Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Drydanol ac Electronig

Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn gweithio ar flaen y gad ym maes technoleg, gan ddatblygu a gwella'r dyfeisiau a'r systemau rydyn ni’n eu defnyddio i brosesu a throsglwyddo pŵer a gwybodaeth.

Ein graddau peirianneg drydanol ac electronig achrededig yw’r 1af yn y DU, yn ôl ein myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022.

Ar ben hynny, mae myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau allanol a lleoliadau haf gyda’r UK Power Academy a Sefydliad Sgiliau Electronig y DU (UKESF) gan fod Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r ddau gynllun. 

Porwch drwy ein rhaglenni gradd ym maes peirianneg drydanol ac electronig.

Mae dinas Caerdydd yn llawn pobl glên. Mae'n hawdd mynd o gwmpas, yn ddiogel, yn rhad, ac mae ganddo fywyd nos gwych – mae'n ticio pob bocs. Mae'r Ysgol Peirianneg wedi'i threfnu'n dda, ac mae'r staff sy'n gweithio yno’n barod eu cymwynas ac yn ystyriol. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael Ysgoloriaeth Academi Bŵer y DU drwy fy nghwrs, sy'n werth ymgeisio amdano yn eich blwyddyn gyntaf. Gallwch wneud lleoliadau gyda llwythi o wahanol gwmnïau - fe wnes i fy un fi gyda Siemens. Roedd yn brofiad gwych a ddatblygodd fy sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm.

Isabelle, Peirianneg Drydanol ac Electronig