Ewch i’r prif gynnwys

Treftadaeth Fyd-eang (MA)

  • Hyd: 1 year
  • Dull astudio: Amser llawn

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.


Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dysgwch am bŵer treftadaeth mewn cyd-destun byd-eang ac ystyriwch ei pherthynas â dadleuon mawr ynghylch cynaliadwyedd, dad-drefedigaethu, gwrthdaro a hawliau dynol. 

academic-school

Aml a rhyngddisgyblaethol

Arbenigedd ar draws disgyblaethau’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol gyda’r addysgu’n cael ei ddarparu gan staff o sawl ysgol academaidd.

people

Effaith ar bobl a lle

Ystyried rôl treftadaeth mewn cymunedau a thrafod hunaniaeth, ac mewn datblygu economaidd, cynaliadwyedd a hawliau dynol.

globe

Golwg byd-eang

Ystyried effaith treftadaeth ar draws cyd-destunau daearyddol, o'r lleol a rhanbarthol a’r cenedlaethol ac yn fyd-eang.

tick

Polisi ac ymarfer

Cael dealltwriaeth o'r materion ymarferol sy'n ymwneud â rheoli a churadu treftadaeth, a rôl polisi treftadaeth.

book

Hogi sgiliau ymchwil

Cael budd o hyfforddiant mewn dulliau ymchwil rhyngddisgyblaethol a datblygu diddordebau ymchwil personol ar gyfer uchelgeisiau gyrfa neu astudio yn y dyfodol.

briefcase

Lleoliad proffesiynol

Opsiwn i ymgymryd â lleoliad mewn sefydliad treftadaeth, gan ddatblygu gwybodaeth broffesiynol a chymhwyso gwybodaeth mewn modd ymarferol.

Mae treftadaeth yn faes astudio eang sy'n mynd i'r afael â'r ffyrdd y mae cymdeithasau'n cadw ac yn mynd ati i ddefnyddio'r pethau y maent wedi'u hetifeddu gan genedlaethau'r gorffennol. Mae ein MA mewn Treftadaeth Fyd-eang yn rhoi dealltwriaeth drylwyr a beirniadol i chi o rôl treftadaeth yn y byd cyfoes, gan roi sylw arbennig i ddatblygiadau cydwladol ac effaith globaleiddio ar y sector. Wrth ymchwilio i nodweddion penodol cyd-destunau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, byddwch yn dysgu sut i gysylltu’r cyd-destunau hyn i ddadleuon treftadaeth o bwys byd-eang, er enghraifft ynghylch cynaliadwyedd, dad-drefedigaethu, effaith gwrthdaro a newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth, a’r berthynas rhwng treftadaeth a hawliau Dynol. 

Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i chi fynd i'r afael â'r materion hyn a materion eraill mewn cyd-destun cymharol, rhyngwladol. Os oes gennych brofiad o weithio yn y sector treftadaeth eisoes, bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i ehangu eich gwybodaeth gyfeirio damcaniaethol a daearyddol. Os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o’r sector treftadaeth, bydd y rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i chi i dreftadaeth fel mater o bolisi ac ymarfer.

Mae’r rhaglen yn gweithio trwy ddefnyddio cysyniad eang o dreftadaeth, mae’n ganolbwyntio nid yn unig ar ddiwylliant diriaethol (e.e., safleoedd hanesyddol, adeiladau, henebion, amgueddfeydd, ac arteffactau), ond hefyd ar dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (e.e. sgiliau a chrefftau traddodiadol, arferion creadigol a chymdeithasol, defodau a gwyliau). Byddwch yn cymryd rhan mewn dadleuon treftadaeth allweddol ynghylch rôl amgueddfeydd, treftadaeth weledol, rôl treftadaeth mewn cymunedau, henebion a choffâd, tirweddau diwylliannol, ac ieithoedd lleiafrifol, ymhlith materion eraill. Mae'r rhaglen yn defnyddio adnoddau treftadaeth cyfoethog Cymru i roi cipolwg i chi ar effaith y sector.

Dan arweiniad yr Ysgol Ieithoedd Modern, mae’r rhaglen yn tynnu ar arbenigedd staff ar draws disgyblaethau’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n elwa ar gyfoeth o brofiad ymchwil ac o addysgu ym maes treftadaeth. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr sy'n weithgar ym maes treftadaeth ac yn elwa a fewnwelediadau i'w prosiectau ymchwil parhaus.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Un o ysgolion iethioedd modern fwyaf dynamig y Deyrnas Unedig. Rydym yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid er mwyn hyrwyddo manteision amlieithrwydd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir. 

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel y celfyddydau, dyniaethau neu wyddor gymdeithasol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. 
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arf. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS. 

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio. 
 
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 
 
Broses ddethol 
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi. 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen ôl-raddedig dau gam a addysgir, lle y byddwch yn cymryd cyfanswm o 180 credyd.

Yn ystod cam hyfforddedig y rhaglen (Medi-Mehefin), byddwch yn cymryd cyfanswm o 120 credyd trwy gyfuniad o fodiwlau craidd (40 credyd) a dewisol (80 credyd).  Bydd cwblhau'r cam hwn yn llwyddiannus yn golygu y byddwch yn symud ymlaen i'r cam traethawd hir, lle y byddwch yn cwblhau traethawd hir sy'n werth 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol yn y cam a addysgir cyn symud ymlaen i’r traethawd hir.

Wedi'u cynllunio i ddatblygu eich sgiliau ymchwilio annibynnol a'ch gallu i astudio'n academaidd yn raddol, byddwch yn cymryd dau fodiwl craidd 20 credyd ac yn dewis pedwar modiwl dewisol 20 credyd.

Mae modiwlau craidd yn darparu’r cefndir a’r ddealltwriaeth gysyniadol hanfodol o’r materion allweddol, y dadleuon, yr heriau, a’r cyfleoedd a gyflwynir gan dreftadaeth yn y byd cyfoes. Byddant hefyd yn rhoi i chi sgiliau ymchwil sylfaenol a chefnogaeth ym maes amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol astudiaethau treftadaeth. Byddwch yn dod yn gyfarwydd â methodolegau ansoddol a meintiol sy’n briodol i ymchwilio i dreftadaeth, megis dylunio prosiectau ymchwil, adolygiadau llenyddiaeth, cynnal cyfweliadau, defnyddio archifau, dadansoddi ystadegol, a chyflwyno canfyddiadau ymchwil ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn ogystal â thrwy gyfryngau digidol.

Bydd y modiwlau dewisol yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth arbenigol ar agweddau ar y sector treftadaeth ac i wneud cysylltiadau rhwng y sector treftadaeth a’r diwydiannau creadigol a diwylliannol yn ehangach.

Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i gam y traethawd hir.

Mae'r traethawd hir 60 credyd yn caniatáu i chi ymchwilio i bwnc yr ydych chi'n ei ystyried yn ganolog i'r dadleuon a'r heriau sy'n ymwneud â threftadaeth yn y cyd-destun byd-eang. Byddwch yn nodi thema prosiect ymchwil eich traethawd hir yn semester y gwanwyn ac yn cael eich goruchwylio gan aelod priodol o staff. Fe'ch anogir i dynnu ar ddeunydd sy'n cael ei gynnwys yn y rhaglen a addysgir neu seilio'ch traethawd hir ar waith yr ydych wedi'i wneud os ydych wedi gwneud cais llwyddiannus am leoliad byr gyda sefydliad treftadaeth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau. Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle y byddwch yn gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi darlleniad neu ddadl benodol i'r grŵp. 

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol, fel trafodaethau grŵp bach, dadleuon, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig yn datblygu eich sgiliau deallusol a’ch sgiliau cyflwyno.

Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern a'r brifysgol ehangach yn elwa ar raglen reolaidd o sgyrsiau gan ysgolheigion gwadd y mae eu harbenigedd yn berthnasol i'r rhaglen. Bydd mynychu'r sgyrsiau hyn yn eich galluogi i ehangu eich dealltwriaeth o'r materion sy'n allweddol i'r rhaglen astudio hon. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys cyfraniadau rheolaidd gan weithwyr proffesiynol yn y sector treftadaeth yn y DU ac yn rhyngwladol ar ffurf gwahoddiadau i wneud sgyrsiau, yn bersonol ac ar-lein.

Sut y caf fy asesu?

Bydd yr asesiad yn cynnwys asesiad ffurfiannol a chrynodol.

Tasgau ffurfiannol

Nid yw tasgau ffurfiannol yn cyfrannu at ddosbarth terfynol eich gradd ond fe'u cynlluniwyd i roi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ac ymarfer ar gyfer asesiadau crynodol. Maent yn eich galluogi chi a'ch tiwtoriaid i werthuso datblygiad eich sgiliau a'ch cynnydd ym mhob modiwl. Fel arfer bydd tasgau ffurfiannol yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu asesiad dosbarth neu gallai gynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr unigol.

Asesiadau crynodol

Mae asesiadau terfynol yn cyfrannu at ddosbarth terfynol eich gradd.

Bydd natur yr asesiadau crynodol yn y cam a addysgir yn amrywio fesul modiwl ond fel arfer byddant yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig terfynol (traethodau) ac aseiniadau ymarferol megis cyflwyniadau ar lafar, cyflwyniadau ar bosteri, neu mewn gweithdai. Mae asesiad crynodol yn y cam traethawd hir yn cynnwys y traethawd hir.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar y rhaglen MA mewn Treftadaeth Fyd-eang, mae gan gynullydd y rhaglen drosolwg o ddarpariaeth y rhaglen tra bod modiwlau craidd ac opsiynau yn cael eu rheoli gan diwtoriaid modiwlau. Yn y lle cyntaf, byddwch yn gweithio gyda chynullydd y rhaglen i nodi eich prif ddiddordebau ymchwil ac i greu rhaglen astudio gyda dewis o fodiwlau priodol. Byddwch yn cael eich neilltuo i diwtor personol yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, sy'n gyfrifol am eich gofal bugeiliol ac am eich datblygiad academaidd. Byddwch hefyd yn cael budd o oruchwyliaeth unigol ar gyfer eich asesiadau ysgrifenedig a hynny gan aelodau unigol o staff sydd â diddordebau ymchwil priodol. Bydd goruchwyliwr traethawd hir penodol yn cael eich neilltuo i chi, yn seiliedig ar eich diddordebau ac ar arbenigedd y staff perthnasol.

Mae amryw o staff eraill ar gael i ddarparu cymorth pellach, gan gynnwys tîm gwasanaethau proffesiynol yr ysgol, llyfrgellwyr arbenigol, a Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth sy'n sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i fyfyrwyr ag anableddau.

Mae sgiliau astudio’n cael eu cynnwys yn y modiwl Dulliau Ymchwil ac Ymarfer craidd, ond mae gennych hefyd fynediad i raglen Sgiliau Astudio Academaidd y brifysgol, sy’n cael ei darparu gan y Tîm Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir y brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma, gallwch gael mynediad i fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd, a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig.

Bydd cynullydd y rhaglen hefyd yn eich cefnogi wrth gynllunio eich gyrfa, ar y cyd â gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr (gyrfaoedd) y brifysgol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Erbyn diwedd y Rhaglen, byddwch yn gallu:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • GD 1 Gwerthuso'n feirniadol a chymhwyso fframweithiau damcaniaethol sy'n ymwneud â threftadaeth.
  • GD 2 Asesu rôl treftadaeth yn y gymdeithas gyfoes yn feirniadol.
  • GD 3 Cynnal dadansoddiad cymharol o dreftadaeth mewn cyd-destunau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.
  • GD 4 Dylunio a datblygu traethawd hir sy’n ffrwyth ymchwilio annibynnol sy'n canolbwyntio ar faes sy'n ymwneud ag astudiaethau treftadaeth, gan ddefnyddio sgiliau dadansoddi a dulliau ymchwil priodol.

Sgiliau Deallusol:

  • SD 1 Dylunio a gweithredu prosiectau ymchwil annibynnol sy'n canolbwyntio ar dreftadaeth mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
  • SD 2 Asesu manteision a heriau ymchwil amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol wrth astudio treftadaeth.
  • SD 3 Dadansoddi defnyddioldeb posibl ymchwil o'r fath i'r rhai sy'n gweithio yn y sector treftadaeth neu i lunwyr polisïau treftadaeth.
  • SD 4 Ystyried eich dysgu eich hun drwy ddefnyddio adborth adeiladol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • SY 1 Gwerthuso a syntheseiddio dadleuon a data o ddisgyblaethau amrywiol yng nghyd-destun astudiaethau treftadaeth.
  • SY 2 Cynnig dadansoddiad o'r heriau cyffredinol allweddol a wynebir gan y sector treftadaeth.
  • SY 3 Ysgrifennu i safon uchel ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys y byd academaidd, cyrff cyllido, llunwyr polisïau, sefydliadau treftadaeth a’r cyfryngau.
  • PS4 Lleolwch eich ymarfer treftadaeth proffesiynol o fewn cyd-destunau academaidd allweddol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • SA 1 Cynllunio a chyflawni gwaith yn annibynnol, gan ddangos sgiliau trefnu a rheoli amser.
  • SA 2 Cyfleu syniadau’n effeithiol ac yn rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • SA 3 Cymhwyso sgiliau rhesymegol a rhesymu drwy drafod a dadlau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Costau ychwanegol

Os dewiswch gwneud yr opsiwn lleoliad gwaith ar y rhaglen hon, efallai y byddwch yn wynebu rhai costau ychwanegol os byddwch yn teithio i'ch lleoliad ac oddi yno, a gallai’r rhain fod yn fwy na'ch costau teithio dyddiol rhwng eich cyfeiriad yn ystod y tymor a'ch man astudio.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae’r rhaglen hon yn eich galluogi i ganolbwyntio ar gynhyrchu diwylliannol yn y cyd-destun byd-eang ac i ddeall rôl arwyddocaol treftadaeth, sefydliadau treftadaeth a llunio polisïau treftadaeth yng nghyd-destun ehangach datblygiad cymdeithasol ac economaidd. O ystyried pwysigrwydd parhaus y sectorau treftadaeth a chysylltiedig i gymdeithasau cyfoes a’u heconomïau, bydd y mewnwelediadau a gafwyd, a’r hyfforddiant ymchwil a ddarperir yn y rhaglen, yn eich paratoi at gyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau ar draws y sectorau treftadaeth ac amgueddfeydd neu feysydd cysylltiedig, er enghraifft ym maes treftadaeth a rheoli amgueddfeydd, addysg treftadaeth ac amgueddfeydd, polisi treftadaeth, ymchwil cymhwysol mewn prosiectau treftadaeth, a chyllido ac ymgynghoriaeth treftadaeth. Fel arall, mae'n baratoad delfrydol ar gyfer symud ymlaen i astudiaeth ddoethurol.

Yn ystod y rhaglen, byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau – gan gynnwys cyfathrebu, dadansoddi, a chydweithio – a fydd o fudd i chi ar ôl graddio. Bydd y rhaglen hefyd yn cefnogi eich datblygiad fel rhywun annibynnol a beirniadol ac yn eich galluogi i ddangos chwilfrydedd deallusol ac ymgysylltu â mynd ar drywydd gwybodaeth newydd.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o effaith economaidd sefydliadau treftadaeth a’u rhanddeiliaid, gan greu meddwl creadigol, dychmygus ac arloesol – ac atebion – mewn ymateb i broblemau cysylltiedig yn y sector treftadaeth.

Bydd y materion a drafodir yn y rhaglen hefyd yn rhoi cyfleoedd i chi ystyried eich cyfrifoldebau personol a phroffesiynol, moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol, deall sefydliadau treftadaeth, eu rhanddeiliaid a’u heffaith ar y gymuned, ac ymgysylltu’n feirniadol â’r sector treftadaeth mewn perthynas â hyrwyddo hawliau dynol, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd ffocws trawswladol a byd-eang y rhaglen MA hon yn eich helpu i ymddwyn fel dinesydd byd-eang gan gydio mewn gwahaniaethau diwylliannol a’u gwerthfawrogi trwy brofiad o wledydd eraill.

Lleoliadau

Bydd myfyrwyr sy'n cael eu derbyn ar y modiwl dewisol Treftadaeth, Gweithredu Cymunedol ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn gweithio ar brosiectau dynodedig mewn grwpiau bach i gyflwyno allbwn y cytunwyd arno ar gyfer partner allanol.

Yn ogystal â hynny, gall myfyrwyr wneud cais am nifer cyfyngedig o leoliadau 20 diwrnod a gynigir gan bartneriaid dethol, naill ai yn y DU neu’n rhyngwladol, gyda chefnogaeth tîm lleoliadau’r Ysgol Ieithoedd Modern, a seilio eu traethawd hir ar y gwaith a wnaed yn ystod y lleoliad hwnnw, yn amodol ar dderbyn eu cais gan ddarparwr y lleoliad allanol.

Bydd y cyfleoedd hyn yn cael eu hysbysebu i fyfyrwyr a bydd proses ddethol dryloyw ar gyfer y lleoliadau hyn. Gall myfyrwyr hefyd ddod o hyd i'w lleoliadau eu hunain, gyda chymeradwyaeth y tîm lleoliadau yn yr ysgol, i lywio eu prosiect traethawd hir.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Modern languages


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.