Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu (PSRAS)

Mae'r PSRAS yn ymwneud ag achredu cynrychiolwyr sy'n cynghori pobl dan amheuaeth yng ngorsaf yr heddlu. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithwyr sy'n ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol troseddol yn defnyddio cynrychiolwyr achrededig i gynghori a chynorthwyo cleientiaid.

Ceir tair elfen yn y cynllun a gaiff eu hasesu, a rhaid eu cwblhau i gyd yn llwyddiannus:

  • arholiad ysgrifenedig
  • portffolio
  • Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT)

Rydym yn cynnig sawl cwrs hyfforddi er mwyn eich cynorthwyo i ennill achrediad yn Gynrychiolydd Gorsaf Heddlu. Mae pob un o’n cyrsiau wedi’u hachredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wrth gymhwyso ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae dau lwybr i gwblhau'r PSRAS, gan ddibynnu a ydych wedi'ch eithrio o'r arholiad ysgrifenedig.

  • PSRAS: Llwybr 1 - Addas ar gyfer y rhai sydd wedi'u heithrio o'r arholiad ysgrifenedig
  • PSRAS: Llwybr 2 - Addas ar gyfer y rhai sydd ag ychydig neu ddim hyfforddiant neu gefndir cyfreithiol a/neu'r rhai nad ydynt wedi'u heithrio o'r arholiad ysgrifenedig.

    Rydych wedi'ch eithrio o'r arholiad ysgrifenedig os oes gennych unrhyw un o'r canlynol:

  • LPC (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol)
  • BTC (Cwrs Hyfforddi’r Bar) neu ei ragflaenydd
  • Neu os ydych yn:

  • Cymrawd neu Aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol ac wedi pasio llwybr troseddol Diploma yn y Gyfraith ac Ymarfer lefel 6 CILEX (a elwid gynt yn Ddiploma Uwch proffesiynol lefel 6 CILEX yn y Gyfraith gan gynnwys cyfraith trosedd ac ymgyfreitha troseddol).

Rhaid i chi ddangos prawf o'r cymwysterau uchod er mwyn elwa o'r eithriad.

Ni yw’r unig Brifysgol Grŵp Russell a ddilyswyd i gynnig y prif gyrsiau hyfforddiant galwedigaethol sy’n ofynnol i gael mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol.

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y pecynnau hyn neu unrhyw beth arall, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i'ch helpu:

Professional Development Unit