Ewch i’r prif gynnwys

Tyfu cymunedau meddalwedd agored a chynaliadwy ledled Affrica

Mae ein hymchwilwyr yn yr Ysgol Mathemateg wedi creu meddalwedd hygyrch a chynaliadwy sydd wedi galluogi twf cymunedol ledled Affrica gan arwain at well rhagolygon swyddi, cyfleoedd addysgol newydd i blant ysgol a chanmoliaeth a chefnogaeth gan Sefydliad Meddalwedd Python.

Code Pycon

Nid yw bob amser yn bosibl atgynhyrchu ymchwil fathemategol oherwydd cod cyfrifiadurol annibynadwy, aneglur neu hen ffasiwn. Mae ein dull o ymdrin â meddalwedd agored a chynaliadwy wedi sicrhau bod meddalwedd hygyrch ar gael ar draws y byd, yn enwedig mewn ardaloedd lle gall trwyddedau parhaus ac afresymol o ddrud gyfyngu ar y defnydd o feddalwedd bwrpasol.

Modelu rhwydweithiau ciwio

Roedd gwaith cynnar ar theori ciwio gan ymchwilwyr yn yr Ysgol Mathemateg yn archwilio ymddygiad strategol mewn systemau ciwio ac fe'i cyflwynwyd yng nghynhadledd gyntaf Python yn Namibia yn 2015. Sefydlodd yr ymchwil hon fframwaith cynaliadwy ar gyfer deall y posibilrwydd o gyrraedd sefyllfa ddisymud mewn rhwydweithiau ciwio. Mae'r fframwaith hwn yn disgrifio dull mathemategol sy'n defnyddio damcaniaeth ciwio yn ogystal â theori graffiau er mwyn gallu nodi pryd gallai rhwydwaith ciwio gyrraedd sefyllfa ddisymud. Mae'r dull yn sicrhau y gellir gwneud modelu rhwydweithiau ciwio yn fwy realistig: mewn model, byddai sefyllfa ddisymud i bob pwrpas yn rhwystro pob dadansoddi, lle byddai modd adnabod y sefyllfa a delio â hi mewn sefyllfa go iawn.

Yna, ymgorfforodd ein tîm y gwaith hwn yn y pecyn efelychu ffynhonnell agored 'Ciw' sy'n caniatáu i fodelau efelychu gael eu profi, eu hatgynhyrchu a'u haddasu gan ddefnyddwyr i gyd-fynd â'u hanghenion eu hunain. Defnyddiwyd Ciw mewn amrywiaeth o brosiectau ymchwil ac addysg, gan gynnwys cefnogi gwelliannau i ofal iechyd canser ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Strategaethau theori gemau ffynhonnell agored

Mae ail faes perthnasol ein hymchwil mewn cymwysiadau o ddamcaniaeth gemau, a ddatblygwyd o waith cynnar ar effaith ymddygiad hunanol ar effeithlonrwydd systemau ciwio. Aeth Dr Vincent Knight a'i dîm ati i ddatblygu ymhellach feddalwedd oedd yn archwilio esblygiad ymddygiad cydweithredol drwy ddarparu fframwaith ar gyfer ymchwil yn ‘Dilema'rCarcharor’. Crëwyd meddalwedd o'r enw 'Axelrod' sy'n cynnwys casgliad o fwy na 200 o strategaethau a brofwyd, a gofnodwyd, ac sydd ar gael i  ymchwilwyr ar draws y byd.

Mae’r ffaith bod ein hymchwilwyr wedi creu Axelrod â dyluniad ffynhonnell agored yn golygu y gall y sylfaen defnyddwyr gyfrannu strategaethau, sy'n creu cronfa fwy a mwy cadarn. Mae hynny’n golygu, felly, y gall y gymuned defnyddwyr gynnal Axelrod. Ers hynny mae ymchwilwyr Caerdydd wedi defnyddio Axelrod i gydweithio ar ddadansoddiadau theori gemau pellach, gan ddefnyddio ei natur agored a chynaliadwy i alluogi dull cydweithredol.

Darparwyd ymchwil Caerdydd, ac arddangosiadau o Ciw ac Axelrod yng Nghynhadledd gyntaf Python yn Namibia, yn 2015. Amlygodd ein hymchwil ar rwydweithiau ciwio ddull hygyrch o fynd i'r afael â phroblemau a wynebir ym maes gofal iechyd a masnach. Trwy gyflwyno strategaethau theori gemau ysbrydolwyd y broses o ffurfio llyfrgell strategaethau Axelrod.  Roedd y ddau faes ymchwil yn canolbwyntio ar wneud ymchwil gymhwysol yn hygyrch drwy fod yn ffynhonnell agored ac ar gael yn ddi-dâl, fel bod eraill yn gallu ei hastudio a'i defnyddio.

Effaith ein hymchwil

Mae ein hymchwil wedi ysbrydoli cymuned ryngwladol newydd a hunangynhaliol o ddefnyddwyr Python ledled Affrica. Drwy ein harbenigedd mewn defnyddio ymchwil ac offer ffynhonnell agored i ddatrys problemau ymarferol, mae ein tîm wedi hwyluso mabwysiadu technegau dadansoddi ffynhonnell agored yn eang ledled Affrica, gan feithrin cyfleoedd cyflogaeth ac addysgol newydd. Dangoswyd twf yn y gymuned Python yn Affrica gan y canlynol:

  • lansio Cynhadledd gyntaf Python yn Namibia;
  • ffurfio Cymdeithas Python Namibia, a ddenodd ddefnyddwyr newydd ac arwain at gyfleoedd hyfforddi hanfodol a thwf mewn sgiliau ar draws y wlad;
  • creu cymunedau newydd sy'n defnyddio Python yn Zimbabwe a Nigeria;
  • y gynhadledd gyntaf ar gyfer defnyddwyr Python ar draws Affrica, a hwyluswyd gan fwy o fuddsoddiad ariannol ledled Affrica gan Sefydliad Meddalwedd Rhyngwladol Python.

Lansio Cynhadledd gyntaf Python yn Namibia

Yn 2014 lansiodd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia Brosiect Phoenix, oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio addysg i wella amodau byw, lleihau tlodi, a hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Ceisiodd Danielle Procida, prif drefnydd Prosiect Phoenix yng Nghaerdydd, sefydlu Cynhadledd Python gyntaf Namibia (PyCon) gyda'r nod o dyfu ac annog defnydd o Python ar draws y wlad. Gwahoddwyd Dr Vincent Knight a Dr Geraint Palmer i gyflwyno eu hymchwil a chefnogi'r PyCon cyntaf ym Mhrifysgol Namibia ym mis Chwefror 2015.

Ffurfio PyNam: Cymdeithas Python Namibia

Ffurfiwyd cymdeithas gyntaf Python Namibia, PyNam, yn ystod PyCon yn 2015 ac ers hynny mae tîm PyNam wedi cynnal PyCon blynyddol yn Namibia, a denodd cynhadledd PyNam 2020 dros 100 o fynychwyr o 15 o wledydd ar draws Affrica, Ewrop a Gogledd America. Un o gryfderau allweddol PyCons Namibia yw eu hamrywiaeth: erbyn 2019 roedd 50% o'r rhai a fynychodd yn fenywod, a chyflwynwyd un o bob tair sgwrs gan gyflwynwyr benywaidd.

Mae digwyddiadau Python Namibia wedi cael effaith eang ar fabwysiadu a chymhwyso sgiliau ledled Affrica. Mae tîm PyNam wedi sefydlu grwpiau defnyddwyr cymunedol pellach, gan gynnwys grŵp codio ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd yn Namibia, oedd yn cael eu galw’n Ysgolheigion PyNam.

Twf parhaus ar draws y Cyfandir

Mae llwyddiant tîm PyNam wedi ysbrydoli twf cymunedau defnyddwyr ledled Affrica. Mae Cymuned Python Nigeria wedi tyfu i gynnwys mwy nag 1.5K o aelodau ac wedi cynnal mwy na 35 o ddigwyddiadau Python yn 2017.

Arweiniodd y cynnydd mewn cymunedau Python ledled Affrica at y PyCon cyntaf i Affrica gyfan, a gynhaliwyd ym mis Awst 2019 yn Accra, Ghana. Mynychwyd y gynhadledd pum diwrnod "PyAfrica" gan 323 o bobl o 26 o wledydd ar draws Affrica, Ewrop, Gogledd a De America.

Nododd Sefydliad Meddalwedd Python fod y cydweithio rhwng ein hymchwilwyr a Phrifysgol Namibia yn hanfodol i gynnydd cymunedau defnyddwyr Python ledled Affrica.

Mae Sefydliad Meddalwedd Python wedi cynyddu eu cyllid i grwpiau Python yn Affrica i adlewyrchu'r twf yn y gymuned. Yn 2019, mae Adroddiad Blynyddol 2019 Sefydliad Meddalwedd Python yn nodi bod 25% o'uharian yn mynd i Affrica o ganlyniad i waith sawl cymuned fel Python Nigeria, Python Ghana, Zimbabwe a Namibia. Roedd hyn yn cyfateb i tua $83.5K a fuddsoddwyd mewn Grwpiau Defnyddwyr Python Affricanaidd a PyCons yn 2018.

Africa

Ffeithiau allweddol

  • Un o gryfderau allweddol PyCons Namibia yw eu hamrywiaeth: erbyn 2019 roedd 50% o'r rhai a fynychodd yn fenywod, a chyflwynwyd un o bob tair sgwrs gan gyflwynwyr benywaidd.
  • Yn 2020 yn unig, dechreuodd naw o gyn-Ysgolheigion PyNam yrfaoedd newydd mewn meysydd datblygu meddalwedd a seiberddiogelwch ar ôl graddio o'r ysgol.
  • Mae Sefydliad Meddalwedd Python wedi cynyddu eu cyllid i grwpiau Python yn Affrica i adlewyrchu'r twf yn y gymuned. Yn 2019, mae Adroddiad Blynyddol 2019 Sefydliad Meddalwedd Python yn nodi bod 25% o'uharian bellach yn mynd i Affrica.
Python software development

"Ysbrydolodd ymchwil Caerdydd genhedlaeth o godwyr a dadansoddwyr yn Namibia, sydd yn eu tro wedi ysbrydoli, addysgu a gweithio gyda'r gymuned Affricanaidd ehangach i wneud Python yn rym er lles ar draws y cyfandir."

Jessica Upani, Llywydd PyNam