Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Cyfieithu (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

This programme offers core training in the theory and practice of translation.

Fe gewch chi hyfforddiant craidd o ran theori ac ymarfer cyfieithu a gweithio trwy gyfrwng iaith sy’n addas i chi.

star

Gweithio mewn iaith sy'n gweithio i chi

Gallwch astudio methodolegau cyfieithu ochr yn ochr ag un iaith neu ddwy (ni ellir astudio Japaneeg a Tsieinëeg gyda'i gilydd).

tick

Mynd ar leoliad gwaith

Cewch gyfle i wneud lleoliadau gwaith, gan fireinio eich sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr.

book

Teilwra eich ymchwil

Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil sy'n gysylltiedig â'ch maes diddordeb arbenigol, gan eich paratoi ar gyfer y traethawd hir neu'r prosiect cyfieithu.

briefcase

Paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y byd cyfieithu

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa fel cyfieithwyr proffesiynol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae ein MA mewn Astudiaethau Cyfieithu yn cynnig hyfforddiant craidd mewn theori ac ymarfer cyfieithu. Cafodd ei ddyluniad ei lywio gan amrywiol brotocolau a chanllawiau arfer gorau ar gyfer astudio cyfieithu, er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd â safonau a disgwyliadau'r gwasanaeth cyfieithu cyfoes a'r diwydiant.

Ein nod yw darparu dealltwriaeth lawn o ddatblygiad disgyblaeth astudiaethau cyfieithu a’r diwydiant cyfieithu, gan eich galluogi i ddilyn diddordebau arbenigol neu alwedigaethol o fewn fframwaith cyffredinol.

Byddwn yn eich cyflwyno i brif faterion damcaniaethol astudiaethau cyfieithu a fydd yn eich galluogi i ddangos sut maent yn effeithio ar eich maes astudio arbenigol, boed yn gyfieithiad ymarferol o destunau llenyddol, cyfreithiol, meddygol neu weinyddol, neu astudiaeth academaidd o gyfieithu e.e. ei theori a’i hanes, neu’r trafodion cymhleth, diwylliannol sydd ynghlwm ag ef.

Byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n ymwneud â deall a dehongli a godir wrth ymarfer cyfieithu a’u harchwilio mewn perthynas â dulliau damcaniaethol allweddol. O ganlyniad, byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddol, ymarferol, gwerthusol, estheteg ac esboniadol a fydd yn cyfeirio at y problemau hyn mewn cyd-destunau cymwysedig a damcaniaethol.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig sylfaen mewn mathau gwahanol o gyfieithu arbenigol, gan gynnwys cyfieithu ar y pryd, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur ac is-deitlo. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fagu profiad o agweddau gwahanol y diwydiant cyfieithu trwy gyfres o ddarlithoedd gwadd gan ymarferwyr blaenllaw a lleoliadau gwaith wedi’u teilwra gydag ystod o gyflogwyr cenedlaethol a rhyngwladol.

Byddwn yn eich annog i ddatblygu sgiliau ymchwil sy’n ymwneud yn benodol â’ch maes diddordeb arbenigol er mwyn, fel sy’n briodol, paratoi’r sylfeini damcaniaethol a methodolegol ar gyfer traethawd hir neu brosiect cyfieithu anodedig. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau o ran dehongli cytbwys cyd-destunau diwylliannol a ieithyddol ar gyfer yr ymarfer o gyfieithu. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall goblygiadau ymarferol dadleuon gwleidyddol a diwylliannol yng nghyd-destun astudiaethau cyfieithu.

Pan ddechreuais i’r cwrs hwn, agorwyd byd newydd o astudio ac roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi dewis y rhaglen iawn. Wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, fe ddaeth hi’n amlwg nad oedd bod yn gyfieithydd amser llawn yn freuddwyd gen i, felly fe benderfynais ganolbwyntio fy ymdrechion ar gyfieithu mewn busnes a gweinyddu, a gwyddoniaeth a thechnoleg. Rydw i bellach yn beiriannydd gwerthu ac rydw i’n caru fy swydd! Mae’n fy ngalluogi i deithio a defnyddio fy sgiliau technegol a iaith wrth gwrdd â chleientiaid ac i gysylltu â nhw ar lefel ddyfnach na pe bawn ni’n siarad Saesneg.
Alex Packer Translation Studies, 2018

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Un o ysgolion iethioedd modern fwyaf dynamig y Deyrnas Unedig. Rydym yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid er mwyn hyrwyddo manteision amlieithrwydd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Meini prawf derbyn

Candidates should possess or expect to obtain a relevant undergraduate languages degree at a minimum of upper second class honours (2:1) level.

This programme is particularly suitable for graduates in language, translation studies, literature and disciplines broadly conceived to have a humanities focus. Applicants with alternative undergraduate degree backgrounds will be given the opportunity to demonstrate that they possess the appropriate linguistic skills and competences for the programme in the context of the written language test and interview.

Non-native speakers of English are expected to have a recognised English-language qualification (e.g. IELTS with a score of 6.5 and no subsection below 5.5), as the minimum requirement to be invited to interview. Written and oral competence in English will also be tested at interview.

Note: International students pursuing part-time programmes of study are not eligible for Tier 4 (General Student) visas and must have alternative leave to remain in the UK if they intend to study at the University in person.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.

If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:

  • access to computers or devices that can store images
  • use of internet and communication tools/devices
  • curfews
  • freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
  • contact with people related to Cardiff University.

Strwythur y cwrs

Mae'r MA Astudiaethau cyfieithu rhan-amser yn ddwy flynedd o hyd ar gyfer y cam modiwl a addysgir (rhan un) ac mae modiwl traethawd hir (rhan dau) yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr y flwyddyn ganlynol. Mae'n cynnig cyfuniad cytbwys o fodiwlau theori ac ymarfer.

Mae rhan un yn cynnwys ystod o fodiwlau, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ddewisol. Fodd bynnag, mae dau o'r modiwlau a restrir (MLT401 ac MLT076) yn fodiwlau 'craidd' a rhaid eu hastudio. Mae'n ofynnol i chi astudio'r ddau fodiwl hyn a byddwch yn astudio un ym mhob blwyddyn o'ch rhaglen radd.

Mae Rhan Dau o'r cwrs yn gofyn am naill ai draethawd ymchwil o tua 20,000 o eiriau neu brosiect cyfieithu anodedig sy'n cynnwys cyfieithiad o tua 8,000 o eiriau yn y testun ffynhonnell a 12,000 o eiriau o sylwebaeth fyfyriol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.

Mae rhan un yn cynnwys dau fodiwl gorfodol, a bydd ystod o fodiwlau dewisol hefyd.

Mae rhan dau o'r cwrs yn gofyn am naill ai draethawd ymchwil o tua 20,000 o eiriau neu brosiect cyfieithu anodedig sy'n cynnwys cyfieithiad o tua 8,000 o eiriau yn y testun ffynhonnell a 12,000 o eiriau o sylwebaeth fyfyriol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy ddarlithoedd, paratoi ar gyfer seminarau a chymryd rhan ynddyn nhw, darllen annibynnol, paratoi traethodau a chyflwyniadau, adborth ar draethodau a chyflwyniadau, ac adolygu ar gyfer arholiadau.

Sut y caf fy asesu?

Cewch eich asesu’n bennaf drwy gyfrwng traethodau ac arholiadau. Mae dulliau eraill o asesu yn cynnwys cyflwyniadau seminar, profion dosbarth, Prosiect Cyfieithu Anodedig (ATP) a Thraethawd Hir.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau’r cwrs. Bydd y tiwtor hwn gyda chi drwy gydol y ddwy flynedd.

Mae pob modiwl yn defnyddio Dysgu Canolog, ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir, yn helaeth. Yma, byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau eich cwrs.

Byddwch yn cael cyfle i fyfyrio ar eich galluoedd a'ch perfformiad drwy'r modiwl Cynllunio Datblygiad Personol, sydd ar gael ar Dysgu Canolog, drwy'r modiwl Datblygiad Proffesiynol sy'n rhan annatod o brofiad y trydydd semester, a thrwy gyfarfodydd â’ch tiwtor personol.

Adborth

Byddwch yn cael adborth ysgrifenedig am aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig ac adborth generig yn y dosbarth ar gyfer arholiadau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

  • Deall sut caiff ffiniau gwybodaeth ac ymarfer eu datblygu drwy ymchwil Astudiaethau Cyfieithu, a gallu ymdrin â materion cymhleth mewn cyfieithu mewn modd systematig a chreadigol, tra'n dangos gwreiddioldeb o ran mynd i'r afael â phroblemau a'u datrys.
  • Dangos gwybodaeth arbenigol o'r ymchwil ysgolheigaidd ddiweddaraf ym maes astudiaethau cyfieithu, yn ogystal â dangos y gallu i fyfyrio ar faterion empirig a damcaniaethol mewn modd soffistigedig; dangos dealltwriaeth gysyniadol, a gwerthuso'n feirniadol, gwaith ymchwil cyfredol ac ysgolheictod uwch yn y ddisgyblaeth.
  • Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o strategaethau a thechnegau cyfieithu sy'n berthnasol i'ch ymchwil eich hun neu ysgoloriaeth ymarferol ddatblygedig.

Sgiliau Deallusol

  • Gwerthuso theorïau a methodolegau cyfieithu, datblygu gwerthusiadau ohonyn nhw a, phan fo hynny'n briodol, cynnig theorïau neu strategaethau newydd.
  • Dangos gallu i werthfawrogi a chynnig asesiadau cytbwys o ddadleuon a theorïau, a chyflwyno'r canfyddiadau a'r casgliadau yn y traethodau asesu ac, fel y bo'n briodol, y traethawd hir.
  • Dangos gallu i werthuso dadleuon a theorïau drwy sylwebaeth fyfyriol yn yr ymarferion cyfieithu ymarferol a gwblhawyd yn Rhan 1 ac, fel y bo'n briodol, ym mhrosiect cyfieithu anodedig Rhan 2.

Sgiliau Ymarferol

  • Dadansoddi dadleuon yn eich aseiniadau ysgrifenedig ac, fel sy'n briodol i'r llwybr asesu Rhan 2 a ddewisir, dangos gallu i wneud ymchwil annibynnol wrth ddewis a gweithredu pwnc eich traethawd hir.
  • Defnyddio strategaethau cyfieithu priodol i gynhyrchu cyfieithiadau, sy'n bodloni safonau proffesiynol.
  • Dangos lefel uchel o hyfedredd mewn ymarfer cyfieithu a myfyrio beirniadol.

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Dangos sgiliau cyfathrebu a myfyrio trwy gymryd rhan mewn seminarau a thrwy greu portffolio cyfieithu annibynnol.
  • Cymhwyso sgiliau ymchwil a/neu ymarfer annibynnol i brosiectau bach a mawr.
  • Gwerthuso tystiolaeth a ffynonellau yng nghyd-destun prosiect ymchwil sylweddol a gwreiddiol.
  • Defnyddio TG e.e. y rhyngrwyd, cronfeydd data, meddalwedd cyfieithu i ddatblygu sgiliau cyfieithu.
  • Dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes drwy ymgysylltu mewn proses o gynllunio datblygiad personol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £8,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £21,200 £2,000

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa fel cyfieithwyr proffesiynol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â mewn sefydliadau rhyngwladol (fel y Gymuned Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig). Mae hefyd wedi ei hanelu at rai sydd â diddordeb mewn cyfieithu fel sail i ddilyn PhD mewn disgyblaethau fel astudiaethau cyfieithu, llenyddiaeth gymharol, astudiaethau diwylliannol neu hanes.

Mae ein graddedigion yn mynd i amrywiaeth o broffesiynau: cyfieithu llawrydd, cyfieithu mewnol ar gyfer corfforaeth fawr, astudiaeth PhD, gweinyddiaeth y Llywodraeth, gweinyddiaeth y Brifysgol, amrywiaeth o rolau mewn sefydliadau traws-genedlaethol mawr fel Sefydliad Iechyd y Byd y Cenhedloedd Unedig.

Lleoliadau

Fel rhan o'r modiwl Lleoliad Hyfforddi dewisol, cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith, gan fireinio eich sgiliau ymarferol ac ennill profiad gwerthfawr.

Arian

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig

Os ydych yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2023 neu ar ôl hynny, gallech wneud cais am arian i ôl-raddedigion gan Lywodraeth y DU i gefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad i Gynfyfyrwyr

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2023/24.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Astudiaethau ewropeaidd, Iaith a chyfathrebu, Cyfieithu


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.