Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliannau Byd-eang (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Datblygwch eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r diwydiannau creadigol a diwylliannol mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol

globe

Byddwch yn elwa o'n harbenigedd byd-eang

Rydym yn gymuned gefnogol ac yn gartref i ymchwilwyr mewn ffilm, llenyddiaeth, theatr, cerddoriaeth, diwylliannau gweledol ac amgueddfeydd.

people

Pwyslais ar greadigrwydd

Rydym yn cymharu'r broses o wneud cynhyrchion diwylliannol mewn gwahanol leoliadau, ac yn edrych ar yr amrywiaeth o ffactorau sy'n siapio cynhyrchu diwylliannol.

tick

Ennill dealltwriaeth ddamcaniaethol

Rydym yn dod ag ymchwil ac addysgu ynghyd yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, ac yn astudio cynhyrchu diwylliannol a globaleiddio diwylliant.

academic-school

Datblygu eich gwybodaeth

Cewch ddealltwriaeth o ddiwydiannau diwylliannol, a byddwch yn datblygu'r medrau damcaniaethol i'w dadansoddi, gan eich arfogi eich hun ar gyfer gwaith yn y sector diwylliannol

Mae ein MA mewn Diwylliant Byd-eang yn archwilio diwydiannau diwylliannol yr 21ain ganrif a’r economi greadigol.

Bydd y rhaglen arloesol a rhyngddisgyblaethol hon yn helpu i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi ymchwil ac mae wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y sector diwylliannol.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o esblygiad diwydiannau diwylliannol mewn cyd-destun byd-eang trwy ganolbwyntio ar ledaenu cynhyrchion diwylliannol yn fyd-eang, rhyngweithiadau diwylliannol rhyngwladol yn y sector creadigol, ac amrywiaeth ddiwylliannol a chreadigrwydd unigol yn y byd sydd wedi globaleiddio.

Cewch fewnwelediad at ddiwydiannau diwylliannol byd-eang a pholisi diwylliannol, yn ogystal â chyfle i ddadansoddi astudiaethau achos yn y DU, Tsieina, Siapan, America Ladin, Gogledd America ac Ewrop. Byddwn yn rhoi’r dulliau damcaniaethol i’ch helpu i ddadansoddi’r cynhyrchion diwylliannol rydych yn dysgu amdanynt.

Caiff y rhaglen ei haddysgu yn amgylchedd cefnogol a chyfeillgar yr Ysgol Ieithoedd Modern a byddwch chi’n elwa ar ddarlithoedd gwadd rheolaidd gan gynrychiolwyr o’r diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Alan Waldron
Fe wnaeth y cwrs hwn fy ngwneud i llawer yn fwy ymwybodol o sut i weithredu’n effeithiol o fewn y diwydiant diwylliannol. Er enghraifft, rydw i bellach yn cydnabod, os ydych chi’n chwilio am gyllid gan gorff penodol, bod rhaid i chi fod yn ymwybodol nid yn unig o’r meini prawf maent wedi’u gosod, ond hefyd y dirwedd ddiwylliannol gyffredinol sy’n eich amgylchynu chi a nhw. Byddwch chi’n canfod y wybodaeth mwyaf gwerthfawr y bydd ei hangen arnoch ar gyfer unrhyw gais yn y dirwedd honno. Nid yw hwn yn rhywbeth y byddwn i wedi’i ystyried cyn y cwrs yma.
Alan Waldron Global Cultures, 2019

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Un o ysgolion iethioedd modern fwyaf dynamig y Deyrnas Unedig. Rydym yn ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid er mwyn hyrwyddo manteision amlieithrwydd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0824
  • MarkerCathays, Caerdydd, CF10 3AS

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel y celfyddydau, y dyniaethau, neu'r gwyddorau cymdeithasol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen ôl-raddedig dau gam a addysgir, lle byddwch yn cymryd cyfanswm o 180 credyd. Yn ystod Cam Diploma Ôl-raddedig y rhaglen (Medi - Mehefin) byddwch yn cymryd modiwlau a addysgir ac yn gorfod cyflawni 120 o gredydau, sy'n cynnwys pedwar modiwl craidd. Ar ôl cwblhau'r cam hwn yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i’r cam gradd meistr, pan fyddwch yn ysgrifennu traethawd hir rhwng 15,000 ac 20,000 o eiriau, sy’n werth 60 credyd.

Gallwch gymryd ystod eang o fodiwlau iaith o'r rhaglen Ieithoedd i Bawb neu o raddau israddedig yr Ysgol fel y bo'n briodol, ond nid yw'r rhain yn fodiwlau sy’n cynnwys credydau.

Cam Diploma Ôl-raddedig

Mae'r cam hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer ymchwil annibynnol yn raddol, yn ogystal â chynyddu eich gallu ar gyfer astudio academaidd drwy gyfres o fodiwlau craidd a addysgir a ddarperir gan yr Ysgol Ieithoedd Modern. Gyda'i gilydd, mae'r pedwar modiwl craidd yn eich paratoi i ddatblygu prosiect ymchwil ar gyfer eich traethawd hir terfynol ac i gyflawni deilliannau dysgu'r rhaglen yn llwyddiannus. Mae'r pedwar modiwl craidd yn datblygu eich sgiliau cysyniadol, ymarferol, ysgrifennu a chyfathrebu yn benodol.

Mae tîm y rhaglen, dan arweiniad cydlynydd y rhaglen, yn adolygu’r modiwlau bob blwyddyn i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn gyfoes ac yn berthnasol i'r deilliannau dysgu.

Cam gradd meistr (traethawd hir)

Ar ôl cwblhau Cam Diploma Ôl-raddedig y rhaglen hon yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i’r cam gradd meistr (traethawd hir).

Mae’r traethawd hir, sy’n werth 60 credyd, yn o leiaf 15,000 o eiriau a dim mwy nag 20,000 o eiriau o hyd. Mae'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol pwysig ac ymchwilio i bwnc sy'n ganolog i ddadleuon a heriau diwylliant yn y cyd-destun byd-eang yn eich barn chi. Mae’r traethawd hir:

  • yn ddarn estynedig o ymchwil annibynnol;
  • yn cael ei oruchwylio gan staff priodol yr Ysgol Ieithoedd Modern;
  • yn cydymffurfio â disgwyliadau traethawd MA yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd.

Byddwch yn dynodi thema eich prosiect ymchwil traethawd hir erbyn wythnos pump yn semester y gwanwyn ac fe'ch anogir i gymryd astudiaethau achos o un o'r sectorau diwylliannol sydd wedi’u cynnwys yn y rhaglen. Mae prosiectau cymharol sy'n mynd i'r afael â datblygiadau mewn mwy nag un wlad neu mewn cyd-destun trawswladol yn cael eu hannog yn arbennig.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r traethawd hir wedi'i nodi yn yr wybodaeth am y rhaglen a roddwyd i chi. I roi syniad i chi, yr ail neu'r drydedd wythnos ym mis Medi fel arfer. Yn achos myfyrwyr amser llawn, ni chaiff y dyddiad hwn fod ar ôl 50 wythnos i’r dyddiad cofrestru am y tro cyntaf. Gellir ymestyn y dyddiad hwn dri mis i unrhyw fyfyriwr sy’n cael caniatâd, ar ddiwedd y cam Diploma, i ailsefyll modiwlau yn y Cyfnod Ailsefyll Arholiadau nesaf. Os byddwch yn methu â chyflwyno eich Traethawd Hir erbyn y dyddiad dan sylw, byddwch yn cael marc o sero ar gyfer y traethawd hir.

Gall myfyrwyr nad ydynt yn mynd ymlaen i’r cam gradd meistr, ar yr amod eu bod yn cwblhau'r nifer angenrheidiol o fodiwlau a addysgir yn llwyddiannus, gael Tystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd) neu Ddiploma Ôl-raddedig (120 credyd). Gall myfyrwyr sy'n methu'r traethawd hir, ond sy'n cwblhau'r modiwlau a addysgir yn llwyddiannus, gael Diploma Ôl-raddedig (120 credyd).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Rhennir yr astudiaeth yn ddau gam:

  • Y Cam Diploma Ôl-raddedig; a’r
  • Cam Gradd Meistr (Traethawd Hir).

Yn ystod y cam Diploma Ôl-raddedig byddwch yn astudio 120 credyd o fodiwlau craidd.

Ar ôl cwblhau'r cam Diploma Ôl-raddedig yn llwyddiannus byddwch yn symud ymlaen i'r cam gradd meistr (traethawd hir).  Yn ystod y cam hwn mae'n ofynnol i chi ddilyn modiwl traethawd hir 60 credyd, lefel 7.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae dulliau addysgu ac asesu, ffurfiannol a chrynodol, yn amrywiol ac yn ysgogol, ac yn ymgorffori ystod eang o ddulliau a dulliau gweithredu. Mae'r dulliau hyn yn cynnwys darlithoedd, seminarau a thiwtorialau, lle cewch gyfle i gael budd o drafodaethau, gwaith grŵp a thasgau ysgrifennu. Bydd y sgiliau a ddatblygir wedyn yn ystod cam a addysgir (Diploma Ôl-raddedig) y radd yn eich paratoi ar gyfer y broses o wneud gwaith ymchwil ac ysgrifennu eich traethawd hir yn ystod ail gam y rhaglen: Cam gradd meistr (traethawd hir).

Yn ystod y cam Diploma Ôl-raddedig byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai a seminarau. Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf ond yn gyffredinol yn darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol. Mewn tiwtorialau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Caiff eich sgiliau cyfathrebu eu datblygu mewn tiwtorialau, lle byddwch yn gorfod gwneud cyfraniadau unigol at astudiaethau grŵp, er enghraifft, drwy grynhoi darlleniad neu ddadl benodol i'r grŵp.

Bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol, fel trafodaethau grŵp bach, dadleuon, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig yn datblygu eich sgiliau deallusol a’ch sgiliau cyflwyno.

Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd yn elwa ar raglen reolaidd o gyflwyniadau gan ysgolheigion gwadd, y mae eu harbenigeddau yn berthnasol i'r rhaglen. Byddwch yn gallu dod i’r cyflwyniadau hyn er mwyn ehangu eich dealltwriaeth o faterion sy'n allweddol i'r rhaglen astudio hon. Mae'r rhaglen meistr hon hefyd yn cynnwys cyfraniadau rheolaidd gan weithwyr proffesiynol yn y sectorau diwylliannol a threftadaeth.

Un o nodau'r dull addysgu a nodir uchod yw cyfoethogi eich profiad dysgu a dyfnhau eich dealltwriaeth ddamcaniaethol o bwnc diwylliant byd-eang, gan gryfhau eich rhagolygon ar ôl i chi raddio, mewn marchnad yrfaoedd fyd-eang.

Sut y caf fy asesu?

Bydd yr asesiad yn cynnwys asesiad ffurfiannol a chrynodol.

Tasgau Ffurfiannol

Nid yw tasgau ffurfiannol yn cyfrannu at ddosbarth terfynol eich gradd ond maen nhw wedi’u cynllunio i roi cyfle i chi ddatblygu sgiliau ac ymarfer ar gyfer asesiadau crynodol. Maen nhw’n eich galluogi chi a'ch tiwtoriaid i werthuso datblygiad eich sgiliau a'ch cynnydd ym mhob modiwl. Fel arfer bydd tasgau ffurfiannol yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu asesiad dosbarth neu gallai gynnwys cyflwyniadau gan fyfyrwyr unigol.

Asesiadau Crynodol

Mae asesiadau terfynol yn cyfrannu at ddosbarth terfynol gradd. Mae canlyniadau yn yr asesiadau hyn yn:

  • Pennu dilyniant ffurfiol o'r cam Diploma Ôl-raddedig i'r cam Gradd meistr (Traethawd Hir); ac yn
  • Pennu’r dyfarniad terfynol.

Bydd natur yr asesiadau crynodol yn y cam Diploma Ôl-raddedig yn amrywio yn ôl modiwl, ond fel arfer byddant yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig terfynol (traethodau), aseiniadau ymarferol, fel cyflwyniadau llafar neu gyflwyniadau poster, neu weithdai. Mae asesiad crynodol yn y cam Gradd Meistr (traethawd hir) yn cynnwys y traethawd hir (15,000 o eiriau).

Byddwch yn cael cyfle i adolygu a thrafod y dull(iau) asesu sy'n gysylltiedig â phob modiwl gydag aelod o staff wrth wneud penderfyniadau am eich llwybr astudio.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar y rhaglen MA hon, mae gan gynullydd y rhaglen drosolwg o ddarpariaeth y rhaglen a thiwtoriaid modiwlau sy’n rheoli opsiynau a modiwlau craidd. Yn y lle cyntaf, byddwch yn gweithio gyda chynullydd y rhaglen i nodi eich prif ddiddordebau ymchwil ac i greu rhaglen astudio gyda dewis o fodiwlau priodol. Mae tiwtor personol wedi'i neilltuo i chi, a fydd y gyfrifol am eich gofal bugeiliol a'ch datblygiad academaidd. Byddwch hefyd yn cael budd o oruchwyliaeth unigol ar gyfer eich asesiadau ysgrifenedig a hynny gan aelodau unigol o staff sydd â diddordebau ymchwil priodol. Bydd goruchwyliwr traethawd hir penodol yn cael eich neilltuo i chi, yn seiliedig ar eu diddordebau ac ar arbenigedd y staff perthnasol.

Mae amryw o staff eraill ar gael i ddarparu cymorth pellach, gan gynnwys tîm gwasanaethau proffesiynol yr Ysgol, llyfrgellwyr arbenigol, a Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth sy'n sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i fyfyrwyr ag anableddau.

Mae sgiliau astudio’n cael eu cynnwys yn y modiwl Dulliau Ymchwil ac Ymarfer craidd, ond mae gennych hefyd fynediad i raglen Sgiliau Astudio Academaidd y Brifysgol, sy’n cael ei darparu gan y Tîm Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma, gallwch gael mynediad i fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, gan gynnwys recordiadau o ddarlithoedd, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig, ac ati

Mae cynullydd y rhaglen hefyd yn eich cefnogi yn i gynllunio eich gyrfa, ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i werthuso’n feirniadol a chymhwyso fframweithiau damcaniaethol sy’n ymwneud â globaleiddio diwylliant a rhyngweithiadau diwylliannol trawswladol;
  • Y gallu i fynd ati i asesu’n feirniadol rôl amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion diwylliannol yn y cyd-destun byd-eang, gan gynnwys ymarferwyr creadigol, sefydliadau diwylliannol, sefydliadau rhyngwladol, gweithwyr proffesiynol treftadaeth a defnyddwyr;
  • Y gallu i gynnal dadansoddiad cymharol o gynhyrchiant a defnydd diwylliannol mewn cyd-destun byd-eang.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i lunio a chynnal prosiectau ymchwil annibynnol sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant byd-eang yng nghyd-destun astudiaethau meysydd cymharol;
  • Y gallu i asesu manteision a heriau ymchwil ryngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol wrth astudio diwylliant byd-eang;
  • Y gallu i ddadansoddi’r defnydd posibl o ymchwil ar gyfer y rhai hynny sy’n gweithio yn y sector diwylliannol neu lunwyr polisïau diwylliannol;
  • Y gallu i ystyried eich dysgu eich hun drwy ddefnyddio adborth adeiladol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i werthuso a chyfosod dadleuon a data o ddisgyblaethau amrywiol yng nghyd-destun astudiaethau meysydd cymharol;
  • Y gallu i ddadansoddi heriau byd-eang allweddol y mae’r sector diwylliannol yn eu hwynebu, er enghraifft o ran amrywiaeth ddiwylliannol, dynameg rhyngweithiadau trawswladol, a chreadigrwydd unigol;
  • Y gallu i ysgrifennu i safon uchel ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd gan gynnwys y byd academaidd, cyrff cyllido, llunwyr polisïau, sefydliadau celfyddydol a’r cyfryngau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu i weithio'n annibynnol, gan ddangos sgiliau trefnu a rheoli amser;
  • Y gallu i gyfleu syniadau’n effeithiol ac yn rhugl, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Y gallu i gymhwyso sgiliau rhesymegol a rhesymu drwy drafod a dadlau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Na

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r MA hwn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar gynhyrchu diwylliannol mewn cyd-destun byd-eang ac i ddeall rôl bwysig cynhyrchu diwylliannol, sefydliadau diwylliannol a llunio polisïau diwylliannol yng nghyd-destun ehangach datblygu cymdeithasol ac economaidd. O ystyried pwysigrwydd parhaus y sectorau diwylliannol a’r sectorau cysylltiedig ar gyfer cymdeithasau cyfoes a'u heconomïau, bydd y mewnwelediadau newydd a’r hyfforddiant ymchwil a ddarperir yn y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth mewn ystod o rolau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'r canlynol:

  • Ymchwil PhD
  • Cyflogaeth mewn sefydliadau celfyddydol a diwylliannol
  • Llunio polisïau diwylliannol
  • Cyflogaeth mewn sefydliadau cyfryngau
  • Gweithio fel cynhyrchydd annibynnol

Lleoliadau

Nid oes darpariaeth lleoliad benodol yn y rhaglen hon. Fodd bynnag, fe'ch anogir i chwilio am gyfleoedd profiad gwaith perthnasol yn ystod eich astudiaethau, a gall tîm addysgu'r rhaglen ddarparu cyngor a chymorth ar eu cyfer.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Ieithoedd modern


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.