Ewch i’r prif gynnwys

Trosglwyddiadau cyfraith ryngwladol

Bob tymor, rydym yn croesawu llawer o fyfyrwyr rhyngwladol i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth oherwydd amgylchedd cyfeillgar, cefnogol ac amrywiol ein diwylliant.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sydd â diddordeb mewn astudio’r gyfraith yn y dyfodol, gallwch wneud cais i astudio gyda ni drwy’r llwybr UCAS safonol neu drwy drosglwyddiad a gynigiwn ar y cyd â nifer o sefydliadau partner mewn rhannau eraill o’r byd.

Rydym yn cynnig rhaglenni trosglwyddo o'r sefydliadau partner canlynol:

Mae rhaglen drosglwyddo yn caniatáu i fyfyrwyr cymwys sy'n astudio rhaglen LLB mewn sefydliad partner drosglwyddo i Brifysgol Caerdydd naill ai ym mlwyddyn 2 neu flwyddyn 3 i gwblhau eu rhaglen LLB. Byddwch yn ymuno â chymuned heriol, ysgogol a deinamig lle byddwch yn ennill y sgiliau, yr hyder a'r cymhelliant i ragori ym maes y gyfraith.

Dysgir y gyfraith yng Nghaerdydd mewn modd mwy rhyngweithiol ac mae'n bwnc sy'n gofyn am fwy o ddadansoddi, dealltwriaeth a meddwl beirniadol yn hytrach na dim ond dysgu ar y cof.

Justin Tong LLM Law

Ysgoloriaeth Trosglwyddo'r Gyfraith

Mae Ysgoloriaeth Trosglwyddo’r Gyfraith Prifysgol Caerdydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n trosglwyddo naill ai i flwyddyn 2 neu flwyddyn 3 o’n rhaglenni LLB o’r sefydliadau partner. Mae rhagor o wybodaeth am yr Ysgoloriaeth Trosglwyddo’r Gyfraith ar gael ar dudalennau gwe Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd.

Rhesymau dros drosglwyddo i Gaerdydd

  • Ymunwch ag un o’r 20 ysgol gyfraith orau (The Complete University Guide 2023) ac aelod o Grŵp Russell sy’n cynrychioli 24 o brifysgolion blaenllaw’r DU.
  • Cwblhewch eich addysg gyfreithiol trwy ein Cwrs Hyfforddi Bar, eich llwybr i gymhwyso fel bargyfreithiwr. Darperir yr addysgu gan fargyfreithwyr a chyfreithwyr hyfforddedig.
  • Dewiswch o blith amrywiaeth o fodiwlau cyffrous a fydd yn eich helpu i ddeall y gymdeithas yr ydych yn byw ynddi.
  • Cymerwch ran ym Mhrosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd sydd wedi gwrthdroi euogfarnau yn y Llys Apêl.
  • Cewch fantais yn eich gyrfa gyfreithiol gan ddatblygu gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, sgiliau ysgrifennu a siarad cyhoeddus trwy ein hystod o gynlluniau pro bono.
  • Ymgollwch yn ein cymuned ryngwladol o dros 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 130 o wledydd.

International