Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Morgannwg

Adeilad Morgannwg
Adeilad Morgannwg

Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WT

Mae yna fynediad gwastad o’r heol i’r palmant o flaen yr adeilad, wrth bwyntiau mynediad i gwrt blaen yr adeilad. Mae ymylon palamant isel ar hyd Rhodfa’r Brenin Edward VII.

Mae’r brif fynedfa i Adeilad Morgannwg drwy stepiau gyda chanllawiau. Mae yna ddrws cylchdroeog i fynd i mewn i’r adeilad.

Mae’r mynediad hygyrch i Adeilad Morgannwg, wedi’i leoli i lawr llwybr byr i’r chwith o’r adeilad. Mae’r mynediad hwn yn gyfyngedig at ddibenion diogelwch, dim ond gyda cherdyn adnabod dilys y Brifysgol y bydd yn agor. Cysylltwch â’ch tiwtor, rheolwr neu'r Adran Diogelwch os ydych yn dymuno dilysu eich carden i ddefnyddio’r drws mynediad hwn.

Mae’r darllenydd cardiau yn hygyrch o ran uchder, mae’r drws yn agor yn awtomatig pan fydd y darllenydd yn gweithredu.

Mae yna esgynfa isel yn arwain at ddrws y fynedfa at y coridor.

Ymwelwyr a defnyddwyr achlysurol: defnyddiwch yr intercom ar ochr y drws er mwyn cysylltu â’r dderbynfa er mwyn agor y drws. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’r fynedfa cyn ymweld os nag oes gennych gerdyn adnabod dilys y Brifysgol.

Os ydych yn cynnal digwyddiad yn Adeilad Morgannwg, sicrhewch fod trefniadau wedi’u gwneud ar gyfer mynychwyr yn defnyddio’r fynedfa.

Parcio

Gallwch gael mynediad i’r maes parcio o Rodfa’r Brenin Edward, drwy faes parcio Adeilad Bute.

Gallwch gael mynediad i’r maes parcio drwy rwystr diogelwch, a weithredir gyda cherdyn adnabod y Brifysgol. Mae’r darllenydd carden yn hygyrch a gallwch dderbyn mynediad wrth i chi eistedd yn y car.

Mae maes parcio Adeilad Morgannwg yn syth o'ch blaen ar y chwith. Mae yna ddau le parcio hygyrch dynodedig yn agos iawn i’r fynedfa hygyrch.

Er mwyn cadw lle parcio ymlaen llaw ffoniwch dderbynfa Adeilad Morgannwg ar 029 2087 5179. Darparwch y wybodaeth ganlynol:

  • plât rhif y car
  • dyddiad
  • pwrpas yr ymweliad.

Bydd trwyddedu parcio dros dro yn cael eu rhoi a gallwch drefnu mynediad drwy rwystr diogelwch. Rhowch wybod i’r porthor os oes angen cymorth arnoch.

Mae yna barcio cyhoeddus ar gael ar hyd Rhodfa’r Brenin Edward VII yn agos iawn i fynedfa Adeilad Morgannwg a llwybr i’r fynedfa hygyrch. Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio mewn unrhyw un o’r lleoedd yn rhad ac am ddim.

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 41 o leoedd parcio beiciau a rannir rhwng tri lleoliad o amgylch yr adeilad.

Parcio Car

Temporary parking permits will be issued and entry through the security barrier can be arranged. Please inform the porter if you require assistance.

There is public street parking along King Edward VII Avenue very close to the Glamorgan Building entrance and path to the accessible entrance. Blue Badge holders can park in any of these spaces free of charge.

Bicycle parking

There are 41 bicycle parking spaces shared between three locations around the building.