Cyrsiau
Mae ein graddau poblogaidd, sydd wedi'u hachredu, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad addysgu sy'n cael ei arwain gan ymchwil, a hynny ar draws amrywiol ddisgyblaethau Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr.
Gweithiwch mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac ysbrydoledig gyda'n staff cyfeillgar sy'n arbenigwyr yn eu meysydd gydag awch am ddysgu.
Mae ein cyfleusterau gwych ar gael i gefnogi eich astudiaeth, sy'n cynnwys labordai TG, technoleg flaengar a'n llong hymchwil ein hunain.

Roedd cael blwyddyn ar gyfer gwaith maes a diwydiant yn fy nghwrs yn apelio'n fawr i fi. Treuliais amser yn gweithio gyda'r Wildlife Trust yn ymgyrchu ac yn addysgu'r cyhoedd am faterion morol. Fe wnes i gynnal arolygon rhynglanwol ar Ynysoedd Sili. Rwyf bellach yn cynghori'r llywodraeth ar ei rhwymedigaethau morol i greu a rheoli Ardaloedd Gwarchoedig Morol yn nyfroedd alltraeth y DU.
Mae strwythur modiwlaidd ein cyrsiau yn cynnig amrywiaeth gyffrous o raglenni gradd ar draws y geowyddorau modern.