Rhwng 7 a 8 Tachwedd 2024, roedd Ysgol Busnes Caerdydd yn falch o gynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar 'Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR), yr Economi a Marchnadoedd Ariannol'.
Mae RemakerSpace wedi derbyn £48,000 o gronfa Cymorth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru i gydweithio ag Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd i greu modelau hyfforddi y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer llawdriniaeth y geg.
Mae canllaw cynhwysfawr newydd wedi cael ei lansio i helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) ac awdurdodau caffael i wreiddio gwerth cymdeithasol yn yr hyn y mae eu busnesau yn ei wneud.
Yng nghynhadledd Cymrodoriaeth Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd arddangoswyd prosiectau ysbrydoledig sy'n mynd i'r afael ag ystyriaethau mwyaf dybryd cymdeithas.
Wrth i’r Athro Rachel Ashworth orffen ei chyfnod yn Ddeon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, byddwn ni’n myfyrio ar ei harweinyddiaeth ddylanwadol dros y chwe blynedd diwethaf yn y sesiwn holi ac ateb hwn.