Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni Galwedigaethol y Gyfraith

Professional legal students.

Ni yw’r unig Brifysgol Grŵp Russell a ddilyswyd i gynnig y prif gyrsiau hyfforddiant galwedigaethol sy’n ofynnol i gael mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol.

Gallwch ymgymryd â phob elfen o’ch hyfforddiant cyfreithiol proffesiynol yng Nghaerdydd.

Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu (PSRAS)

Mae'r PSRAS yn ymwneud ag achredu cynrychiolwyr sy'n cynghori pobl dan amheuaeth yng ngorsaf yr heddlu. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithwyr sy'n ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol troseddol yn defnyddio cynrychiolwyr achrededig i gynghori a chynorthwyo cleientiaid.

Rydym yn cynnig sawl cwrs hyfforddi er mwyn eich cynorthwyo i ennill achrediad fel Cynrychiolydd Gorsaf Heddlu.

Mae pob un o’n cyrsiau wedi’u hachredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wrth gymhwyso ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Hyfforddiant PSRAS

Cyfreithwyr ar Ddyletswydd

Mae aelodaeth Cam 1 o Gynllun Achredu Cyfreithiad Troseddol Cymdeithas y Gyfraith yn ofynnol gan yr Asiantaeth Cymorth Gyfreithiol i allu cymryd rhan yn y cynllun cyfreithiwr ar ddyletswydd ar gyfer gorsafoedd heddlu a llysoedd yr ynadon.

Hyfforddiant Cyfreithiwr ar Ddyletswydd

Tystysgrif Tyst Arbenigol

Rydym yn gyfrifol am asesu, sicrhau ansawdd ac ardystio rhaglen hyfforddi tystion arbenigol ffurfiol mewn partneriaeth â Bond Solon, darparwr hyfforddiant tystion arbenigol mwyaf blaenllaw’r DU.

Hyfforddiant Tystysgrif Tystion Arbenigol

Cysylltu â ni

Professional Development Unit