Prentisiaeth gradd
Rhaglen bum mlynedd arloesol yw'r BEng Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig fydd yn caniatáu i chi gael gradd tra'ch bod mewn cyflogaeth â thâl.
Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Choleg Gŵyr Abertawe, nawr gynnig Prentisiaeth Gradd a ariennir yn llawn ar gyfer gweithwyr presennol neu newydd eu recriwtio sy'n gweithio yn y diwydiant peirianneg yng Nghymru trwy gynllun Prentisiaeth Gradd newydd Llywodraeth Cymru.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i adeiladu arni eich profiad cyflogaeth i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau eang mewn peirianneg drydanol, electronig, mecanyddol a gweithgynhyrchu gyda'r cyfle i arbenigo ym mlynyddoedd olaf y cwrs.
Bydd darpariaeth dysgu o bell wedi'i bersonoli hefyd yn lleihau'r angen i deithio i'r coleg a'r brifysgol, gan sicrhau bod peirianwyr ledled De Cymru yn gallu cyrchu cyfleoedd a fydd yn eu helpu i sicrhau gyrfa lwyddiannus yn y dyfodol.
Rhaid i unigolion feddu ar gymhwyster lefel tri i gael eu hystyried ar gyfer y cwrs.
Strwythur y cwrs
Cwrs gradd israddedig ran amser dros bum mlynedd yw hwn. Mae patrwm cyflwyno'r rhaglen yn seiliedig ar fodel 14 semester gyda myfyrwyr yn mynychu ar sail 1 diwrnod yr wythnos.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn astudio ar gyfer eu cymwysterau lefel pedwar a phump yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cyn trosglwyddo i Brifysgol Caerdydd i gwblhau dwy flynedd olaf y radd ar lefel prifysgol BEng Peirianneg Integredig.
Gall dysgu cydnabyddedig ac achrededig blaenorol leihau hyd y cwrs.
Blwyddyn un
Cyflwynir yr holl fodiwlau blwyddyn un yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Ym mlwyddyn un cyflwynir modiwlau Lefel 4, sydd oll yn fodiwlau craidd, wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer astudiaethau dwysach ar lefelau 5 a 6.
Cyflwynir modiwl Labordy drwy gydol y flwyddyn i'ch paratoi ar gyfer cymhwyso sgiliau ymarferol uwch yn ogystal â modiwl mewn Peirianneg Broffesiynol i'ch cyflwyno i fyd y peiriannydd proffesiynol.
Mae modiwlau eraill blwyddyn un yn ymwneud â phynciau'n sy'n ymdrin yn benodol â gwyddoniaeth a pheirianneg. Byddwch yn dysgu o'ch profiad yn y gweithle, gan adfyfyrio ar sut caiff yr hyn rydych chi'n ei ddysgu'n ei ddefnyddio'n ymarferol. Bydd gofyn hefyd i chi gadw dyddiadur adfyfyriol o'ch profiadau gwaith fydd yn cyfrannu at asesiad y prosiect yn seiliedig ar waith yn y flwyddyn olaf.
Ffocws modiwlau Lefel 4 yw datblygu eich gwybodaeth am egwyddorion craidd peirianneg a datblygu sgiliau ymarferol perthnasol.
Yn ystod blwyddyn un byddwch yn astudio chwe modiwl, ac o'r rhain caiff tri eu cwblhau yn ystod y trydydd semester, ac yna ychwanegir tri modiwl arall y byddwch yn parhau i'w hastudio ym mlwyddyn dau.
Blwyddyn dau
Cyflwynir yr holl fodiwlau blwyddyn dau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Mae blwyddyn dau'n cynnwys modiwlau craidd yn llwyr. Bydd gofyn i chi gwblhau naw modiwl Lefel 4 erbyn diwedd Tymor y Gwanwyn (semester pump) cyn symud ymlaen i astudio'r modiwlau Lefel 5.
Mae'r holl fodiwlau'n ymwneud â pheirianneg, a'r nod yw dwysau eich gwybodaeth mewn meysydd arbenigol, cymhwyso egwyddorion a datblygu sgiliau datrys problemau.
Bydd modiwl mewn Rheoli Peirianneg yn rhoi gwybodaeth i chi ar gyllid corfforaethol, cyfraith cyflogaeth a deddfwriaeth berthnasol arall, sy'n hanfodol i reolwyr ym maes peirianneg heddiw ac a fydd yn adeiladu ar eich profiad yn y gweithle.
Blwyddyn tri
Cyflwynir rhai modiwlau blwyddyn tri yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Bydd rhan olaf y cwrs yn cael ei chyflwyno'n bennaf ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yn rhoi digon o wybodaeth ar beirianneg i chi allu ymgymryd â phrosiect ystyrlon yn seiliedig ar waith.
Bydd gofyn i chi gwblhau naw modiwl Lefel 5 i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer rhan derfynol Lefel 6 y cwrs.
Bydd y prosiect yn gadael i chi ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth y byddwch chi wedi'u hennill yn ystod camau cynharach y rhaglen radd.
Yn ystod blwyddyn tri, dylech ystyried natur y prosiect seiliedig ar waith. Byddwch chi, ynghyd â'ch cyflogwr a'ch tiwtor, yn cyfarfod i drafod cyfleoedd posibl ar gyfer ffurfio prosiect addas a dewis goruchwyliwr academaidd priodol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Blwyddyn pedwar
Ym mlwyddyn pedwar byddwch yn symud i'r Ysgol Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer astudio ar Lefel 6.
Mae'r flwyddyn yn cynnwys dechrau'r modiwl Prosiect Seiliedig ar Waith sydd werth 40 credyd, a fydd yn parhau am ddwy flynedd olaf y rhaglen. Byddwch yn cymhwyso'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu i ddatrys problemau byd real.
Ar gyfer hyn byddwch yn astudio'n unigol ar broblem sylweddol sydd wedi'i chanfod yn eich gweithle, ochr yn ochr ag aelod o staff academaidd o Brifysgol Caerdydd yn goruchwylio, eich tiwtor o Goleg Gŵyr a'ch cyflogwr, gan gymhwyso'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu i ddatrys problemau byd real.
Byddwch yn cwblhau dau fodiwl craidd yn cynnwys Rheoli Prosiectau Peirianneg sy'n cysylltu'n agos gyda'ch prosiect unigol a dau fodiwl dewisol arbenigol. Byddwch yn astudio cyfanswm o bedwar modiwl dewisol o grŵp o saith.
Byddwch yn dod i'r Brifysgol am un diwrnod bob wythnos yn ystod y tymor (dau semester deuddeg wythnos) a byddwch yn gweithio ar eich prosiect yn eich gweithle. Byddwch yn astudio gyda myfyrwyr ar y cynllun gradd llawn amser BEng Peirianneg Integredig, gyda chymorth tiwtorial penodol ychwanegol i'ch helpu i bontio i fywyd yn y Brifysgol.
Yn ystod semester yr haf, byddwch yn canolbwyntio ar eich prosiect yn eich man gwaith gan gynnal adolygiadau rheolaidd gyda'r tîm goruchwylio.
Blwyddyn pump
Byddwch yn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd am y ddau semester olaf o fodiwlau Lefel 6, gan arwain at gwblhau eich gradd. Byddwch yn cwblhau dau fodiwl craidd arall a'r ddau fodiwl dewisol olaf wrth gwblhau eich prosiect seiliedig ar waith.
Byddwch yn dod i'r Brifysgol am un diwrnod o'r wythnos yn ystod y tymor ac yn gweithio ar eich prosiect yn eich gweithle.
Modiwlau'r cwrs
Mae'r modiwlau a addysgir ar y rhaglen hon yn adlewyrchu ein modiwlau BEng Peirianneg Integredig sefydledig, gyda gwerth ychwanegol drwy ddysgu'n seiliedig ar waith.
Lefel 4 | Lefel 6 | Dewisol | Lefel 5 |
---|---|---|---|
Labordy | Prosiect yn seiliedig ar waith | Masnacheiddio Arloesedd | Dylunio Cynnyrch Integredig |
Mathemateg Peirianneg | Rheoli Prosiectau Peirianneg | Mecaneg Solet | Thermohylifau |
Mecaneg | Rheolaeth Awtomatig | Roboteg a Phrosesu Delweddau | Mathemateg Peirianneg |
Peirianneg Broffesiynol | Trosglwyddo Gwres a Thermodynameg | Cyfrifiadura Peirianneg yn canolbwyntio ar Wrthrychau | Rheoli Peirianneg |
Dadansoddi Rhwydweithiau | Electroneg Pŵer | Biomecaneg | Cymwysiadau Microreolwr a Dylunio a Ymgorfforir |
Cyfrifiadura Peirianneg | Pŵer a Rheoli Hylifol | Rheoli Peirianneg | |
Peirianneg Drydanol ac Electronig | Systemau Pŵer | Deunyddiau a Gweithgynhyrchu | |
Peirianneg Pŵer a Deunyddiau Trydanol | Peiriannau a Gyriannau Trydanol | Rhaglennu a Chymwysiadau Microreolwr | |
Systemau Cyfathrebu Analog | Technolegau Ynni Adnewyddadwy | Peiriannau ac Electroneg Pŵer | |
Integreiddio Grid o Ynni Adnewyddadwy | |||
Dylunio Cynnyrch |
Addysgu
Caiff y cwrs ei gyflwyno gydag un diwrnod astudio bob wythnos ac ambell wythnos floc i ffwrdd o weithle’r myfyriwr dros gyfnod o bum mlynedd.
Addysgir drwy sesiynau rhyngweithiol yn y dosbarth, darlithoedd, dosbarthiadau enghreifftiau a dylunio, a gwaith labordy, TG ac ymarferol helaeth.
Cyflwynir y cwrs drwy ddull dysgu cyfunol gyda chyfuniad o addysgu a gweithgareddau dysgu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.
Bydd yr elfen prosiect seiliedig ar waith yn cael ei wneud yn llwyr yn eich gweithle a chaiff ei bennu mewn ymgynghoriad â'r cyflogwr er mwyn cyflenwi prosiect sydd o fudd gwirioneddol i'r busnes, yn ogystal â bodloni deilliannau dysgu'r modiwl.
Asesu
Cyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau a osodir ar adegau priodol wrth i'r modiwl fynd yn ei flaen. Mae gan fodiwl nodweddiadol arholiad ar y diwedd, ynghyd ag aseiniad gwaith cwrs lle byddwch yn cymhwyso'r egwyddorion peirianneg a addysgir yn y modiwl i ddatrys problemau peirianneg ymarferol.
Mae arholiadau yn cyfrif am 60-75% o'r holl asesiad drwy gydol y rhaglen.
Cymorth
Caiff tiwtor personol ei neilltuo i chi sy'n aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd yn gysylltiedig â'ch rhaglen radd, yn ogystal â thiwtor yng Ngholeg Gŵyr. Byddwch yn cyfarfod â nhw'n unigol ac ar y cyd yn rheolaidd drwy gydol pum mlynedd y rhaglen.
Ffioedd y cwrs
Telir ffioedd y cwrs gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ar ran Llywodraeth Cymru. Rhaid i’r holl brentisiaid fod yn gweithio i sefydliad sydd â swyddfa yng Nghymru, a rhaid eu bod yn treulio o leiaf 51% o’u horiau gwaith yn gweithio yng Nghymru. Bydd disgwyl i gyflogwyr dalu’r holl gostau cyflog a chysylltiedig ar gyfer prentisiaid.
Achrediadau
Mae'r cwrs yn ceisio achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestriad fel Peiriannydd Ymgorofforedig yn llawn a bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestriad fel Peiriannydd Siartredig yn rhannol.
Mae'r cwrs hefyd wedi'i gynllunio i fodloni gofynion Achrediad y Cyngor Peirianneg o Raglenni Addysg Uwch (AHEP) a Fframwaith Peirianneg Prentisiaethau Gradd Cymru.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ymholiadau academaidd am gynnwys y cwrs, cysylltwch â:

Dr Philip Anderson
Senior Lecturer - Teaching and Research
- andersonpi1@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5564
Sylwch na chyflwynir ceisiadau am y rhaglen hon trwy UCAS.