Adroddiad newydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i fusnesau bach yn y broses caffael cyhoeddus
29 Ebrill 2025

Mae’r Athro Jane Lynch, Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad o bwys sy’n taflu goleuni newydd ar ba mor effeithlon yw’r broses caffael cyhoeddus yn rhoi cymorth i ficrofusnesau a busnesau bach yn y DU.
Mae’r Athro Lynch wedi dadansoddi data rhwng 2019 ac 2024 mewn partneriaeth â Tussell (arbenigwyr gwybodaeth am y farchnad), er mwyn deall tueddiadau gwario cyn i’r Ddeddf Caffael 2023 ddod i rym ar 24 Chwefror 2025.
Mae’r canfyddiadau’n cynnwys:
- bod gwariant yn y sector cyhoeddus wedi cynyddu 84% rhwng blwyddyn ariannol 19/20 a blwyddyn ariannol 23/24
- ond, dim ond 35% o gynnydd oedd ar gyfer microfusnesau, sy’n llawer mwy cymedrol ac yn dangos dirywiad mewn nifer o ranbarthau’r DU
- gostyngodd gwariant ar ficro gyflenwyr 83% yn y sector trafnidiaeth.
Er bod microfusnesau a busnesau bach yn cyfrif am 99% o holl fusnesau'r DU, dim ond canran isel iawn o wariant cyhoeddus cyffredinol sy’n eu cyrraedd. Mae'r adroddiad yn awgrymu bod hwn yn gyfle wedi’i golli, yn enwedig pan ddylai caffael cyhoeddus fod yn allweddol ar gyfer twf economaidd lleol.
“Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd mawr, rhaid ystyried caffael cyhoeddus yn gyfle i fuddsoddi, pan fo hynny’n bosibl, i gefnogi twf lle mae ei angen fwyaf."
..."Yn dilyn Deddf Caffael 2023 mae’n ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi cynllun o gyfleoedd contractio gwerth dros £2 filiwn sy'n debygol o fod ar y gweill o fewn yr 18 mis nesaf. Mae hyn yn dileu un o'r prif rwystrau i ficrofusnesau a busnesau bach ac yn rhoi amser i’r sefydliad a’u cadwynau cyflenwi baratoi ar gyfer proses dendro caffael.’’
Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ymarferol ar gyfer timau caffael, llunwyr polisïau, a pherchnogion busnesau bach, a'i nod yw ysgogi rhagor o ymwybyddiaeth o sut y gall gwariant cyhoeddus roi hwb i ddatblygiad economaidd cynhwysol.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch grynodeb o’r prif ganfyddiadau gan Tussell.
Darllenwch yr adroddiad llawn: Procurement as a strategic lever of small business growth: A review of public procurement spend with micro and small businesses in the UK (2019-2024) -ORCA