Cymraeg i Bawb
Mae Cymraeg i Bawb yn fenter sy’n cynnig cyfle ichi wella’ch sgiliau iaith ochr yn ochr â’ch astudiaethau yn y Brifysgol.
Rwyf wedi byw yng Nghymru ers wyth mlynedd ond ers dechrau nyrsio rydw i wedi sylweddoli pwysigrwydd dysgu Cymraeg. Mae siarad dim ond ychydig o eiriau o Gymraeg yn gallu helpu cleifion i deimlo'n gyfforddus yn ystod adegau o bryder.
Mae ein cyrsiau yn rhad ac am ddim ac wedi eu cynllunio i ddiwallu eich anghenion.
Mae nifer o gwmnïau a chyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a dyma gyfle ichi fanteisio ar ddarpariaeth broffesiynol ac arbenigol.
Beth sydd ar gael
Rydym wedi datblygu a ehangu'r ddarpariaeth ac yn cynnig cyrsiau ar amrywiaeth o lefelau. Ar hyn o bryd, cynigir cyrsiau wythnosol gyda chyrsiau dwys i ddilyn tymor nesaf.
Gwrandewch ar brofiadau ein cyfranogwyr diweddar o ddysgu Cymraeg.
Cysylltu
Cymraeg i Bawb
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni