Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Ymunwch â'r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion cyfreithiol a chyfrannu at ymchwil arloesol mewn ystod eang o feysydd.

Rydym yn arweinydd cydnabyddedig ym maes ysgolheictod cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac mae ein maint yn ein galluogi ni i gynnal diwylliant ymchwil fywiog.

Cynigwn gyfleoedd ar gyfer astudio amser llawn a rhan amser sy'n arwain at raddau MPhil a PhD drwy Raglen y Gyfraith (PhD/MPhil) yr Ysgol.

Rydym yn cynnal rhaglen PhD Astudiaethau Empirig yn y Gyfraith, sy'n cael cefnogaeth ariannol ar gyfer ysgoloriaethau PhD o Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

Pynciau cyfreithiol

Cynigwn oruchwyliaeth mewn amrywiaeth eang o bynciau cyfreithiol sy'n cynnwys:

  • Cyfraith Islamaidd
  • Cyfraith Cyfiawnder Sifil Masnachol
  • Cyfraith Cwmnïau
  • Cyfraith Gymharol
  • Cyfraith Contractau
  • Llywodraethu Corfforaethol a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
  • Cyfraith a Chyfiawnder Troseddol
  • Cyfraith Gwahaniaethu
  • Cyfraith Cyflogaeth
  • Cyfraith Amgylcheddol ac Ynni
  • Cyfraith Ewropeaidd a Llywodraethu
  • Cyfraith Teulu
  • Theori Gyfreithiol Ffeministaidd
  • Rhyw a'r Gyfraith
  • Llywodraethu a Datganoli
  • Cyfraith Hawliau Dynol
  • Cyfraith Gydwladol Masnach
  • Cyfraith Droseddol Ryngwladol
  • Eiddo Deallusol
  • Cyfraith Ddyngarol Ryngwladol
  • Cyfraith Rhyngwladol Ffoaduriaid a Lloches
  • Astudiaethau Barnwrol a Phenderfyniadau Cyfreithiol
  • Polisi Tir a Diwygio Tir
  • Y Gyfraith a Datblygu
  • Y Gyfraith a Llenyddiaeth
  • Theori Cyfreithiol a Chymdeithasol
  • Arbenigedd Cyfreithiol
  • Cyfraith Meddygol a Chyfraith Iechyd Meddwl
  • Technolegau Newydd a Rheoli Risg
  • Cyfraith Ryngwladol Breifat
  • Cyfraith Eiddo
  • Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus
  • Cyfraith Gyhoeddus, Theori ac Ymarfer
  • Cyfraith Grefyddol
  • Cyfraith Gofal Cymdeithasol
  • Cyfraith Chwaraeon
  • Cyfraith Camwedd
  • Datrys Anghydfodau Rhyngwladol
  • Ymddiriedolaethau

Os nad ydym yn crybwyll y maes y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael sgwrs anffurfiol. Fe wnawn ni'n gorau i gynnig lle i ymgeiswyr cymwys ond ni allwn warantu hynny os nad oes aelod staff ar gael i oruchwylio'r prosiect ymchwil a gynigir i'r safonau uchel rydym yn eu darparu'n rheolaidd.

Cysylltwch â ni

Swyddfa Ôl-raddedig y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Gallwch astudio'r MPhil yn llawn amser dros gyfnod o flwyddyn neu'n rhan amser dros ddwy flynedd i ennill gradd Athro mewn Athroniaeth. Gallwch astudio'r rhaglen PhD yn llawn amser dros dair blynedd neu'n rhan amser dros bum mlynedd ac ennill y radd Doethur mewn Athroniaeth.