Cyrsiau meddygaeth a ariennir
Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion cyrsiau meddygaeth a ariennir, sy'n cynnig mynediad rhad ac am ddim i gynadleddwyr.
Cyfres Gweminarau Oncoleg Cymunedol 2021
Dyddiadau: Bob dydd Mercher rhwng 24 Chwefror a 24 Mawrth 2021
Amser: 13:00 - 14:00 ar Zoom
Mae'r gyfres hon o weminarau am ddim wedi'i chynllunio ar gyfer Meddygon Teulu a thimau gofal iechyd sylfaenol ond bydd hefyd yn berthnasol i unrhyw un sy'n ymwneud â gwneud diagnosis a deall y llwybrau gofal ar gyfer canser yr ysgyfaint, canser y colon a'r rhefr, canser y croen a chanser o darddiad anhysbys.
Bydd sesiynau'n cael eu cynnal ar-lein am awr yr un o dan arweiniad Dr Fiona Rawlinson, Cyfarwyddwr Rhaglen Meddygaeth Lliniarol Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu panel o siaradwyr allanol arbenigol, gan gynnwys meddygon teulu ac oncolegwyr fydd yn ymuno â ni i drafod pynciau penodol. Manylion llawn isod.
Ym mhob sesiwn, byddwn yn edrych ar gwestiynau fel pryd i boeni, beth i'w wneud nesaf, beth i'w wneud pan fydd diagnosis hwyr, a sut i gefnogi'r claf a'i deulu.
Bydd y sesiwn olaf (Adnoddau angenrheidiol: Cyfathrebu) yn cael ei harwain gan Dr Fiona Rawlinson ac mae'n edrych yn fanwl ar becyn sgiliau cyfathrebu i'ch helpu chi i rannu newyddion drwg, rheoli ansicrwydd, a rheoli achosion o wadu, cydgynllwynio a gwrthdaro.
Amserlen
Dyddiad | Teitl | Siaradwr Allanol |
---|---|---|
24 Chwefror | Gwneud diagnosis a rheoli canser YR YSGYFAINT | Mick Button |
3 Mawrth | Gwneud diagnosis a rheoli canserau Gastroberfeddol | Richard Adams |
10 Mawrth | Gwneud diagnosis a rheoli canser Y CROEN | Ricky Fraser |
17 Mawrth | Gwneud diagnosis a rheoli canser cynradd O DARDDIAD ANHYSBYS | Sonali Gupta |
24 Mawrth | Adnoddau Cyfathrebu | - |
Cyfres o weminarau rhad ac am ddim am ofal lliniarol
Mae llawer o sesiynau wedi'u recordio a gallwch ddod o hyd i'r rhain ar ein sianel YouTube. Ewch i'r dudalen hon yn ystod Gwanwyn 2021 i gael mwy o gynnwys.