Ewch i’r prif gynnwys

Hollie Taylor

Hollie Taylor

Roedd yr MSc yn hynod o ddiddorol ac er ei fod yn heriol ar adegau, roeddwn i bob amser yn teimlo bod darlithwyr a staff y brifysgol yn fy nghefnogi. Galluogodd y cwrs fi i gamu at ble'r wyf i heddiw, a byddaf i'n fythol ddiolchgar am fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn dilyn fy ngradd israddedig, treuliais amser yn teithio ac yn gweithio yn Awstralia a Seland Newydd cyn astudio'r cwrs Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc) yn 2018.

Roedd y cwrs yn cynnig cyfleoedd i weithio fel tîm drwy lawer o aseiniadau ac elfennau gwaith cwrs, oedd yn gadael i ni dynnu ar wybodaeth a chryfderau ein gilydd, ac roedd yn dangos i ni sut beth yw cydweithio ar syniadau yn y byd gwaith. Roedd y teithiau maes rheolaidd yn fy helpu i ddeall y cwrs gan fy mod yn gallu dychmygu'r arferion a'r gweithdrefnau a addysgwyd yn y darlithoedd mewn astudiaethau achos go iawn.

Gwaith prosiect

Drwy gydol y cyfnod ar leoliad gwaith bûm i'n gweithio fel Peiriannydd Amgylcheddol Graddedig yn Sanctus Limited, contractwr adfer a'r amgylchedd yng Nghaerloyw. Yn ffodus, dechreuais ar fy lleoliad ar yr un pryd ag y dyfarnwyd prosiect ymchwil ac adfer tir i'r cwmni. Roedd yn gyfle i fi arsylwi'r prosesau'n gysylltiedig â dechrau prosiect.

Roedd fy ngwaith ar y prosiect yn cynnwys paratoi'r astudiaeth ddesg a lluniais fodel safle cysyniadol cychwynnol, a arweiniodd at y cynigion ar gyfer ymchwilio'r tir. Yna cefais gyfle i fynychu'r safle a chynorthwyo gyda’r gwaith ymchwilio a monitro tir ar y prosiect. Helpodd hyn i ehangu fy ngwybodaeth am y safle a fy nealltwriaeth o dechnolegau a sut y caiff data ei gaffael, ei ddadansoddi ac yna ei ddehongli mewn strategaeth adfer.

Yn dilyn y lleoliad gwaith chwe mis, cefais fy nghyflogi'n barhaol fel Peiriannydd Amgylcheddol. Cefais deithio o gwmpas y DU ar amrywiol brosiectau adfer gan weithio ar ymchwiliadau tir, samplu pridd halogedig, dosbarthu gwastraff ac asesiadau risg iechyd dynol. Tua diwedd fy nghyfnod yn Sanctus, dechreuais fentro i ochr fasnachol contractio ac ymwneud â phrosesau tendro a phrisio'r busnes.

Cyfleoedd newydd

Ym mis Ionawr 2022, mentrais groesi i waith ymgynghori, a dechrau gweithio yn Amey fel Ymgynghorydd Geo-Amgylcheddol Cynorthwyol. Yn ystod fy nghyfnod byr gydag Amey, rwyf i eisoes wedi ehangu fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o safonau, rheoliadau a chanllawiau technegol, a sut y dylid eu hymgorffori mewn adroddiadau ymgynghori i sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio.

Rwyf i'n gweithio gyda'r tîm geo-amgylcheddol sy'n cynnig cyngor a chymorth i brosiectau seilwaith sifil mawr ledled y wlad sydd â'r potensial i ddod ar draws tir halogedig, a sicrhau bod y priddoedd, dŵr daear a nwy daear yn cael eu rheoli'n effeithiol i wneud yn siŵr fod y prosiect yn cael ei gynnal mewn modd sy'n cydymffurfio ac yn gynaliadwy.

Wrth fyfyrio ar fy nghyfnod mewn diwydiant, rwy'n gwybod na fyddwn i fyth wedi cyrraedd lle'r ydw i heb gwblhau Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol (MSc), yn enwedig y lleoliad gwaith.