Ewch i’r prif gynnwys

Addysg Feddygol

Mae rhaglenni Addysg Feddygol y Brifysgol wedi ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth dysgu ac addysgu ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol.

Anelir y rhaglenni at bob gweithiwr meddygol, deintyddol ac iechyd proffesiynol arall sydd eisiau proffesiynoli rôl y clinigydd sy’n athro.

Mae’n cydnabod cyd-destunau amrywiol, cymhleth a heriol y rheini sydd newydd gychwyn rolau a chyfrifoldebau addysgwr a’r rheini sydd â blynyddoedd lawer o brofiad.

Nod y cwrs yn gyffredinol yw datblygu cymuned o addysgwyr sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo gwelliannau o ran 'beth' a 'sut' rydyn ni’n addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.

Gall myfyrwyr ddewis astudio ein cyrsiau Addysg Feddygol ar sail dysgu wyneb yn wyneb neu ddysgu o bell.

Wyneb yn wyneb

Cwrs sy'n seiliedig ar bresenoldeb yng Nghaerdydd yw'r rhaglen hon.

CwrsDullHyd
Addysg Feddygol (MSc)Rhan-amser3 blynedd
Addysg Feddygol (MSc) Amser llawnBlwyddyn

Dysgu o bell

CwrsDullHyd
Addysg Feddygol (PgCert)Dysgu o bell yn rhan-amser Blwyddyn
Addysg Feddygol (MSc)Dysgu o bell yn rhan-amser3 blynedd