Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Prifysgol Caerdydd Telerau ac Amodau Cynnig

Gwneir unrhyw gynnig am le i astudio yn y Brifysgol i chi ar y sail eich bod, wrth dderbyn cynnig o’r fath, yn cytuno i’r telerau a’r amodau canlynol. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn ffurfio rhan o’r cytundeb rhyngoch chi a’r Brifysgol.

Eich cynnig

1. Dim ond trwy fodloni union delerau’r cynnig, oni bai bod y Brifysgol wedi eich hysbysu fel arall mewn gohebiaeth swyddogol, y gwarentir eich lle i chi.

2. Os ydych wedi derbyn eich lle naill ai fel dewis cadarn neu ddewis yswiriant pan gewch eich canlyniadau, ond nid ydych wedi bodloni union amodau eich cynnig, mae gan y Brifysgol yr hawl i gynnig lle i chi ar raglen arall. Os cynigir lle i chi ar raglen arall, nid oes rheidrwydd arnoch i'w dderbyn. Os ydych yn fyfyriwr israddedig a'ch bod yn dewis peidio â derbyn y dewis arall, byddwch yn mynd ymlaen i'ch dewis yswiriant neu i system glirio UCAS fel y bo'n briodol.

3. Bydd y Brifysgol yn rhoi terfynau amser clir ar gyfer rhoi gwybodaeth/bodloni amodau eich cynnig. Caiff eich cynnig lle ei dynnu’n ôl os byddwch yn methu â chadw at y terfynau amser hyn.

4. Ni ellir gwarantu y caiff ceisiadau i newid rhaglen/cwrs astudio yn ystod y broses ymgeisio neu ar ôl cyrraedd y Brifysgol eu derbyn, gan eu bod yn dibynnu ar beth sydd ar gael ac ar fodloni gofynion mynediad y rhaglen benodol honno.

5. Os bodlonir telerau eich cynnig a'ch bod yn dewis cofrestru ar eich rhaglen astudio ddewisol, bydd angen i chi ailgadarnhau cytundeb â'r telerau ac amodau cofrestru, a dderbyniwyd gennych pan wnaethoch dderbyn y cynnig o le yn y Brifysgol.

Talu ffioedd

6. Mae'r Brifysgol yn pennu statws myfyriwr at ddibenion talu ffioedd yn unol â Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 ac Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol, Polisi Ffioedd Dysgu'r Brifysgol ac Egwyddorion Arweiniol y Brifysgol ar Asesu Ffioedd. Mae rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau a’r Egwyddorion Arweiniol ar gael ar y dudalen Statws Ffioedd.

7. Efallai y bydd eich ffioedd yn cynyddu, fel y nodir yn "Adran adolygiad blynyddol o ffioedd" y Polisi Ffioedd Dysgu.

8. Os oes angen taliad blaendal i sicrhau eich lle ar y rhaglen, bydd hyn yn cael ei amlinellu yn y llythyr cynnig gan y Brifysgol. Mae'r holl adneuon yn ddarostyngedig i gyfraith gwrth-wyngalchu arian yn y DU ac maent yn destun cyfnod ailfeddwl 14 diwrnod. Ar ôl y cyfnod ailfeddwl 14 diwrnod, ni ellir ad-dalu pob blaendal oni bai eu bod yn bodloni telerau polisi ad-dalu blaendal Prifysgol Caerdydd.

9. Lle mae ffioedd yn ddyledus, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud trefniadau ar ddechrau’r rhaglen i dalu eich ffioedd.

10. Bydd y Brifysgol yn eich anfonebu am y swm llawn neu’r rhan sy’n weddill o’ch ffioedd ar gyfer bob blwyddyn eich rhaglen (gan gynnwys blynyddoedd ail-adrodd), oni bai bod gennych (am bob blwyddyn o’ch rhaglen) y canlynol:

  • cymorth ariannol drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu SAAS; neu
  • llythyr swyddogol oddi wrth gyflogwr neu noddwr yn dangos eu bod yn gyfrifol am dalu eich ffioedd llawn neu ran o’ch ffioedd; neu
  • eich bod wedi gwneud cais ac wedi cael gostyngiad neu leihad yn eich ffioedd.

11. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau, lle bo’n briodol, fod copi o’r dogfennau ariannu priodol fel y cyfeiriwyd atynt uchod yn cael ei gyflwyno i’r Swyddfa Ffioedd Dysgu erbyn y dyddiad gofynnol.

12. Os ydych yn cofrestru ar sail y byddwch yn gwneud cais am ostyngiad ffioedd dysgu (llawn neu ran amser), bwrsariaeth neu unrhyw ffynhonnell ariannu arall gan y Brifysgol, bydd disgwyl i chi dalu’r swm llawn os na chaiff y cais ei gymeradwyo.

13. Os ydych yn hunan-ariannu ac yn gorfod talu eich ffioedd eich hun, gallwch dalu mewn nifer o ffyrdd fel y nodir ym mholisi ffioeddy Brifysgol.

14. Yn unol â GDPR, mae gennym yr hawl i rannu'ch manylion gydag asiantaeth adennill dyledion trydydd parti ar sail sail Buddiant Cyfreithlon. Yn yr ystyr bod gennym fuddiant busnes cyfreithlon i arfer yr hawl hon ar y sail nad ydych wedi cyflawni eich rhwymedigaeth i'r Brifysgol. Yn ogystal, mae gennym hefyd yr hawl i rannu eich manylion gydag asiantaeth adennill dyledion trydydd parti ar sail ein Contract. Mae eich Telerau Cofrestru yn nodi y byddwn yn rhannu eich manylion gyda'n asiantaeth adennill dyledion a ddewiswyd os na fydd yn talu. Rydych yn derbyn y telerau hyn fel rhan o'ch cofrestriad ar y cwrs. Mae'r asiantaeth casglu dyledion yn cael eu rheoleiddio FCA (Awdurdod Ymddygiad Ariannol) ac yn mynd yn unol â chanllawiau llym, maent hefyd yn cael eu cynnal trwy'r CSA (Cymdeithas Gwasanaethau Credyd) felly, mae data'r cleient wedi'i ddiogelu'n llwyr, ac mae eu porth ar-lein wedi'i amgryptio'n llawn, mae hyn yn sicrhau bod data'r cleient yn ddiogel ac yn unol â'r holl ganllawiau GDPR a llywodraethu gwybodaeth.

Cywirdeb gwybodaeth

15. By accepting the offer of a place to study at the University you confirm and declare that the information provided by you or on your behalf in support of your admission to and enrolment with the University is accurate and complete to the best of your knowledge. The University reserves the right to request original hard copy documentation related to your application at any time.

16. In the light of additional information, which was not available at the time of selection, an offer may be amended or, in exceptional circumstances, withdrawn. The University also reserves the right to correct errors where they have been made in the communication of decisions and offers.

17. Gallai darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol wneud eich derbyniad a'ch cofrestriad yn annilys a bydd yn rhoi'r hawl i'r Brifysgol derfynu ei chontract gyda chi yn unol â’r Polisïau Derbyn a, lle bo'n berthnasol, gweithdrefn Addasrwydd Ymgeisydd i Ymarfer. Os gwneir penderfyniad o'r fath, mae gennych hawl i apelio yn ei erbyn yn unol â Pholisi Cwynion ac Apeliadau i Ymgeiswyr y Brifysgol. Efallai y byddwn hefyd yn gwrthod ystyried unrhyw geisiadau gennych yn y dyfodol.

Ymddygiad ymgeiswyr

18. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal ar sail gwerthoedd urddas, cwrteisi ac ystyriaeth yn ogystal â'n cyfrifoldebau cyfreithiol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym ni'n ceisio darparu amgylchedd a diwylliant gwaith, dysgu ac ymchwil sy'n rhydd o wahaniaethu anghyfreithiol, sy'n cefnogi amrywiaeth ac sy'n creu cymuned agored a chynhwysol.

19. All students and staff of the University are required to adhere to the University’s Equality and Diversity Policy and our Dignity at Work and Study Policy.  If, during any visit to the University or whilst making representation of the University (such as but not exclusive to attending an interview, audition/workshop, or visit to the University), you display behaviour/s that is in contravention of these Policies, we reserve the right to make your admission and enrolment invalid and this will entitle the University to terminate its contract.

Rhaid i holl staff a myfyrwyr y Brifysgol gadw at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Brifysgol a'n Polisi Urddas yn y Gweithle ac Astudio. Yn ystod unrhyw ymweliad â’r Brifysgol neu wrth gyflwyno eich hun i’r Brifysgol (e.e. yn ystod cyfweliad, clyweliad/gweithdy neu ymweliad â’r Brifysgol, ymhlith enghreifftiau eraill), os byddwch yn dangos ymddygiad sy'n mynd yn groes i'r Polisïau hyn, rydym yn cadw'r hawl i’ch atal rhag dod i’r Brifysgol a chofrestru yma, a bydd hawl gan y Brifysgol i ddod â’i chontract i ben.

Cyfathrebu â’r Brifysgol ac o’r Brifysgol

20. Pan fyddwch yn cofrestru, byddwch yn cael cyfrif ebost Prifysgol. Anfonir pob gohebiaeth ebost gan y Brifysgol i’r cyfrif hwnnw a disgwylir i chi ddefnyddio’r cyfrif hwnnw wrth gyfathrebu â’r Brifysgol bob tro. Mae disgwyl i chi wirio eich cyfrif ebost Prifysgol yn rheolaidd ac o leiaf unwaith bob wythnos.

21. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad y Gymraeg ac mae'n annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar y gwasanaethau y mae ganddynt yr hawl i'w derbyn. Rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych ohebu â ni yn Gymraeg. Ceir rhagor o fanylion am ein cyfrifoldebau dan Safonau'r Gymraeg ar ein gwefan.

Rheoliadau'r Brifysgol

22. Trwy dderbyn y cynnig am le yn y Brifysgol rydych yn cytuno i gydymffurfio â darpariaethau'r Siarter, Statudau, Deddfiadau a Rheoliadau a rheolau a rheoliadau eraill o’r fath y mae’r Brifysgol yn ei wneud i’w fyfyrwyr o bryd i’w gilydd (“y Rheoliadau”).

23. Mae darpariaethau allweddol y Rheoliadau a’r polisïau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt yn cynnwys y canlynol:

23.a. Disgwyliadau'r Brifysgol o ran presenoldeb myfyrwyr a chynnydd academaidd, fel y nodir o dan y Rheoliad Astudio ac Ymgysylltu â Myfyrwyr sydd i'w gweld yn y Llawlyfr Rheoliadau Academaidd. Os ydych yn methu â bodloni'r disgwyliadau hyn gallai olygu na chaniateir i chi symud ymlaen ar eich cwrs.

23.b. Mae rheolau'r Brifysgol ynghylch ymddygiad myfyrwyr, camymddygiad academaidd a thwyllo, gan gynnwys llên-ladrad, y prosesau mae'r Brifysgol yn eu defnyddio ar gyfer canfod llên-ladrad (e.e. meddalwedd Turnitin) ac ymddygiad mewn arholiadau i'w gweld yn y Llawlyfr Rheoliadau Academaidd. Gall torri'r rheolau hyn arwain at broses ddisgyblu a gosod cosbau academaidd a/neu ddiarddel yn unol â Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd. Bydd y weithdrefn hon ar gael i chi ar ôl cofrestru.

23.c. Rheolau'r Brifysgol ynghylch talu arian sy'n ddyledus i'r Brifysgol, sydd i'w gweld yn y Polisi Ffioedd Dysgu. Os nad ydych yn talu arian sy'n ddyledus i'r Brifysgol, mae’r Brifysgol yn cadw'r hawl i dynnu ei gwasanaethau a/neu eich hawl i ddefnyddio'r cyfleusterau yn ôl lle mae'n angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny. Wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, bydd y Brifysgol yn ystyried holl amgylchiadau eich achos.

23.d. Disgwyliadau'r Brifysgol o ran ymddygiad myfyrwyr, fel y nodir yn y Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr. Gallai torri'r rheolau hyn arwain at ymchwiliad mewnol annibynnol a sancsiynau, a allai gynnwys cael eich diarddel o'r brifysgol.

23.e. Polisi Ymyrraeth Cymorth Astudio'r Brifysgol disgrifio'r camau y gall y Brifysgol eu cymryd os oes pryderon ameich iechyd a'ch lles sy'n arwain at gwestiynau am eich ffitrwydd a'ch addasrwydd i barhau i astudio.

23.f. Rheolau’r Brifysgol parthed addasrwydd i ymarfer, fel y nodir yng Ngweithdrefn Addasrwydd Myfyrwyr i Ymarfer, sy’n berthnasol i fyfyrwyr ar gyrsiau proffesiynol sy’n cael eu rheoleiddio sy’n arwain at neu’n bodloni amodau cymhwyster proffesiynol neu’n rhoi trwydded I ymarfer mewn proffesiwn penodol. Gallai methu ag arsylwi’r gofynion hyn gwestiynu addasrwydd myfyriwr i ymarfer ac arwain at ymchwiliad a gosod sancsiynau, gan gynnwys diarddel o’r Brifysgol.

23.g. Y gofyniad bod ymgeiswyr i gyrsiau proffesiynol yn cael gwiriad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (wedi’i drefnu gan y Brifysgol) cyn y gallan nhw gofrestru ar y rhaglenni hyn, neu, mewn rhai achosion, gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith, a’r gofynion statudol o ran diarddel drwy gydgysylltiad. Gan ddibynnu ar ganlyniad y gwiriadau hyn, mae'n bosibl na fyddwch yn gymwys i gofrestru ar y rhaglenni hyn.

23.h. Y rhwymedigaeth i hysbysu'r Brifysgol ar unwaith os oes gennych neu os ydych yn derbyn unrhyw euogfarnau troseddol heb eu disbyddu ar gyfer troseddau perthnasol ar unrhyw adeg o dderbyn y cynnig hyd nes y cwblheir eich rhaglen neu os bydd eich amgylchiadau mewn perthynas ag (f) a/neu (g) yn newid. Rhaid i fyfyrwyr ar gyrsiau a reoleiddir yn broffesiynol hefyd ddatgan euogfarnau troseddol.

23.i. Mae polisi'r Brifysgol ar ymdrin â gordanysgrifio i'r rhaglenni hynny lle mae nifer y myfyrwyr y caniateir iddi eu cymryd bob blwyddyn yn cael ei bennu gan y llywodraeth neu gorff ffibrog, proffesiynol, statudol neu reoleiddiol allanol, yn enwedig lle mae nifer yr ymgeiswyr sy'n bodloni amodau gwneud cais am le ar raglen o'r fath yn fwy na'r nifer uchaf o leoedd a gomisiynwyd,  sydd wedi'i nodi yn y polisïau gordanysgrifio a geir ar dudalen we polisïau derbyniadau.

23.j. Rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol sy'n gyfrifol am ohirio astudiaethau, fel y nodir yn y weithdrefn Gohirio Astudiaethau.

23.k. Côd Ymarfer Gonestrwydd Gwaith Ymchwil a'i Lywodraethu, sy'n nodi gofynion moesegol ar gyfer prosiectau ymchwil ac a allai arwain at gamau disgyblu os cânt eu torri.

23.l. Lle mae'r myfyriwr yn ymgysylltu â phartner proffesiynol neu ddiwydiannol (“darparwr lleoliad”) ac y llunnir contract rhwng y tri pharti, rhaid i chi gydymffurfio â gofynion a rheolau’r Brifysgol a’r darparwr lleoliad. Gallai torri'r rheolau hyn arwain at broses ddisgyblu a gosod sancsiynau, a allai gynnwys diarddel o'r brifysgol.

Changes to University Regulations

24. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ychwanegu, dileu neu wneud newidiadau rhesymol i’r Rheoliadau lle, ym marn y Brifysgol, bydd hyn yn ei chynorthwyo i ddarparu addysg briodol. Fel arfer gwneir newidiadau am un neu fwy o'r rhesymau canlynol:

24.a. I adolygu a diweddaru’r Rheoliadau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben;

24.b. I adlewyrchu newidiadau yn yr amgylchedd allanol, gan gynnwys newidiadau cyfreithiol neu reoliadol, newidiadau i drefniadau ariannu neu ariannol neu newidiadau i bolisi, gofynion neu ganllawiau llywodraeth;

24.c. I ymgorffori canllawiau'r sector neu arfer gorau;

24.d. I ymgorffori adborth gan fyfyrwyr; a/neu

24.e. I helpu eglurder neu gysondeb dull.

25. Bydd y Brifysgol yn ymgynghori â Swyddogion Etholedig Undeb y Myfyrwyr cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r Rheoliadau.

26. Fel arfer, bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf, er y gellir cyflwyno newid yn ystod y flwyddyn academaidd lle mae’r Brifysgol yn rhesymol yn ystyried fod hyn er budd myfyrwyr neu lle mae hyn yn ofynnol gan y gyfraith neu amgylchiadau eithriadol eraill. Bydd y Brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i darfu cyn lleied â phosibl ar fyfyrwyr lle bo hynny'n rhesymol bosibl, er enghraifft, drwy roi hysbysiad rhesymol o'r newidiadau i'r Rheoliadau cyn iddynt ddod i rym, neu drwy gyflwyno’r newidiadau yn raddol, os yn briodol.

27. Bydd y Rheoliadau wedi’u diweddaru ar gael ar wefan y Brifysgol, a gallant gael eu cyhoeddi mewn ffyrdd eraill fel bod myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.

Amrywiad i raglenni neu wasanaethau/cyfleusterau eraill

28. Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gyflwyno rhaglenni a chyfleoedd ymchwil sy'n arwain at ei dyfarniadau a gwasanaethau a chyfleusterau addysgol cysylltiedig eraill, fel y disgrifir yn y wybodaeth berthnasol a gyhoeddwyd gan y Brifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd y byddwch yn dechrau'r cwrs ynddi.

29. Bydd gan y Brifysgol hawl i wneud newidiadau rhesymol i'w rhaglenni lle bydd hynny'n galluogi'r Brifysgol i gyflwyno rhaglen gyfatebol neu brofiad addysgol o ansawdd gwell i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen. Gallai enghreifftiau o newidiadau o'r fath gynnwys:

29.1.a. cynnwys a maes llafur y rhaglen lle mae datblygiadau yn y maes pwnc yn gwneud hynny'n angenrheidiol;

29.1.b. amserlen, lleoliad y rhaglen a nifer y dosbarthiadau;

29.1.c. y dull o gyflwyno’r rhaglen, y gwasanaethau a'r cyfleusterau;

29.1.d. strwythur a/neu amseru’r flwyddyn academaidd; a

29.1.e. y trefniadau ar gyfer y broses arholi ac asesu a'r dulliau o'i dilyn.

Mae enghreifftiau o amgylchiadau lle gallai fod angen i'r Brifysgol wneud newidiadau o'r fath yn cynnwys:

29.2.a. lle mae staff allweddol wedi cymryd absenoldeb estynedig neu wedi gadael y Brifysgol;

29.2.b. lle nad yw'r cwrs neu'r modiwl perthnasol yn hyfyw yn ariannol mwyach;

29.2.c. yn dilyn newidiadau i'r cyllid y mae'r Brifysgol yn ei dderbyn;

29.2.d. lle bydd y newidiadau'n galluogi'r Brifysgol i gynnig profiad addysgol o ansawdd gwell i fyfyrwyr ar y cwrs; ac

29.2.e. ailstrwythuro'r cwrs i wella profiad myfyrwyr y Brifysgol a’i heffeithlonrwydd.

30. Mewn achosion o'r fath, dim ond y newidiadau sydd wir angen eu gwneud er mwyn sicrhau ansawdd gofynnol profiad y myfyrwyr y bydd y Brifysgol yn eu gwneud. Bydd y Brifysgol hefyd yn hysbysu ac yn ymgynghori â'r myfyrwyr yr effeithir arnynt ymlaen llawynghylch unrhyw newidiadau angenrheidiol.

31. Weithiau mae amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol na ellid bod wedi'u hatal hyd yn oed pe bai'r Brifysgol wedi cymryd gofal rhesymol ("Digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth") yn golygu bod y Brifysgol yn cael ei hatal rhag darparu neu ei rhwystro rhag darparu, neu fel arall ni all gyflwyno’r rhaglenni a/neu gyfleoedd ymchwil sy'n arwain at ei dyfarniadau a gwasanaethau a chyfleusterau addysgol cysylltiedig eraill fel y disgrifir. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

31.a. gweithredoedd Duw, llifogydd, daeargryn, storm wynt neu drychineb naturiol arall;

31.b. pandemigau, epidemigau clefydau heintus a bygythiadau eraill i iechyd y cyhoedd;

31.c. tân, ffrwydrad neu ddifrod damweiniol;

31.d. terfysgaeth;

31.e. aflonyddwch gwleidyddol neu sifil;

31.f. strwythurau adeiladau’n dymchwel, peiriannau, cyfrifiaduron neu gerbydau yn methu;

31.g. difrod, torri ar draws neu ddiffyg mynediad i adeiladau, cyfleusterau neu offer;

31.h. anghydfod gweithwyr, gan gynnwys streiciau a gweithredu diwydiannol neu weithredu arall;

31.i. toriad neu fethiant mewn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i bŵer trydan, nwy neu ddŵr;

31.j. gweithredoedd, ordinhadau, deddfwriaeth, rheoliadau neu gyfyngiadau unrhyw lywodraeth;

31.k. absenoldeb annisgwyl neu ymadawiad aelod allweddol o staff;

31.l. lle mae'r niferoedd sydd wedi'u recriwtio ar gyfer rhaglen a/neu fodiwl mor isel, nid yw'n bosibl darparu addysg o safon briodol ar gyfer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru;

31.m. mewn ymateb i ofynion corff achredu neu reoleiddiwr proffesiynol;

31.n. gweithredoedd neu oedi unrhyw awdurdod llywodraethol neu leol; a/ne

31.o. lle mae agwedd ar gwrs yn dibynnu ar arbenigedd penodol aelod o staff sy'n sâl neu sy'n gadael, ac nad yw'n rhesymol bosibl dod o hyd i rywun arall sydd â'r arbenigedd perthnasol.

32. Lle mae digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth yn digwydd, bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i chi am y digwyddiadau ac yn cymryd pob cam rhesymol i leihau'r effaith ar brofiad dysgu'r myfyriwr drwy, er enghraifft:

32.a. gyflwyno fersiwn diwygiedig o'r un rhaglen;

32.b. roi'r gefnogaeth ddysgu a/neu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau eraill y mae'n eu hystyried yn briodol i'r myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt;

32.c. cyflwyno'r rhaglen mewn ffordd wahanol, o leoliad arall neu ar-lein, neu ar adeg arall;

32.d. darparu gwasanaethau a chyfleusterau eraill mewn ffordd wahanol, o leoliad gwahanol neu ohirio'r dyddiad dechrau ar gyfer y cwrs ar-lein; a/neu

32.e. roi cyfle i'r myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt, lle bo’n bosibl yn ymarfer, drosglwyddo i raglen arall, neu dynnu yn ôl, a rhoi cefnogaeth resymol iddynt symud i brifysgol arall.

33. Bydd y Brifysgol yn rhoi sicrwydd parhaus o safon ac ansawdd y dyfarniad. Hysbysir y myfyrwyr am unrhyw newidiadau yn y gefnogaeth ddysgu, y gwasanaethau a’r cyfleusterau gan y Brifysgol mor fuan ag sy’n ymarferol.

34. Os nad ydych yn fodlon ag unrhyw gamau o'r fath darfu arnoch cyn lleied â phosibl yn sgil digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, gallwch derfynu eich contract gyda'r Brifysgol a/neu wneud cwyn o dan Weithdrefn Gwyno'r Brifysgol.

35. Os bydd angen cau neu derfynu neu roi'r gorau i gyflwyno rhaglen o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, bydd y Brifysgol yn rhoi cyfle i chi drosglwyddo i raglen arall ym Mhrifysgol Caerdydd neu dynnu'n ôl a  derbyn cefnogaeth resymol i ddod o hyd i le mewn prifysgol arall.

36. Lle mae digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth yn digwydd ac nad yw'r Brifysgol yn gallu cymryd camau i leihau'r aflonyddwch sy'n deillio o hynny ar fyfyrwyr, yna ni fyddwn ni na chithau yn atebol am dorri'r contract hwn nac am barhau i gydymffurfio â'r contract gan gynnwys darparu hyfforddiant neu wasanaethau pellach, talu ffioedd pellach, gwneud ad-daliadau ffioedd a dalwyd neu golled neu ddifrod arall o unrhyw fath.

Atebolrwydd

37. Nid yw’r Brifysgol yn gwahardd nac yn cyfyngu ei hatebolrwydd am y canlynol mewn unrhyw ffordd:

37.a. marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei esgeulustod neu esgeulustod ei weithwyr, ei asiantaethau neu ei isgontractwyr;

37.b. dwyll neu gamliwio twyllodrus.

38. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb ac mae’n osgoi atebolrwydd, i’r graddau eithaf posibl o dan y gyfraith gyffredinol, am golled neu ddifrod i eiddo myfyrwyr neu am ddifrod i offer myfyrwyr sydd wedi’i achosi gan firysau cyfrifiadurol, ac am ganlyniadau unrhyw ddifrod o’r fath.

Diogelu Data

39. Er mwyn cyflawni ei swyddogaethau a'i rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth Diogelu Data mewn perthynas â'ch cais a’ch astudio, mae'n angenrheidiol i’r Brifysgol gasglu, storio, dadansoddi ac weithiau ddatgelu eich data personol. Ceir manylion llawn am sut rydym ni'n ymdrin â'ch data personol yn ein rôl fel Rheolwr Data a'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu yn ein hysbysiad diogelu data ar gyfer myfyrwyr ac ymgeiswyr.

40. Mae manylion llawn polisi diogelu data'r Brifysgol i'w gweld ar dudalen we y polisi diogelu data.

Anabledd

41. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cynhwysol a hygyrch. Mae pob cynnig yn amodol ar allu'r Brifysgol I weithredu'r addasiadau penodol sydd eu hangen yn rhesymol er mwyn i chi gwblhau eich rhaglen. Os oes angen cymorth arnoch oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, rydym yn eich annog i roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl yn y broses recriwtio i alluogi'r Brifysgol i ymgysylltu â chi a thrafod eich anghenion cymorth yn fwy effeithiol.

42. Os oes gennych anabledd, bydd yr wybodaeth a ddarparwyd gennych ynghylch yr anabledd hwnnw’n cael ei phrosesu gan y Gwasanaeth Anabledd Myfyrwyr at ddibenion asesu pa addasiadau rhesymol sydd yn ofynnol, os o gwbl, ac at ddibenion gweithredu'r addasiadau hynny os ydych yn cael cynnig lle i astudio yn y Brifysgol. Rhoddir gwybodaeth am eich anabledd i staff perthnasol eraill y byddai angen rhesymol iddynt gael gwybodaeth o'r fath at ddibenion gweithredu unrhyw un neu bob un o'r addasiadau a nodwyd, os ydych yn derbyn y cynnig. Mae gennych yr hawl i ofyn nad yw gwybodaeth am eich anabledd yn cael ei datgelu i staff o'r fath, ac er y gwneir pob ymdrech rhesymol i weithredu addasiadau rhesymol, efallai y bydd y cais am gyfrinachedd mewn rhai amgylchiadau yn atal yr addasiadau hynny rhag cael eu gwneud

Yr hawl i astudio yn y DU

43. Trwy dderbyn y cynnig am le, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon rhoi tystiolaeth ddogfennol annibynnol i ni o'ch hawl i astudio yn y DU. Mae hyn yn berthnasol i holl ymgeiswyr o’r DU/UE ac ymgeiswyr rhyngwladol. Rydych yn cytuno i’r canlynol:

  • y byddwch yn cydweithio ag unrhyw ofynion neu weithdrefnau gwybodaeth y mae'n ofynnol i'r Brifysgol ymgymryd â hwy gan Lywodraeth Cymru neu ei hasiantaethau i barhau i gydymffurfio â'i chyfrifoldebau o dan gyfraith a rheoliadau mewnfudo;
  • eich bod mewn sefyllfa i sicrhau cyllid ar gyfer eich astudiaethau; ac
  • os oes angen fisa neu fath arall o gofrestriad arnoch i astudio yn y DU, byddwch yn cydymffurfio bob amser â thelerau'r fisa/cofrestriad hwnnw.

Hawliau canslo

Hawl i ganslo

44. Mae gennych hawl statudol i ganslo'r contract hwn heb roi unrhyw reswm. Bydd y cyfnod canslo yn dod i ben ar ôl 14 diwrnod o'r diwrnod yr ydych yn derbyn y cynnig am le yn y brifysgol.

Sut i ganslo eich contract

45. Os ydych yn fyfyriwr israddedig, gallwch wrthod y cynnig am le yn UCAS. I ganslo'ch dewis o Gaerdydd neu eich cais UCAS cyfan, darllenwch y canllawiau sy'n gwneud newidiadau i'ch cais israddedig UCAS ar wefan UCAS.

46. Os ydych am dynnu’n ôl neu gael eich rhyddhau i Glirio a’ch bod yn lle wedi’i warantu’n ddiamod, rhaid i chi roi gwybod i’r Brifysgol. Gallwch ddweud wrthym drwy e-bostio'r tîm Derbyn yn admissions@caerdydd.ac.uk. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r ffurflen enghreifftiol ar ddiwedd y ddogfen hon, ond nid yw'n orfodol.

47. Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig, rhaid i chi roi gwybod i'r Brifysgol am eich penderfyniad i ganslo'r contract hwn yn ysgrifenedig. Gellir gwneud hyn drwy e-bostio'r tîm Derbyn yn admissions@caerdydd.ac.uk. Fel arall, gallwch ein hysbysu mewn llythyr a anfonwyd drwy'r post (lle gellir gwirio'r dyddiad postio) at y Tîm Derbyn Myfyrwyr, Tŷ McKenzie, 30-36 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0DE. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen enghreifftiol ar ddiwedd y ddogfen hon, ond nid yw'n orfodol.

48. I fodloni'r terfyn amser canslo, mae'n ddigon i chi anfon eich neges i’r Brifysgol cyn i’r cyfnod ddod i ben.

Effaith canslo

49. Os byddwch yn canslo'r contract hwn fel y nodir uchod o fewn 14 diwrnod i'r diwrnod y byddwch yn derbyn cynnig am le, bydd y Brifysgol yn eich ad-dalu am yr holl daliadau a dderbyniwyd gennych. Bydd y Brifysgol yn gwneud ad-daliad heb oedi, a dim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y diwrnod iddi gael ei hysbysu am eich penderfyniad i ganslo'r contract hwn.

50. Bydd y Brifysgol yn gwneud ad-daliad gan ddefnyddio'r un dull talu ag y gwnaethoch ei ddefnyddio ar gyfer y taliad cyntaf.

51. Os gwneir y taliad gan noddwr neu gyflogwr, bydd y Brifysgol yn ad-dalu’r parti perthnasol.

Canslo ar ôl y cyfnod canslo statudol

52. IOs ydych chi'n canslo contract ar ôl y cyfnod canslo statudol, ni fydd y Brifysgol yn ad-dalu'r taliadau a dderbyniwyd gennych. Yn dibynnu ar yr adeg y byddwch chi'n canslo'r contract (yn benodol, p’un a yw hynny cyn neu ar ôl cofrestru) efallai y bydd angen i chi dalu rhan o’ch ffioedd dysgu, fel sydd wedi’i nodi ym Mholisi Ffioedd Dysgu’r Brifysgol.

53. I ganslo'r contract ar ôl i'r cyfnod canslo statudol ddod i ben, rhaid i chi roi gwybod i'r Brifysgol am eich penderfyniad yn ysgrifenedig. Gellir gwneud hyn trwy anfon e-bost at admissions@caerdydd.ac.uk. Fel arall, gallwch ein hysbysu mewn llythyr a anfonwyd drwy'r post (lle gellir gwirio'r dyddiad postio) at y tîm Derbyn Myfyrwyr, Tŷ McKenzie, 30-36 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0DE. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen enghreifftiol ar ddiwedd y ddogfen hon, ond nid yw'n orfodol.

Cyrsiau sy'n  dechrau yn ystod y cyfnod canslo statudol

54. Os yw eich cwrs yn dechrau o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad yr ydych yn derbyn y cynnig am le yn y Brifysgol (er enghraifft, os ydych wedi ymgeisio drwy addasu neu glirio) yna, drwy dderbyn y cynnig am le, rydych yn cytuno y dylai’r gwasanaeth ddechrau yn ystod y cyfnod canslo. Os byddwch wedyn yn penderfynu canslo'r contract yn ystod y cyfnod canslo, byddwch yn atebol i dalu rhan o'r ffioedd ar gyfer y cyfnod o ddechrau gwasanaeth y Brifysgol i chi hyd at ddyddiad y canslo, fel y nodir ym Mholisi Ffioedd Dysgu'r Brifysgol.

Cyffredinol

55. Os bydd unrhyw ddarpariaeth o’r contract rhyngoch chi a’r Brifysgol yn cael ei ddal yn ddi-rym neu’n amhosibl i’w weithredu yn llwyr neu’n rhannol gan unrhyw lys neu awdurdod cymwys, bydd y contract hwnnw’n parhau i fod yn ddilys o ran y darpariaethau eraill sydd wedi’u cynnwys ynddo a/neu weddill y ddarpariaeth sydd yn cael ei effeithio.

56. Bydd y contract rhyngoch chi a’r Brifysgol yn cael ei lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, ac mae’n cael ei lunio yn unol â’r rhain, ac mae’r partïon yn cytuno i ildio i awdurdodaeth y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

57. Nid yw contract y Brifysgol gyda'i myfyrwyr yn rhoi buddiannau i drydydd parti at ddibenion Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999.

Y Weithdrefn Gwyno ac Apelio i Ymgeiswyr

58. Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi ymrwymo i gynnig gweithdrefnau derbyn teg ac o safon uchel i'n holl ymgeiswyr. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod adegau pan na fydd ymgeisydd yn fodlon ar broses derbyn myfyrwyr y Brifysgol neu ganlyniad y broses. Gellir dod o hyd i'r Weithdrefn Cwynion ac Apêl lawn ar gyfer Ymgeiswyr ar ein cwynion a'n hapeliadau am dudalen we eich cais.

Gweithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr

59. Gobeithio na fydd angen i chi ddefnyddio Gweithdrefn Gwyno’r Brifysgol i Fyfyrwyr, ond mae’n bwysig bod yn gyfarwydd â’r broses rhag ofn bydd angen i chi fynegi pryder. Gallwch ddod o hyd i'r weithdrefn lawn ar ein tudalen we gweithdrefn gwyno myfyrwyr.

Atodiad 1: Ffurflen canslo

Tabl rheoli'r ddogfen

Teitl y ddogfen:Prifysgol Caerdydd Telerau ac Amodau Cynnig
Dyddiad dod i rym:26 Medi 2023