Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith maes yn Cyprus

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cyprus yw cartref y darn byd-enwog o lawr y môr folcanig sef offiolit Troodos, Parc Geo Byd-eang UNESCO.

Yn y cwrs maes dewisol hwn, bydd ein myfyrwyr geowyddorau yn y drydedd flwyddyn yn datgelu ffurfiad a dinistriad y Môr Tethys sydd bellach wedi diflannu drwy astudio'r offiolit Troodos enwog, sy'n Barc Geo Byd-eang UNESCO.

Drwy ddwyn ynghyd a defnyddio sgiliau o bob disgyblaeth, bydd ein myfyrwyr geowyddorau yn dysgu sut (a pham) mae'r crib morol sy'n 90 miliwn mlwydd oed wedi codi o waelod y môr ac wedi trawsffurfio i fod yn ynys a chadwyn mynyddoedd 2000m o uchder. Mae'r gadwyn fynyddoedd yn dal i fod yn un o'r lleoedd sy'n codi gyflymaf ar y Ddaear, ac mae ynghlwm wrth llawer o beryglon daearegol.

Bydd y daith maes hon yn galluogi myfyrwyr i archwilio, ecsbloetio a rheoli'n amgylcheddol y dyddodion mwynau ar lawr môr Tethys, sydd wedi bod yn strategol bwysig i'r ynys ers milenia.