Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Feddygol

Mae peirianwyr meddygol yn beirianwyr clasurol cymwys sy'n cymhwyso egwyddorion peirianneg i ddatblygu triniaethau meddygol, cymwysiadau neu dechnolegau diagnostig a all wella ac achub bywydau.

Nod ein cwrs peirianneg  feddygol achrededig yw cynhyrchu peirianwyr hynod fedrus sy’n gallu dilyn gyrfa mewn meysydd peirianneg glinigol, biobeirianneg neu beirianneg y tu allan i feddygaeth.

Porwch drwy ein rhaglenni gradd peirianneg meddygol.

Mae gan Gaerdydd un o'r cyrsiau peirianneg feddygol mwy sefydledig gwnes i edrych arno wrth benderfynu ar brifysgol. Mae’r cwrs yn anhygoel. Mae pwyslais mecanyddol trwm yn y flwyddyn gyntaf ac mae’n troi’n fwy arbenigol bob blwyddyn. Fy hoff fodiwl oedd biomecaneg a dyna lle wnaethom gymhwyso'r holl fecaneg yn y flwyddyn gyntaf i'r cymalau yn y corff dynol. Ymunais â'r tîm pêl-rwyd peirianneg yn fy mlwyddyn gyntaf ac roedd hynny'n caniatáu i mi gwrdd â chymaint o ferched o beirianneg a gwneud rhai ffrindiau na fyddwn i erioed wedi cwrdd â nhw. Mae'n wych gwneud ffrindiau gyda myfyrwyr hŷn ar y cwrs oherwydd gallan nhw roi awgrymiadau i chi!

Anna, Peirianneg Feddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant