Ewch i’r prif gynnwys

REF 2021 – Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

12 Mai 2022

Mae 90% o’r ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd yn swyddogol gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn ôl yr asesiad annibynnol diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch y DU.

Yn ôl canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 2021 Mai 2022), mae mwyafrif helaeth yr ymchwil a gyflwynwyd wedi sicrhau’r sgôr 4* a 3* uchaf. Mae hyn yn golygu bod asesiad annibynnol wedi cadarnhau bod ein hymchwil gyda’r gorau yn y byd o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd, a thrylwyredd.

  • Ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y DU am ansawdd cyffredinol ein hymchwil (19eg) ein heffaith (11eg), a’n hamgylchedd ymchwil (16eg)
  • 14eg yn y DU am Bŵer Ymchwil sy'n dangos maint ac ansawdd ein hymchwil
  • Prifysgol Caerdydd yw’r brifysgol ymchwil-ddwys fwyaf blaenllaw yng Nghymru o hyd, ar sail ansawdd ei hymchwil, ei phŵer ymchwil, ei heffaith a’i hamgylchedd.

"Mae’r ffaith bod asesiad annibynnol o’r farn bod 90% o’n hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, yn gadarnhad swyddogol ein bod yn un o brifysgolion ymchwil-ddwys mwyaf blaenllaw y DU a Chymru. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos nid yn unig ymrwymiad enfawr ein staff, ond bod ein hymchwil hefyd yn parhau i gael effaith wirioneddol ar fywyd bob dydd."

Is-Ganghellor, Yr Athro Colin Riordan

Yn gyffredinol, fe gynyddodd canran yr ymchwil a gafodd y sgôr 4* a 3* uchaf dros 3% o’i chymharu â REF 2014, ac mae’n uwch na chyfartaledd y sector (84%) a’r cyfartaledd yng Nghymru (83%).

Mae’n werth cofio ein bod wedi cyflawni’r canlyniad hwn er i ni bron â dyblu nifer y staff academaidd a gyflwynodd ar gyfer REF 2021. Roedd y cyflwyniad yn adlewyrchiad o ddull cynhwysol o gefnogi rhagoriaeth ymchwil ar draws pob disgyblaeth. Fe gyflawnwyd hyn trwy gynorthwyo ymchwilwyr Caerdydd i gyflawni ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth. Mae’r ffaith inni gyflwyno 100% o’n hymchwil, yn ogystal â’r twf sylweddol yn ein cymuned ymchwil yn ystod cyfnod REF 2021, yn brawf o hyn.

"Mae’n wych gweld cynifer o feysydd rhagoriaeth, sy’n dangos cryfder ac arwyddocâd cyfraniadau Caerdydd ym meysydd ymchwil ac arloesedd yng Nghymru a’r DU. Mae’r canlyniadau hyn yn gydnabyddiaeth o greadigrwydd, arloesedd a gwaith caled ein cymuned academaidd, ar draws yr holl ddisgyblaethau."

Yr Athro Kim Graham Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter

Mae uchafbwyntiau perfformiad Prifysgol Caerdydd yn REF 2021 yn cynnwys:

  • Fe gafodd Pensaernïaeth y sgôr uchaf posibl am ei hamgylchedd ymchwil, ac aseswyd bod 100% ohono yn helpu i gynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf. Fe aseswyd bod 100% o’i hastudiaethau achos o effaith, a 93% o’i hallbynnau, yn rhai sydd gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
  • Fe aseswyd bod 100% o ymchwil Systemau’r Ddaear a Gwyddorau Amgylcheddol gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, ac fe aseswyd bod 70% o’r allbynnau gyda’r gorau yn y byd.
  • Fe aseswyd bod 96% o gyflwyniad cyffredinol Peirianneg gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol, ac fe lwyddodd i gael lle yn chwartel uchaf y sefydliadau sy'n perfformio orau yn y DU.
  • Fe aseswyd bod 91% o ymchwil y Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd. Gyda sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd (GPA) o 3.39, roedd yn yr 16eg (o 90) safle yn gyffredinol, ac roedd yn 4ydd (o 90) am Bŵer Ymchwil.
  • Fe aseswyd bod 95% o’r ymchwil Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth naill ai gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd. Dyfarnwyd y sgôr uchaf posibl i’w hamgylchedd ymchwil (4.00). Mae’r amgylchedd hwn yn cael ei ystyried yn un sy’n helpu i gynhyrchu ymchwil ryngwladol ragorol, o ran ei bywiogrwydd a’i chynaliadwyedd.
  • Fe gyflwynwyd ymchwil gan 100% o staff cymwys (181 CALl) Astudiaethau Busnes a Rheolaeth. Yn ogystal â chyflawni cyfartaledd pwynt gradd (GPA) oedd yn y chwartel uchaf, roedd yn 2il ymhlith 108 o Ysgolion Busnes yn y DU am Bŵer Ymchwil (sy’n dynodi maint ac ansawdd ein cyflwyniad).
  • Y Gyfraith – 15fed yn y DU, a chyfartaledd pwynt gradd (GPA) cyffredinol o 3.34. Mae’r ffaith ei bod yn y 6ed safle am effaith ei hymchwil yn adlewyrchiad o effaith gyfunol a phwysigrwydd cymdeithasol ehangach ei gwaith.
  • Fe gyflawnodd Addysg y sgôr uchaf posibl o 4.00 am effaith ei hymchwil, ac roedd yn 3ydd yn gyffredinol. Roedd yn y 5ed safle yn y DU am ei hallbynnau. Fe aseswyd bod dros 90% o’i hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
  • Fe lwyddodd Saesneg Iaith a Llenyddiaeth i gipio’r 4ydd safle yn y DU am effaith ei hymchwil, ac roedd yn 5ed am bŵer ymchwil - gan ddynodi maint ac ansawdd ein cyflwyniad. Fe aseswyd bod 92% o'r ymchwil a gyflwynwyd gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb ac arwyddocâd.
  • Daeth Astudiaethau Cyfathrebu, Diwylliant a’r Cyfryngau, Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth yr 2il yn y DU am ei hymchwil byd-enwog mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol. Fe enillodd y sgôr uchaf posibl am ei amgylchedd ymchwil, ac fe aseswyd bod 95% o'i hymchwil gyda’r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.

Darganfod mwy am ganlyniadau REF 2021 Prifysgol Caerdydd, wedi’u dadansoddi yn ôl Unedau Asesu (UAau)

Edrychwch ar y prif astudiaethau achos o effaith a gyflwynwyd gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer REF2021.

Rhannu’r stori hon

Take a look at the REF 2021 impact case study spotlight features.