Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Integredig

Mae peirianneg integredig yn rhoi cyfle i’r rheiny sydd â diddordeb mewn peirianneg, ond nad ydynt am arbenigo ar unwaith, astudio trosolwg cyn dewis cangen benodol o’r pwnc yn ddiweddarach.

Mae ein cyrsiau peirianneg integredig achrededig yn cyfuno peirianneg fecanyddol, drydanol ac electronig, a elwir hefyd yn mecatroneg.

Porwch drwy ein rhaglenni gradd peirianneg integredig.

Mae peirianneg integredig ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymysgedd o beirianneg drydanol a mecanyddol. Penderfynais wneud y cwrs hwn gan nad oeddwn yn gwybod pa ddisgyblaeth yr oeddwn am ganolbwyntio arno yn fy ngradd. Yn nes ymlaen yn y cwrs hwn, byddwch yn cael dewis y rhan fwyaf o'ch modiwlau fel y gallwch deilwra eich disgyblaeth at beth bynnag rydych chi'n teimlo yw eich cryfder.

Esyllt, Peirianneg Integredig gyda Blwyddyn mewn Diwydiant