Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliant, rhyngweithio a bywyd bob dydd

Archwilio profiadau cymdeithasol a diwylliannol a'u heffaith ar fywyd bob dydd.

Gan dynnu ar hanes 40 mlynedd Caerdydd, sef arloesedd ethnograffig, mae ein hymchwil yn archwilio sut mae gofod a lle, materion diwylliannol, y byd go iawn, seicogymdeithasol yn rhyngweithio ac wedi'u trefnu'n gymdeithasol o fewn cymdeithasau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Mae astudiaethau wedi canolbwyntio ar bynciau megis:

  • profiadau a symudedd pobl ifanc
  • astudiaethau o ymarfer medrus (yn cynnwys canu opera a Capoeira)
  • digartrefedd a gwaith allgymorth
  • amgueddfeydd a chanolfannau addysg gwyddoniaeth
  • diweithdra mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol
  • digidol a’r cyfryngau cymdeithasol
  • cymdeithas ddinesig.

Rydym wedi cyfrannu at ddatblygiadau allweddol mewn methodolegau ethnograffeg, gweledol, symudol, ac amlfodd, a dadansoddi diwylliant materol, disgwrs a siarad-mewn-rhyngweithio.

Canolfannau a grwpiau cysylltiedig