Ewch i’r prif gynnwys

Ein cyrsiau

Mae ein cyrsiau wedi'u hachredu'n llawn gan y sefydliadau peirianneg proffesiynol perthnasol ac maent yn cynnwys cyfleoedd i astudio dramor neu dreulio blwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.

Blwyddyn Sylfaen

Mae'r rhaglen sylfaen 12 mis hon wedi'i chynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i ymgymryd ag un o'n graddau israddedig.

Peirianneg Bensaernïol, Sifil ac Amgylcheddol

Peirianneg Bensaernïol

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o beirianneg sifil gan ganolbwyntio ar wasanaethau peirianneg strwythurol, dylunio pensaernïol ac adeiladu.

Peirianneg Sifil

Datblygwch eich gwybodaeth a'ch sgiliau ym maes dylunio a gweithio gyda'r amgylchedd adeiledig, yr amgylchedd naturiol a seilwaith yr amgylcheddau hyn.

Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol

Cael dealltwriaeth fanwl o beirianneg sifil gyda phwyslais ar gyfrifoldeb a rheolaeth amgylcheddol.

Peirianneg Drydanol ac Electronig a Pheirianneg Integredig

Peirianneg Drydanol ac Electronig

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddylunio systemau trydanol ac electronig bach a mawr yn ogystal â’r ffordd maen nhw’n cael eu defnyddio i brosesu a throsglwyddo pŵer a gwybodaeth.

Peirianneg Integredig

Datblygwch amrywiaeth o sgiliau i beiriannwr mewn diwydiant mwyfwy cydgysylltiedig, gan gwmpasu sawl agwedd ar beirianneg drydanol, electronig a mecanyddol.

Peirianneg Fecanyddol a Meddygol

Peirianneg Fecanyddol

Trowch ynni'n bŵer a chynnig a darganfod sut i ddylunio, adeiladu, a gweithredu ystod eang o ddyfeisiau, systemau a pheiriannau.

Peirianneg Feddygol

Cyfunwch beirianneg glasurol â chymhwysiad meddygol i esblygu'r datblygiadau arloesol sy'n gwella ein systemau iechyd a gofal iechyd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cyrsiau, anfonwch e-bost atom a bydd aelod o'n tîm yn dychwelyd atoch.

Swyddfa derbyn myfyrwyr yr Ysgol Peirianneg