Ewch i’r prif gynnwys

Amdanon ni

Rydym yn ysgol peirianneg flaenllaw, ac yn cynnal ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ac addysg sy’n gosod myfyrwyr wrth wraidd y profiad dysgu hefyd.

Rydym yn meithrin amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i fyfyrwyr ac i staff, sy'n annog syniadau ac arloesedd.

Ymchwil

Rydym yn ymfalchïo yn ein diwylliant ymchwil bywiog ac mae gennym ddull eang iawn o ymgymryd ag ymchwil, gyda llawer o'n staff yn arwain prosiectau ymchwil ar raddfa fawr a gydnabyddir yn rhyngwladol gyda sefydliadau sy'n arwain y byd.

Mae ein Hysgol wedi'i threfnu'n dair adran gyda grwpiau ymchwil cysylltiedig. Mae'r strwythur hwn yn sicrhau ein bod yn cynnal cryfder ein harbenigrwydd disgyblu.

  • Peirianneg bensaernïol, sifil ac amgylcheddol
  • Peirianneg drydanol ac electronig
  • Peirianneg fecanyddol a meddygol

Addysgu

Mae ein rhaglenni gradd israddedig a'n rhaglenni gradd ôl-raddedig yn cyd-fynd yn agos â'r tair adran, gan adlewyrchu arbenigedd ein staff academaidd.

Mae ein safonau uchel a’n henw rhyngwladol yn golygu ein bod yn cefnogi tua:

  • 1,550 o fyfyrwyr israddedig
  • 200 o fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir
  • 200 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig

Gan weithio'n agos gyda diwydiant, mae ein rhaglenni israddedig yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Rydym yn un o’r nifer bach o ysgolion peirianneg a gafodd eu gwahodd i fod yn rhan o’r Academi Pŵer a’r Sefydliad Sgiliau Electronig, sy'n cynnig profiad diwydiannol, cyrsiau datblygiad proffesiynol ac ysgoloriaethau i’n myfyrwyr.

Athena SWAN

Fel cyflogwr, yr ydym wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth a chyfle cyfartal yn y gweithle. Ar hyn o bryd mae gennym Wobr Efydd Athena Swan am ein hymrwymiad i gefnogi merched ym maes peirianneg.

Ein nod yw darparu amgylchedd cefnogol, cyfeillgar ac ysgogol sy'n galluogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial, a hynny wrth gynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf sydd o fudd i'r gymuned leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Yr Athro Jianzhong Wu Professor