Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd – Dyma Ffion

Astudiwch y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd i ennill profiad ymarferol o'r pwnc yn y byd go iawn. Byddwch yn elwa o'n dysgu cyfreithiol a arweinir gan ymchwil rhagorol ac yn profi ein cyfuniad unigryw o hyfforddiant academaidd a phroffesiynol.

Mae ein hamrywiaeth eang o raddau cymhwysol yn y Gyfraith yn eich galluogi chi i gyflawni'r cyfnod hyfforddi academaidd ar gyfer ymarfer cyfreithiol yn Lloegr a Chymru.

Byddwn yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, amrywiol a chefnogol i chi astudio ynddo, gyda manteision ychwanegol lleoliad mewn prifddinas a chysylltiadau agos gyda'r proffesiwn cyfreithiol a'r farnwriaeth.

Cyfoethogir eich profiad israddedig yn rhaglen y Gyfraith gyda chyfleoedd niferus i chi i hybu eich cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol yn cynnwys ein cynlluniau pro bono, ymryson a sgiliau trafod. Bydd gennych gyfle hefyd i wneud cais am leoliad gwaith para gyfreithiol â chyflog mewn cwmni cyfreithiol blaenllaw yng Nghaerdydd yn eich trydedd flwyddyn.

Rhaglenni gradd

Students who already have a degree in a non-law subject and wish to qualify as a solicitor or barrister should consider our Graduate Diploma in Law which offers intensive, graduate-level legal studies.