Staff yr Ysgol Busnes ar restr fer Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr
24 Ebrill 2025

Mae tri aelod o staff Ysgol Busnes Caerdydd - Dr Kevin Evans, Jane McElroy, a Daniel Pierce - wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr (ESLAs), sy'n dathlu'r rhai sy'n cael effaith ystyrlon ar brofiad myfyrwyr.
Mae'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr, sy’n cael eu cynnal mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr, yn cydnabod ymroddiad staff a myfyrwyr sy'n mynd y tu hwnt i’r gofyn i gyfoethogi bywyd yn y brifysgol.
Eleni, bu dros 1,950 o enwebiadau ar draws 16 categori, gan dynnu sylw at gyfraniadau eithriadol gan bobl sy’n rhan o gymuned y brifysgol.
Staff o Ysgol Busnes Caerdydd ar y rhestr fer
Cymorth y Flwyddyn gan y Gwasanaethau Proffesiynol
Daniel Pierce, Cydlynydd Profiad Myfyrwyr.
Dywedodd Daniel: “Mae'n anrhydedd cael fy enwebu a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, yn enwedig wrth ystyried gwaith anhygoel fy holl gydweithwyr ysbrydoledig! Mae gwneud y gwaith hwn bob dydd yn dod â llawenydd mawr i mi, ac rwy'n teimlo'n hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth.”
Jane McElroy, Cynghorydd Gyrfaoedd.
Dywedodd Jane: “Rwy'n falch iawn o fod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr. Rwy'n mwynhau fy rôl yn Gynghorydd Gyrfaoedd, gan roi cyngor i fyfyrwyr a graddedigion wrth wneud penderfyniadau gwybodus am gynlluniau gyrfa yn y dyfodol, nodi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, cefnogi gyda'r broses ymgeisio am swydd i gyflawni nodau gyrfa a'r camau nesaf ar ôl y brifysgol.”
Y Defnydd Mwyaf Effeithiol a Rhagorol o Asesu’n Ffordd o Ddysgu
Dr Kevin Evans, Darllenydd Cyllid a Dirprwy Bennaeth Ymchwil, Effaith ac Arloesi
Dywedodd Kevin: "Rwy wrth fy modd fy mod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae cael fy enwebu yn fraint o’r mwyaf, heb sôn am gyrraedd y rhestr fer. Rwy'n hynod ddiolchgar bod myfyrwyr wedi mynd i’r drafferth o fy enwebu, ac rwy'n falch fy mod efallai wedi cael ychydig o ddylanwad ar eu dysgu a'u profiad. “
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu. Cawn wybod pwy yw’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal ar 9 Mai.