Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Roedd 96% o'n graddedigion baglor a 96% o’n graddedigion ôl-raddedig mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (data HESA).
Mae nifer ohonynt yn dechrau gweithio ar ôl graddio, ac mae eu hopsiynau swydd yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr, o'r sector preifat i'r sector cyhoeddus; Y Cyngor Prydeinig, Grŵp RWS, Sony a KPMG oedd pedwar cyflogwr ar y brig ar gyfer ein graddedigion dros y tair mlynedd ddiwethajf.
Mae cyflogwyr eraill yn cynnwys Amazon, Ernst & Youn (EY), Rhaglen Cyfnewid ac Addysgu Japan, Jigsaw a TransPerfect. Mae nifer fawr o raddedigion yn derbyn gwaith sy'n berthnasol i'w defnydd o ieithoedd, megis cyfieithu, addysgu, bod yn gynorthwyydd iaith, cynorthwyydd allforio a phrawf ddarllenwyr.
Gall ein lleoliadau gwaith hefyd ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd ei angen i lwyddo o fewn marchnad gwaith gystadleuol.
Yn ogystal, ystyrir graddedigion ieithoedd modern i fod yn hynod o gyfloadwy, gyda'r gallu i gael gyrfaoedd broffesiynol yn y byd busnes, gofal cymdeithasol, marchnata a masnach.
Seremoni raddio Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd 2017
Cymorth gyrfaol penodol
Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr yn ystod bob cam, yn cynnal ystod o ddigwyddiadau yn ymwneud a gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn. Beth bynnag fo'ch dyheadau gyrfa, gallwn eich helpu i ddechrau eich siwrne gyda'n ystod o weithgaredday gyrfaoedd a chyflogadwyedd.
"Thanks to Careers and Employability, I gained a real confidence boost and sense of direction that I needed to feel ready to enter the job market and I'm excited to see what the future holds."
Mae cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd yn cynnwys:
- sesiynau un-i-un drwy apwyntiad
- dosbarthiadau meistr am ysgrifennu CV, ffurflenni cais a gweithdai am gyfweliadau
- sesiynau cynllunio gyrfa sy'n cynnwys opsiynau gyrfa ar gyfer eich gradd Ieithoedd Modern
- dosbarthiadau meistr LinkedIn
- digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol
- siaradwyr gwadd proffesiynol o ystod eang o sectorau (e.e cyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd, gyrfaoedd addysgu a busnes)
- cyngor am brofiad gwaith
- lleoliadau gwaith addysgu
- cymorth arbenigol gan Hyder o ran Gyrfa
- ffug gyfweliadau
- gwybodaeth am interniaethau a raglenni hyfforddi graddedigion
- gweithgareddau menter a chymorth i ddatblygu eich gwefan ac ap eich hun
- cysylltiadau i'r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang
- cyfle i gwblhau gwobr cyflogadwyedd (Gwobr Caerdydd)
- gwybodaeth diweddar am yrfaoedd a dolenni i wybodaeth ychwanegol am yrfaoedd i raddedigion.
Cysylltu
Mae'r gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi'i leoli ar Plas y Parc. Mae cyfweliadau gyrfa ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion Ieithoedd Modern ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr, wrth ddilyn y dolenni i 'Eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr'.
Claire Hudson
Careers and Employability
Ffynhonnell: Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig, Arolwg Hynt Graddedigion 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.
Yn cynnwys data HESA: Hawlfraintyr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2022. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am gasgliadau neu benderfyniadau gan drydydd partïon yn sgîl data’r Asiantaeth.
We actively engage with local communities, schools and partner organisations to promote the benefits of modern languages.