Ewch i’r prif gynnwys

David Owen

David Owens

Rwyf bellach yn rheolwr contractau i gwmni peirianneg daearegdechnegol. Rwy’n rheoli prosiectau ymchwilio mawr trwy amryw dechnegau ac yn gwneud defnydd i’r eithaf o’r medrau a'r wybodaeth ges i yn sgîl cwrs gradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Arweiniodd fy ngradd BSc Daeareg a Rheoli Adnoddau Naturiol at rôl yn Ymddiriedolaeth Daeareg Swydd Gaerloyw, elusen ddaearegol. Gloucestershire RIGS Group oedd enw’r sefydliad ar y dechrau, ac aeth ymlaen i fod yn elusen gofrestredig sef Ymddiriedolaeth Ddaeareg Swydd Gaerloyw (GGT). Ar ôl bron i ddegawd gyda GGT, penderfynais fod angen i mi ehangu fy ngwybodaeth er mwyn symud ymlaen i yrfa tymor hwy gyda chwmni masnachol, gyda mwy o obaith o ddatblygiad yn fy ngyrfa.

Dychwelyd at addysg

Mynnodd y cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol fy sylw yn syth o achos yr amrywiaeth helaeth o bynciau, cyfleoedd i weithio yn y byd diwydiannol ac enw da Prifysgol Caerdydd yn gampws dros wyddorau’r ddaear. Roedd yn amlwg y gallai'r cwrs agor drysau i yrfa well, a dyna ddigwyddodd.

Gorffennais y cwrs dros dair blynedd wrth barhau i weithio gyda’r elusen – heb yr hyblygrwydd hwnnw a’r cyfle i barhau i weithio wrth astudio, fuasai hi ddim wedi bod yn bosib imi ymgymryd â’r cwrs.

Prosiect proffesiynol

Gan fy mod yn dal i weithio, roedd fy lleoliad astudio annibynnol yn gofyn i mi ddefnyddio’r wybodaeth oedd gennyf eisoes am safleoedd daearegol pwysig, ac yn gofyn i mi hefyd ymgorffori pynciau a gyflwynwyd i mi ar y cwrs meistr – yn fwyaf nodedig y modiwlau oedd yn seiliedig ar geodechnoleg. Cwblheais astudiaeth o sefydlogrwydd geodechnegol cyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a leolir yn Swydd Gaerloyw, gan asesu'r achosion posib dros dirlithriadau, a chynnal asesiad risg yn seiliedig ar y canfyddiadau.

Fy ngyrfa ar ôl graddio

Ar ôl cwblhau'r cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol, fe wnes i gais llwyddiannus am swydd Daearegwr Peirianneg yn Geotechnical Engineering Ltd (GEL), lle'r oedd sgiliau a gwybodaeth a gefais gan Brifysgol Caerdydd yn hynod werthfawr.

Yn beiriannydd maes, bûm yn gweithio ar nifer o brosiectau ymchwilio daear ledled y wlad, gan gynnwys ymchwiliadau geodechnegol a geo-amgylcheddol. Roedd fy ffocws blaenorol ar sefydlogrwydd llethrau yn berthnasol ar unwaith, gan mai arbenigedd GEL oedd defnyddio'r rig drilio dringo llethr P60 sydd wedi ennill gwobrau, gan eu defnyddio yn helaeth ar argloddiau ffyrdd a rheilffyrdd, argaeau cronfeydd dŵr a llethrau naturiol.

Rwyf bellach yn rheolwr contractau i gwmni peirianneg daearegdechnegol. Rwy’n rheoli prosiectau ymchwilio mawr trwy amryw dechnegau ac yn gwneud defnydd i’r eithaf o’r medrau a'r wybodaeth ges i yn sgîl cwrs gradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd.