac yn yr amser hwnnw gallwch gwblhau rhwng 10 a 120 o gredydau a addysgir. Os ydych am orffen astudio ar bwynt penodol, efallai y byddwch yn gallu graddio gyda thystysgrif ôl-raddedig os bydd gennych rhwng 60 a 110 credyd neu ddiploma ôl-raddedig os bydd gennych 120 credyd ar Lefel 7.
Bydd angen i chi gofrestru bob blwyddyn, ond efallai y byddwch yn dewis peidio ag astudio unrhyw fodiwlau am hyd at ddwy flynedd yn olynol. Fodd bynnag, bydd cymryd amser i ffwrdd o'ch astudiaethau yn effeithio ar yr amser sydd ar gael i gyflawni MSc llawn o fewn cyfnod o bum mlynedd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Blwyddyn un
Bydd wythnos ymsefydlu ar ddechrau'r tymor ym mis Medi.
Gallwch ddewis o'r modiwlau sydd ar gael gan yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ym mis Medi ac eto ym mis Mawrth.
Os nad ydych yn defnyddio lamp hollt yn rheolaidd, yn cysylltu â thonometreg neu biomicrosgopeg Volk, bydd gofyn i chi gwblhau Diweddariad Ar Ofal Llygaid Sylfaenol: – Ymarferol cyn y gallwch ddechrau unrhyw fodiwlau eraill gyda sgiliau clinigol uwch.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Gall modiwlau fod yn wahanol, ond gallwch ddisgwyl cael eich addysgu ar-lein drwy ddarlithoedd, tiwtorialau Xerte a gweminarau, gan fynychu gweithdai ar gyfer rhai modiwlau clinigol. Mae gan rai modiwlau gyfarfodydd un i un gyda thiwtor dros Skype.
Byddwch yn astudio ochr yn ochr ag optometryddion eraill sy'n astudio'n rhan-amser.
Ategir darlithoedd a thiwtorialau gan y cyfeiriadau a'r adnoddau priodol, yn ogystal ag ymarferion asesu. Mae cymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein wedi'u cymedroli yn nodwedd bron i bob modiwl.
Bydd gweithdai ymarferol ar gyfer hyfforddiant sgiliau yn cael eu cynnal mewn lleoliadau sy'n gyfleus naill ai i gynnwys y modiwl neu'r garfan myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y pryd, o dan gyfarwyddyd arweinwyr addysgol yn y ddisgyblaeth honno.
Sut y caf fy asesu?
Bydd pob modiwl yn cael ei asesu'n ffurfiannol ac yn grynodol yn unol â strategaeth asesu pob modiwl penodol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau asesu gan gynnwys y canlynol:
- Aseiniad (damcaniaethol a myfyriol)
- Cyflwyniadau/ Cyflwyniadau/seminarau a adolygir gan gymheiriaid
- Trafodaethau/ seminarau/ gweithdai
- Senarios achos
- Gweithdai clinigol wedi'u hefelychu
- Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol
- Profion cwestiynau amlddewis yn yr ystafell ddosbarth.
- Arholiadau ymarferol.
- Senarios Nodweddion Allweddol (a ddefnyddir mewn addysg feddygol i brofi rhesymu clinigol, gallu datrys problemau a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth benodol).
- OSCEs - Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol.
- Wicis grŵp.
- Blogiau
- Adroddiad prosiect ymchwil ysgrifenedig.
Mae'r asesiadau a ddefnyddir yn y rhaglen yn ymwneud â mesur ymarfer proffesiynol, academaidd a chlinigol.
Bydd adborth yn cael ei ddarparu ar bob asesiad, a bydd ar gael drwy Dysgu Canolog neu mewn fformatau ysgrifenedig neu lafar ar gyfer adroddiadau ysgrifenedig a gwaith cwrs, ac yn ysgrifenedig a/neu ar lafar ar gyfer cyflwyniadau ac arholiadau ymarferol.
Bydd y drafodaeth drwy fforymau ar-lein yn cael ei chymedroli gan arweinwyr modiwlau, gan roi mewnbwn a chyfle iddyn nhw gynnig adborth ar unwaith.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ddechrau eich cwrs ceir modiwl ymsefydlu. Bydd hwn yn eich helpu i ganfod eich ffordd o amgylch Dysgu Canolog a bydd hefyd yn darparu gwybodaeth gyffredinol am sut bydd ein timau gweinyddu a TG yn eich cefnogi chi.
Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, crèche a chyfleusterau dydd, cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eu galluoedd deallusol eu hunain, mae rhannu syniadau fel hyn yn eu galluogi i ddysgu ac elwa o brofiadau pobl eraill. Rhoddir cyfle am y math hwn o drafodaeth a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.
Mae pob myfyriwr yn cael tiwtor personol penodol o’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- myfyrio'n feirniadol ar wybodaeth am faterion cymhleth, dadleuol a/neu gynhennus sy'n ymwneud ag ymarfer optometrig
- gwerthuso a chymhwyso cysyniadau allweddol modern ymarfer optometrig i heriau yn eich amgylchedd eich hun a meysydd ymarfer arbenigol
- rhoi sylw i fudd gwaith tîm rhyngbroffesiynol mewn ymchwil a / neu ddarpariaeth gofal offthalmig a myfyrio ar hynny
Sgiliau Deallusol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- archwilio, dadansoddi’n feirniadol, cyfosod a gwerthuso llenyddiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, canllawiau clinigol a theorïau sylfaenol mewn ymarfer optometrig i asesu arferion a dulliau rheoli mewn gofal offthalmig
- datrys problemau offthalmig clinigol, a chreu atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth;
- cyflwyno dadleuon cytbwys a gwybodus, gan ymgorffori
barn feirniadol a gwneud penderfyniadau mewn gwaith ysgrifenedig a chyflwyniadau/dulliau asesu amgen;
- myfyrio'n effeithiol ar ddysgu a'i werthuso
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- asesu arwyddion a symptomau clefyd y llygaid i wneud diagnosis gwahaniaethol ac i raddio opsiynau ar gyfer rheoli
- datrys problemau a datblygu atebion/cynlluniau rheoli mewn meysydd ymarfer cymhleth ac arbenigol yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol a chlinigol gadarn
- cyfrannu drwy eich ymchwil eich hun at ddatblygu sylfaen wybodaeth a thystiolaeth eich proffesiwn, gan ddangos annibyniaeth meddwl drwy arloesi
Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:
Meistrolaeth mewn sgiliau academaidd
- datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth eich hun
- cymharu a chyfosod gwybodaeth o sawl adnodd i wella dysgu
- ysgrifennu'n gryno ac yn glir ar gyfer y gymuned academaidd a chlinigol
- dehongli data
Meistrolaeth mewn sgiliau generig
- rheoli prosiectau ac amser
- gweithio'n annibynnol
- defnyddio ystod o becynnau meddalwedd TG ac adnoddau ar-lein
- datrys problemau
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Codir tâl am y cwrs hwn ar sail fesul modiwl. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar ffioedd dysgu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Codir ffioedd ar gyfer y cwrs hwn fesul modiwl. Ewch i'n tudalen Cyrsiau a godir ffi fesul modiwl am ragor o wybodaeth.
Costau ychwanegol
Bydd gofyn i chi dalu am gostau teithio i'r Brifysgol, cynhaliaeth a llety ar gyfer diwrnodau cyswllt penodol
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Darperir yr holl offer.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd graddedigion
Bydd y cwrs hwn yn galluogi optometryddion i ddatblygu eu gyrfaoedd. Ar ben hynny, yn dibynnu ar ba fodiwlau a ddewisir, gall fod yn dawelwch meddwl bod ymarferwyr yn gymwys i weithio mewn clinigau arbenigol fel yr amlinellir yng Ngholeg Brenhinol yr Offthalmolegwyr a Fframwaith Cymwyseddau ar y cyd Coleg yr Optometryddion ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Er enghraifft, mae'r modiwl Retina a Glawcoma Meddygol yn cyd-fynd â'r Fframweithiau Cymwyseddau Retina a Glawcoma Meddygol yn y drefn honno.
Nodwch nad yw’r radd meistr hon yn arwain at gofrestriad proffesiynol llawn gyda’r Cyngor Optegol Cyffredinol, ac nid yw’n golygu bod myfyrwyr yn gymwys i ymarfer yn y DU. Efallai y bydd y Cyngor Optegol Cyffredinol yn gofyn i chi ymgymryd â blwyddyn Cyn-cofrestru mewn ymarfer dan oruchwyliaeth a chymhwyso drwy sefyll arholiadau Coleg yr Optometryddion. Ni ellir gwneud hyn yn ystod eich rhaglen Meistr gyda ni ac nid ydym yn dod o hyd i leoliad Cyn-cofrestru ar eich cyfer chi. Os dyma'r hyn yr hoffech ei wneud, bydd angen i chi gysylltu â'r Cyngor Optegol Cyffredinol i gael cyngor. Ystyrir pob cais i'r Cyngor Optegol Cyffredinol yn unigol, felly mae'n cymryd peth amser i'w brosesu.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Dewisiadau eraill y cwrs
Rhagor o wybodaeth
Pynciau cysylltiedig: Optometreg , Gwyddorau'r golwg
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.