Ewch i’r prif gynnwys

Ian Leek

Ian Leek

Dechreuais fy ngradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Hydref 1990 ar ôl graddio yno yn 1985. Ar y pryd roeddwn i'n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil, yn delio gyda Chyfraith Cwmnïau ond yn dymuno datblygu gyrfa fel daearegwr.

Yn 1990 roedd Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd yn mynd ati i ymestyn eu hystod o gyrsiau i fod yn fwy seiliedig ar ddiwydiant. Roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn un o'r myfyrwyr llawn amser cyntaf i fynychu'r flwyddyn honno. Ar y pryd, enw'r cwrs hwn oedd MSc Daeareg Peirianneg, ond datblygodd yn ddiweddarach i ffurfio'r MSc presennol mewn Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol.

Er nad oeddwn wedi bod yn y byd academaidd ers pum mlynedd, mwynheais y cwrs yn fawr gyda'r amrywiaeth eang o bynciau a drafodwyd. Roedd yr addysgu a ddarparwyd yn y darlithoedd ac agweddau ymarferol y cwrs yn rhagorol. Mae elfennau o'r cwrs wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod fy ngyrfa, ac rwy'n dal i ddefnyddio'r sgiliau a ddysgais yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfa ar ôl graddio

Cwblheais fy ngradd meistr ym mis Medi 1991 a chefais waith yn gyflym fel Daearegwr Peirianneg gyda Thyssen Geotechnical yn Llanelli. Fy rôl gyntaf oedd peiriannydd safle yn cefnogi asiantau safle ar brosiectau mawr. Roedd hyn yn cynnwys cofnodi creigiau a phridd a chynhyrchu logiau peirianwyr o fewn cyfnodau contract penodol, yn ogystal â gwirio'r holl griwiau/rigiau drilio yn barhaus i sicrhau bod ganddynt yr holl ddeunyddiau perthnasol angenrheidiol i gwblhau eu gwaith.

Ymhen ychydig flynyddoedd roedd fy ngwybodaeth a'm profiad o redeg contractau peirianneg tir yn unol ag amodau contract a manylebau amrywiol wedi cynyddu'n sylweddol. Yna fe ddes i'n Asiant Safle yn rhedeg cynlluniau mawr fel gosod tyllau turio monitro dŵr daear ar gyfer prosiectau Afon Wysg a Morglawdd Bae Caerdydd.

Mantais dechrau fy ngyrfa gyda chontractwr geodechnegol oedd gweithio ar nifer o brosiectau proffil uchel werth miliynau o bunnoedd ledled y DU, gan gynnwys Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (WWTW) Cog Moors, WWTW Stoke Bardolph, Prosiect Twnnel Carthffosiaeth Newark, Llosgydd Gwastraff Tysley, uwchraddio ffordd yr A485 rhwng Glangwili ac Alltwalis, a Thirlithriad Gorllewin Blaenau. Yn ystod fy ngradd meistr roeddwn i wedi ymdrin â nifer o ddulliau ymchwilio, ond galluogodd y prosiectau gyda Thyssen Geotechnical fi i brofi agweddau ymarferol ar dechnegau ymchwilio daear.

Symud ymlaen

Ar ôl 5 mlynedd roeddwn i'n teimlo bod gennyf ddigon o brofiad fel contractwr a dechreuais weithio mewn rôl daearegwr peirianneg/tir halogedig ymgynghorol gyda Wallace Evans, sef Hyder Consulting yn ddiweddarach. Roedd hyn yn fy ngalluogi i ystyried agweddau mwy technegol ar y prosiectau roeddwn i'n gweithio arnynt, oedd yn cynnwys adrodd deongliadol a dylunio geodechnegol manwl, gan roi mwy o reolaeth i mi drostynt. I ddechrau roeddwn i'n cael fy nefnyddio fel Peiriannydd Preswyl ar nifer o Ymchwiliadau Tir yn costio dros £500,000 yr un, oedd yn swm sylweddol o arian yn y 1990au. Tua'r adeg hon roedd Wallace Evans/Hyder Consulting yn ymwneud â rhai o'r cynlluniau mwyaf yng Nghymru gan gynnwys twnelu o dan ardal Drefol Casnewydd a Gwastadeddau Gwynllŵg/De Caerdydd, gollyngfa fôr 3km o hyd i Fôr Hafren a chynlluniau gostwng Dŵr Daear fel rhan o Fil Morglawdd Bae Caerdydd. Roeddwn i wrth fy modd cael bod yn rhan o bob cam o'r prosiectau hyn o'r cysyniad drwy'r cam ymchwil tir, y dylunio manwl ac yna'r adeiladu.

Wrth i'r prosiectau gael eu cwblhau gyda maint y gwaith geodechnegol arnynt yn lleihau, penderfynais symud i ymgynghoriaeth lai oedd yn ymwneud â dylunio a monitro priffyrdd a gwaith seilwaith. Ymunais â Gwent Consultancy yn 2000. Roedd fy rôl fel Uwch Beiriannydd Geodechnegol yn Gwent Consultancy yn cynnwys rhedeg prosiectau yn dechnegol a mentora aelodau iau fel staff safle.

Ymhlith y cynlluniau mawr y dechreuais ymwneud â nhw oedd prosiect Rheilffordd Cwm Ebwy, Ffordd Osgoi Bargod, gwelliannau Ffordd Maesycwmwr i Ystrad Mynach, Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd, Safle Tirlenwi Docksway, rhodfa Pen Penarth a thirlithriadau amrywiol. Yn 2012 trosglwyddwyd staff o Gwent Consultancy i Capita Real Estate and Infrastructure a chefais fy nyrchafu’n Arweinydd y Tîm Geodechnegol yn Swyddfa Caerdydd. Er fy mod yn dal i wneud gwaith technegol, mae'r dyrchafiad yn golygu fy mod yn ymgymryd â mwy a mwy o waith rheoli prosiectau/ariannol a staff.

Drwy fod yn rhan o ymgynghoriaeth fawr ryngwladol, rwyf i wedi mwynhau gweithio ar amrywiaeth o brosiectau. Mae llawer o'r rhain yn gynlluniau uchel eu proffil fel gwaith diweddar yn cynnwys ymchwiliadau, asesiadau sefydlogrwydd a monitro nifer o domenni rwbel glofeydd yng Nghymoedd y Rhondda.  Ar hyn o bryd rwy'n rheoli wyth aelod o staff yn gweithio ar amrywiol brosiectau ar draws y DU ac rwy'n aelod o grŵp uwch reolwyr Peirianneg Tir ac Amgylcheddol Capita UK.

Rhoi yn ôl

Yn ystod fy ngyrfa rwyf i bob amser wedi ceisio rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned geodechnegol leol. Rwyf wedi bod yn aelod o bwyllgor Grŵp Peirianneg Tir ICE Cymru am ddau gyfnod gwahanol ac roeddwn yn Llysgennad STEM am dros 10 mlynedd.

Rwy'n credu'n gryf na fyddai'r cyfleoedd a'r amrywiaeth o waith rwyf i wedi'i gyflawni dros y 30 mlynedd diwethaf wedi bod yn bosibl heb y sgiliau a ddysgais yn ystod fy nghyfnod ar y radd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd.