Ewch i’r prif gynnwys

Okechukwu Livinus Obiegbu

Okechukwu Livinus Obiegbu

Ar ôl cwblhau fy ngradd baglor mewn Geoleg a Geoffiseg Archwilio ym Mhrifysgol Gwladwriaeth Ebonyi, Nigeria, penderfynais fynd ymlaen i gwblhau gradd meistr yn y Deyrnas Unedig.

Roedd yr amser a dreuliais yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn anhygoel ac fe wnes i fwynhau pob eiliad. Roeddem yn cael ein haddysgu gan ddarlithwyr academaidd heb eu hail, ac roeddent yn rhoi amser i sicrhau ein bod yn deall yr hyn a addysgwyd drwy ddarparu nifer o asesiadau cwrs ar y modiwlau. Roedd y dysgu'n rhyngweithiol ac yn ddiddorol iawn. Gwirfoddolais hefyd fel cynrychiolydd gweithredol ôl-raddedig yn undeb y myfyrwyr a chroesawais fyfyrwyr newydd o Nigeria yn Ffair Caerdydd.

Lleoliad proffesiynol

Yn rhan o ofynion fy ngradd, cefais leoliad 6 mis yn WesternGeco yn 2010, lle datblygais wahanol adnoddau modelu yn ARCGIS a MATLAB i gynhyrchu mapiau geomorffolegol ac fe wnes i gynnal prosesau synhwyro o bell a dadansoddi delweddau a data geomorffolegol integredig ar gyfer asesiad eang o beryglon peirianyddol sy'n gysylltiedig â materion dŵr, strwythurol ac amgylcheddol. Roedd rhan gyntaf y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i gyflawni hyn.

Ar ôl i mi raddio, deuthum yn ail ar gyfer y wobr Daearegydd Ifanc y Flwyddyn 2011 ar ôl rhoi cyflwyniad rhagorol o'm traethawd hir yng nghystadleuaeth Cymdeithas Ddaearegol De Cymru.

Fy ngyrfa ar ôl graddio

Gweithiais am gyfnod byr gyda Conduit a First Source rhwng mis Hydref 2010 a mis Chwefror 2013. Bu’r modiwl sgiliau trosglwyddadwy roeddwn wedi’i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn hanfodol yma o ran fy ngalluogi i addasu i amgylcheddau gwaith amrywiol. Ym mis Mai 2013, fe ddes i’n Ymgynghorydd Amgylcheddol gyda Sangdaf Nigeria Limited lle bûm yn paratoi cynlluniau rheoli amgylcheddol ar gyfer cyfleuster petrogemegol ac yn darparu atebion i ddileu problemau gwastraff amgylcheddol a threfol a chynnal astudiaethau cwmpasu amgylcheddol a llinell sylfaen ar gyfer cleientiaid.

Taith gyrfa

Ers 2014, rwyf wedi bod yn gweithio gyda DLK Oil & Gas Limited. Yma, fy rôl yw darparu dulliau technegol a gweinyddol o fynd i’r afael â materion dan sylw, cynllunio a datblygu modelau adfer, rheoli a goruchwylio'r gwaith o adfer priddoedd a dŵr daear halogedig hyd ddiwedd y broses honno, yn ogystal â pharatoi adroddiadau ac arwain ar weithrediadau maes. Rwyf hefyd yn Ymgynghorydd Geowyddonol (rhan-amser) gyda Leudrill Geoservices Ltd.

Yn gyn-fyfyriwr, rwy'n ceisio gwella'r profiad i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd drwy rannu fy mhrofiadau o fod yn fyfyriwr ac yn fyfyriwr graddedig. Yn ddi-os, rwy’n argymell y cwrs Daeareg Amgylcheddol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd.