Llyfrgell Archie Cochrane
Mae Llyfrgell Archie Cochrane wedi'i lleoli yng Nghanolfan Academaidd Routledge, Ysbyty Llandochau ac mae'n cynnwys casgliadau ar feddygaeth, llawfeddygaeth, nyrsio, iechyd cysylltiedig, seiciatreg a seicoleg, yn ogystal ag Archif Cochrane.
View Llyfrgell Archie Cochrane on Google MapsOriau agor
- Ni ddylech ymweld ag unrhyw un o Lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd os oes gennych symptomau neu os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19, neu os ydych wedi cael gwybod i hunanynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) GIG Cymru.
- Wrth fynd i mewn i unrhyw un o'n llyfrgelloedd, bydd angen i chi sganio cod QR Prifysgol Caerdydd neu lenwi ffurflen bapur i gofrestru gwybodaeth Profi Olrhain Diogelu er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.
- Argymhellir yn gryf eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb pryd bynnag y byddwch mewn man dan do y gall y cyhoedd fynd iddo.
Dydd Llun | 09:00 - 17:00 |
Dydd Mawrth | 09:00 - 17:00 |
Dydd Mercher | 09:00 - 17:00 |
Dydd Iau | 09:00 - 17:00 |
Dydd Gwener | 09:00 - 17:00 |
Dydd Sadwrn | Ar gau |
Dydd Sul | Ar gau |
Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos gyfredol. Gweld amseroedd agor ar gyfer 2021-22
Amdanom ni
Mae’r Llyfrgell a’r gronfa ddata tystiolaeth gofal iechyd a elwir yn Llyfrgell Cochrane wedi eu henwi ar ôl y diweddar Athro Archie Cochrane, a fu’n gweithio am flynyddoedd lawer yn ardal Caerdydd. Hyrwyddodd y cysyniad o dreialon rheoledig ar hap a’r angen am ymarfer ar sail tystiolaeth. Mae Archif Cochrane yn cynnwys memorabilia yn ymwneud â’i fywyd a’i waith. Rhagor o fanylion ar gael ar gais gan y llyfrgellydd.
Mynediad
Nid yw'r llyfrgell ar agor i gleifion, ymwelwyr ysbyty neu aelodau o'r cyhoedd. Darperir Gwasanaethau/Canolfannau Gwybodaeth Gleifion yn Ysbyty'r Brifysgol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a drwy Ganolfan Canser Felindre.
Mae mynediad 24 awr ar gael ar gais, ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, staff Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Anfonwch e-bost cochraneliby@caerdydd.ac.uk am help.
- Mynediad llawr gwaelod i'r ganolfan gyda lifft i'r llyfrgell
- Toiled anabl
- Gofynnwch am gymorth oddi wrth staff ar gyfer dod o hyd i lyfrau

Ymholiadau Llyfrgell Archie Cochrane
- cochraneliby@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2071 6255
- cochranelibllan
Lleoliad Llyfrgell
Canolfan Academaidd Routledge
Ysbyty Prifysgol Llandochau
Penarth
Caerdydd
CF64 2XX
Llyfrgellwyr pwnc
Rosemary Soper
Llyfrgellydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- soper@cardiff.ac.uk
- Telephone:+44 (0)29 2071 6255