Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgell Brian Cooke

Mae Llyfrgell Brian Cooke yn cynnig gwasanaethau gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a staff academaidd yn yr Ysgol Deintyddiaeth a staff ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro.

View Llyfrgell Brian Cooke on Google Maps

Oriau agor

Bydd staff yn y llyfrgell rhwng 12:00 a 14:00, ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar amseroedd eraill, gallwch siarad â'r staff llyfrgell yn Llyfrgell y Mynydd Bychan neu drwy'r gwasanaeth sgwrsio byw Holi Llyfrgellydd.
Dydd Llun 08:30 - 17:00
Dydd Mawrth 08:30 - 17:00
Dydd Mercher 08:30 - 17:00
Dydd Iau 08:30 - 17:00
Dydd Gwener 08:30 - 17:00
Dydd Sadwrn Ar gau
Dydd Sul Ar gau

Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos gyfredol.

Amdanom ni

Mae’r llyfrgell wedi’i enwi ar ôl yr Athro Brian Cooke, sylfaenydd ddeon yr Ysgol Deintyddiaeth. Mae’r casgliad print yn cynnwys deunydd deintyddiaeth yn bennaf ond mae yna agweddau arall o feddygaeth a gofal iechyd.

Mae hyfforddiant sgiliau llyfrgell ar gael i staff a myfyrwyr yn y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, ac mae'n mynd i'r afael â phynciau sy'n cynnwys chwilio'n effeithiol, sgiliau gwybodaeth a defnyddio meddalwedd rheoli cyfeiriadau a'r cyfryngau cymdeithasol. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn y Llyfrgell Iechyd.

Mynediad

  • Wedi’i leoli ar y bedwerydd llawr o’r Ysgol Ddeintyddol.
  • Yn hygyrch drwy lifftiau sydd wedi’i lleoli ger y fynedfa i’r llyfrgell.
  • Mae toiledau hygyrch wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod a pedwerydd llawr yr adeilad.
  • Fe wnaiff staff estyn llyfrau oddi ar y silffoedd - gofynnwch am gymorth.

Ymholiadau Llyfrgell Brian Cooke

Email:
briancookeliby@caerdydd.ac.uk
Telephone:
+44 (0)29 2068 8152
Blog:
Blog
Twitter:
cardiffunilib

Lleoliad Llyfrgell

Ysbyty Deintyddol y Brifysgol
4ydd
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XY


Llyfrgellwyr pwnc

Lucy Collins

Llyfrgellydd Pwnc (Deintyddiaeth)