Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliadau paragyfreithiol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym wedi ymrwymo i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i lwyddo yn y farchnad swyddi gystadleuol.

Er mwyn cyflawni hynny, ein nod yw cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi a fydd yn caniatáu ichi gymhwyso'n ymarferol y ddamcaniaeth academaidd y byddwch yn ei dysgu o fewn eich dosbarthiadau, y tu allan i'r byd go iawn.

Yn ystod ail flwyddyn eich gradd LLB y Gyfraith, byddwch yn cael y cyfle i wneud cais am leoliad gwaith, a gaiff ei gwblhau yn nhrydedd flwyddyn eich gradd.  Mae lleoliadau’n cael eu cynnig ar hyn o bryd i fyfyrwyr y Gyfraith Prifysgol Caerdydd gan y cwmnïau cyfreithwyr canlynol:

  • Hugh James
  • DAC Beachcroft
  • Watkins a Gunn
  • Hennah Haywood
  • NewLaw
  • Newfields Law
  • JCP

Caniateir i chi hefyd drefnu eich lleoliadau eich hun (o leiaf 30 wythnos), yn amodol ar gymeradwyaeth gan Rheolwr Lleoliadau Ysgol.

Mae myfyrwyr sy'n dilyn rhaglen LLB y Gyfraith gyda rhaglen Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol yn treulio blynyddoedd un, dau a phedwar yn y Brifysgol a threulir blwyddyn tri ar leoliad.  Bydd y lleoliadau cyflogedig amser llawn ar gael drwy broses gystadleuol sy’n ceisio efelychu’r broses recriwtio i raddedigion y byddwch yn ei hwynebu ar ôl gadael y brifysgol.

Yn ystod eich lleoliad, byddwch yn ymgymryd ag ymarfer cyfreithiol fel paragyfreithiwr, ac yn gwneud gwaith ar lefel graddedigion.

Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol i ymarferwyr megis rheoli achosion, ymchwil gyfreithiol ac ysgrifennu cyfreithiol yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd cyffredinol megis rheoli amser, gweithio mewn tîm ac ymwybyddiaeth fasnachol. Mae lleoliadau yn gyfle gwych i rwydweithio a chyfle i wella eich CV.

Meini prawf derbyn

Mae myfyrwyr sy'n dilyn gradd LLB yn y Gyfraith yn gymwys i wneud cais, ynghyd â myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglenni integredig a gynigir gyda Gwleidyddiaeth, Troseddeg a'r Gymraeg.

Darparwr y lleoliad sy’n penderfynu ar y broses ymgeisio.  Mae holl ddarparwyr y lleoliadau presennol yn gofyn am CV a llythyr eglurhaol.  Mae'r myfyrwyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld gan ddarparwyr y lleoliadau.

Asesu

Bydd y flwyddyn ar leoliad yn cyfrif fel 10% o ddosbarthiad eich gradd terfynol.

Cewch eich asesu’n gyfan gwbl drwy waith cwrs sy’n cynnwys adroddiad ar ymarfer.

Cysylltwch â’n Tîm Derbyn Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth am y flwyddyn ar leoliad gwaith:

Law and Politics placements