Ewch i’r prif gynnwys

Nick Townsend

Nick Townsend

Ar ôl gadael y brifysgol yn gynnar ar ddechrau’r 1980au a minnau wedi fy swyno gan atyniad teithio a nifer o gyfnodau gwaith yn yr Alpau, dychwelais i fyd addysg uwch yn fyfyriwr aeddfed.

Ar ôl cwblhau fy ngradd, roeddwn yn awyddus i fod â rhywbeth gwahanol i’w gynnig o’i gymharu â’m cyd-raddedigion, ac yn awyddus hefyd i sicrhau nad oedd darpar gyflogwyr yn rhoi fy CV yn y bin heb feddwl ddwywaith. Fe wnaeth y cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol fy nenu gan ei fod yn cynnig y cyfle i adeiladu ar sylfeini fy ngradd gyntaf yn ogystal â lleoliad gwaith er mwyn ennill profiad hollbwysig yn y diwydiant.

Fe wnaeth cwblhau’r cwrs pan oedd fy nau fab yn ifanc fy helpu i ddatblygu sgiliau rheoli amser ac roedd yn golygu hefyd nad oedd arna i angen mwynhau agweddau eraill ar ffordd o fyw y brifysgol yr oedd myfyrwyr eraill yn ymwneud â hwy.

Argraffiadau ynghylch y cwrs

Mae'n anodd credu bod dros 20 mlynedd ers i mi raddio yng Nghaerdydd. Pethau sy’n aros yn y cof i mi ynghylch y cwrs yw: y prosiectau ymarferol; cyfeillgarwch fy nghyd-fyfyrwyr; cefnogaeth y staff a’u parodrwydd i egluro – fwy nag unwaith yn aml! Yn bwysicaf oll, ar ôl cwblhau'r cyfnod a addysgir, roedd gennyf yr offer a'r hyder i ymgymryd â'r lleoliad gwaith.

Prosiect proffesiynol

Ymunais â thîm Diwydrwydd Dyladwy WSP yn Swyddfa Llundain. Er nad dyna oedd fy uchelgais o ran gyrfa, rhoddodd y cyfle imi ddysgu’r sgil o ysgrifennu adroddiadau cryno a chywir. Mae hyn wedi aros gyda mi drwy gydol fy ngyrfa – gallaf deimlo fy hun bron yn hel atgofion am rwymo adroddiadau yn hwyr ar ddydd Gwener gyda negesydd yn aros amdanynt yn ddiamynedd (cyfnod cyn ebost a PDF!). Roeddwn yn dod yn fwyfwy pryderus ynghylch sut roeddwn i’n mynd i ysgrifennu traethawd hir ar bwnc yn ymwneud â diwydrwydd dyladwy, pan ofynnodd cyfaill oddi ar gwrs o’r gorffennol a oedd gennyf ddiddordeb mewn cynorthwyo’r ymchwiliad i xylene oedd yn gollwng mewn gwaith cemegol bach yn Barking; daeth hyn, yn y pen draw, yn bwnc ar gyfer fy nhraethawd hir. Yn digwydd bod, roedd WSP newydd ddechrau ym maes busnes Adfer ac roedd ganddynt ganolfan yng Nghaerdydd, a llwyddais i drosglwyddo i'r egin fusnes, a‘r safle ei hun oedd y prosiect adfer cyntaf.

Taith fy ngyrfa

Mae llawer o ddŵr (peth ohono’n halogedig) wedi mynd dan y bont yn yr 20 mlynedd diwethaf. Rwyf wedi symud ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cyswllt ac rwyf bellach yn goruchwylio’r gwaith o adfer hen safle storio olew, yn sicrhau bod y contractwr yn cydymffurfio â’r strategaeth y cytunwyd arni (a gynlluniwyd gan WSP ) ac yn bodloni amcanion y cleient. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle y rhoddodd y cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc) i mi – fy nghyngor doeth yw “Peidiwch byth â bod ofn gofyn y cwestiwn 'twp' hwnnw!”