Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad cofrestru

Mae angen i fyfyrwyr sy'n parhau gyda'r broses gofrestru i gadarnhau eu bod yn cytuno i gadw at y termau a'r amodau a wnaethant eu derbyn wrth gymryd eu cynnig am le yn y Brifysgol.

Talu ffioedd

Mae'r Brifysgol yn pennu statws myfyriwr at ddibenion talu ffioedd yn unol â’r Rheoliadau Asesu a’r Polisi Talu Ffioedd, ac Egwyddorion Arweiniol y Brifysgol ar Asesu Ffioedd.

Rhagor o fanylion am y Rheoliadau a'r Egwyddorion Arweiniol

Lle mae ffioedd yn ddyledus, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud trefniadau ar ddechrau’r rhaglen i dalu eich ffioedd.

Bydd y Brifysgol yn eich anfonebu am y swm llawn neu’r rhan sy’n weddill o’ch ffioedd ar gyfer bob blwyddyn eich rhaglen (gan gynnwys blynyddoedd ail-adrodd), oni bai fod gennych (am bob blwyddyn o’ch rhaglen) y canlynol:

  • cymorth ariannol drwy Cyllid Myfyrwyr Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon neu SAAS; neu
  • llythyr swyddogol oddi wrth gyflogwr neu noddwr yn dangos eu bod yn gyfrifol am dalu eich ffioedd llawn neu ran o’ch ffioedd; neu
  • eich bod wedi gwneud cais ac wedi cael gostyngiad neu leihad yn eich ffioedd.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau, lle bo’n briodol, fod copi o’r ddogfennaeth ariannu priodol fel y cyfeiriwyd ato uchod yn cael ei gyflwyno i’r Swyddfa Gyllid erbyn y dyddiad gofynnol.

Os ydych yn cofrestru ar sail y byddwch yn gwneud cais am ildio ffioedd dysgu (llawn neu ran amser), bwrsari neu unrhyw ffynhonnell ariannu arall gan y Brifysgol, bydd disgwyl i chi dalu’r swm llawn os na chaiff y cais ei gymeradwyo.

Os ydych yn eich ariannu eich hun ac yn gorfod talu eich ffioedd eich hun, gallwch dalu mewn nifer o ffyrdd fel sydd wedi’i nodi ym mholisi ffioedd y Brifysgol.

Darllen manylion llawn Polisi Ffioedd y Brifysgol.

Cywirdeb gwybodaeth

Drwy dderbyn y cynnig am le i astudio yn y Brifysgol rydych yn cadarnhau ac yn datgan bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych chi neu ar eich rhan i gefnogi eich derbyn a’ch cofrestru gyda'r Brifysgol yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth.

Gallai darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol wneud eich derbyniad a'ch cofrestriad yn annilys a bydd yn rhoi'r hawl i'r Brifysgol derfynu ei gontract gyda chi yn unol â’r Fframwaith Derbyniadau a, lle bo'n berthnasol, gweithdrefn Addasrwydd yr Ymgeisydd i Ymarfer.

Cyfathrebiadau i ac oddi wrth y Brifysgol

Wedi i chi orffen cofrestru, byddwch yn cael cyfrif ebost Prifysgol. Anfonir pob gohebiaeth e-bost gan y Brifysgol i’r cyfrif hwnnw a disgwylir i chi ddefnyddio’r cyfrif hwnnw ar gyfer yr holl gyfathrebu gyda’r Brifysgol. Mae disgwyl i chi wirio eich cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd ac o leiaf unwaith yr wythnos.

Rheoliadau'r Brifysgol

Drwy dderbyn y cynnig am le yn y Brifysgol rydych yn cytuno i gydymffurfio â darpariaethau'r Siarter, Statudau, Deddfiadau a Rheoliadau a rheolau a rheoliadau eraill o’r fath fel mae’r Brifysgol yn ei wneud i’w fyfyrwyr o bryd i’w gilydd (“y Rheoliadau”).

Llwythwch i lawr y Llawlyfr Rheoliadau Academaidd.

Mae darpariaethau allweddol y Rheoliadau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt yn cynnwys y canlynol:

  • Disgwyliadau’r Brifysgol ar gyfer presenoldeb myfyrwyr a'u cynnydd academaidd, fel y nodir yn y Weithdrefn Ymgysylltu a Phresenoldeb Myfyrwyr.
  • Rheolau’r brifysgol ynghylch camymddygiad academaidd a thwyllo, gan gynnwys llên-ladrad a'r prosesau mae'r Brifysgol yn eu defnyddio ar gyfer canfod llên ladrad (e.e. meddalwedd Turnitin). Gall torri'r rheolau hyn arwain at broses ddisgyblu a gosod cosbau academaidd a/neu ddiarddel yn unol â Gweithdrefn Ymarfer Annheg a/neu’r Weithdrefn Camymddwyn Academaidd.
  • Gallwch ddod o hyd i reolau'r Brifysgol am dalu arian sy'n ddyledus i'r Brifysgol yn y Weithdrefn ar gyfer Talu Ffioedd Dysgu. Os nad ydych yn talu arian sy'n ddyledus i'r Brifysgol, mae’r Brifysgol yn cadw'r hawl i dynnu'n ei wasanaethau a/neu eich hawl i ddefnyddio'r cyfleusterau yn ôl lle mae'n angenrheidiol ac yn gymesur i wneud hynny. Wrth benderfynu a ddylid gwneud hynny, bydd y Brifysgol yn ystyried holl amgylchiadau eich achos.
  • Gweithdrefn Addasrwydd Myfyriwr i Astudio, sy’n disgrifio’r camau y gallai’r Brifysgol eu cymryd os oes pryderon am eich iechyd a’ch lles sy’n arwain at gwestiynau am eich ffitrwydd a’ch addasrwydd i barhau i astudio.
  • Mae rheolau’r Brifysgol parthed ffitrwydd i ymarfer, wedi’u nodi yng Ngweithdrefn Addasrwydd Myfyrwyr i Ymarfer, ac yn berthnasol i fyfyrwyr ar gyrsiau proffesiynol sy’n cael eu rheoleiddio sy’n arwain at neu’n bodloni amodau cymhwyster proffesiynol neu’n rhoi trwydded i ymarfer mewn proffesiwn penodol. Gallai methu ag arsylwi’r gofynion hyn alw cwestiwn o ran ffitrwydd myfyriwr i ymarfer ac arwain at broses ddisgyblu a gosod sancsiynau, gan gynnwys diarddel o’r Brifysgol.
  • Y gofyniad bod ymgeiswyr i gyrsiau proffesiynol yn cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (wedi’i drefnu gan y Brifysgol) cyn y gallan nhw gofrestru ar y rhaglenni hyn, neu mewn rhai achosion gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith, a’r gofynion statudol o ran diarddel drwy gydgysylltiad. Gan ddibynnu ar ganlyniad y gwiriadau hyn, mae'n bosibl na fyddwch yn gymwys i gofrestru ar y rhaglenni hyn.
  • Wedi eich rhwymo gan Fframwaith Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol sy’n nodi gofynion moesegol prosiectau ymchwil a gallai arwain at gamau disgyblu os ydyn nhw’n cael eu torri.
  • Lle mae'r myfyriwr yn ymgysylltu gyda phartner proffesiynol neu ddiwydiannol [darparwr lleoliad o hyn ymlaen] ac y llunnir contract rhwng y tri pharti. Rhaid i chi gydymffurfio â gofynion a rheolau’r Brifysgol a’r darparwr lleoliad. Gallai torri'r rheolau hyn arwain at broses ddisgyblu a gosod sancsiynau, a allai gynnwys diarddel o'r Brifysgol.

Newidiadau i Reoliadau'r Brifysgol

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ychwanegu, dileu neu wneud newidiadau rhesymol i’r Rheoliadau lle, ym marn y brifysgol, bydd hyn yn cynorthwyo i ddarparu addysg briodol.

  • I adolygu a diweddaru’r Rheoliadau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben;
  • I adlewyrchu newidiadau yn yr amgylchedd allanol, gan gynnwys newidiadau cyfreithiol neu reoliadol, newidiadau i drefniadau ariannu neu ariannol neu newidiadau i bolisi, gofynion neu ganllawiau llywodraeth;
  • I ymgorffori canllawiau sector neu arfer gorau;
  • I ymgorffori adborth gan fyfyrwyr; a/neu
  • I helpu eglurder neu gysondeb dull.

Bydd y Brifysgol yn ymgynghori â Swyddogion Etholedig Undeb y Myfyrwyr cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r Rheoliadau.

Fel arfer, bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf, er y gellir cyflwyno newid yn ystod y flwyddyn academaidd lle mae’r Brifysgol yn rhesymol yn ystyried fod hyn er budd myfyrwyr neu lle mae hyn yn ofynnol gan y gyfraith neu amgylchiadau eithriadol eraill.

Bydd y Rheoliadau wedi’u diweddaru ar gael ar wefan y Brifysgol, a gallant gael eu cyhoeddi mewn ffyrdd eraill fel bod myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.

Amrywiad

Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gyflwyno rhaglenni a chyfleoedd ymchwil sy’n arwain at ei dyfarniadau, fel y’u disgrifir yn y deunyddiau a gyhoeddir gan y Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn cadw hawl yr Is-ganghellor i amrywio trefniadau mewn amgylchiadau eithriadol, sydd y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol sy'n cynnwys:

  • gweithredoedd Duw, llifogydd, daeargryn, storm wynt neu drychineb naturiol arall, gan gynnwys epidemigau clefydau heintus;
  • tân, ffrwydrad neu ddifrod damweiniol;
  • strwythurau adeiladau’n dymchwel, peiriannau, cyfrifiaduron neu gerbydau yn methu;
  • anghydfod gweithwyr, gan gynnwys streiciau a gweithredu diwydiannol neu weithredu arall;
  • toriad neu fethiant mewn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i bŵer trydan, nwy neu ddŵr;
  • gweithredoedd, ordinhadau, deddfwriaeth, rheoliadau neu gyfyngiadau unrhyw lywodraeth;
  • absenoldeb annisgwyl neu ymadawiad aelod allweddol o staff;
  • lle mae'r niferoedd sydd wedi'u recriwtio ar gyfer rhaglen a/neu fodiwl mor isel, nid yw'n bosibl darparu addysg o safon briodol ar gyfer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru;

Yn achos digwyddiadau o’r fath, bydd y Brifysgol yn ceisio sicrhau’r effaith leiaf bosibl ar brofiad dysgu myfyrwyr, er enghraifft, drwy:

  • gyflwyno fersiwn diwygiedig o'r un rhaglen; neu
  • roi'r gefnogaeth ddysgu a/neu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau eraill y mae'n eu hystyried yn briodol i'r myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt; neu
  • roi cyfle i'r myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt drosglwyddo i raglen arall, neu dynnu yn ôl, a rhoi cefnogaeth resymol iddynt symud i Brifysgol arall.

Bydd y Brifysgol yn rhoi sicrwydd parhaus o safon ac ansawdd y dyfarniad. Bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am unrhyw newidiadau yn y gefnogaeth ddysgu, y gwasanaethau a’r cyfleusterau, mor fuan ag sy’n ymarferol.

Yn ogystal â'r amgylchiadau a ddisgrifir yn y paragraff uchod, bydd gan y Brifysgol yr hawl i wneud newidiadau rhesymol i'w rhaglenni lle bydd hynny'n galluogi'r Brifysgol i roi rhaglen gyfwerth neu brofiad addysgol gwell i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen. Gall enghreifftiau o'r amgylchiadau hyn gynnwys:

  • cynnwys a maes llafur y rhaglen lle mae datblygiadau yn y maes pwnc yn gwneud hynny'n angenrheidiol;
  • lleoliad y rhaglen;
  • sut mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno.

Mewn achosion o'r fath, dim ond y newidiadau sydd wir angen eu gwneud er mwyn sicrhau ansawdd gofynnol profiad y myfyrwyr y bydd y Brifysgol yn eu gwneud. Bydd y Brifysgol hefyd yn hysbysu ac yn ymgynghori â'r myfyrwyr yr effeithir arnynt ymlaen llaw ynghylch unrhyw newidiadau angenrheidiol. Os bydd y Brifysgol yn newid Rhaglen, rhoddir cyfle i fyfyrwyr nad ydynt yn fodlon â'r newidiadau drosglwyddo i Raglen arall, neu dynnu'n ôl, a chael cefnogaeth resymol gan y Brifysgol i symud i brifysgol neu ddarparwr addysg arall.

Nid yw’r Brifysgol yn gwahardd nac yn cyfyngu ei atebolrwydd am y canlynol mewn unrhyw ffordd:

  • marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei esgeulustod neu esgeulustod ei weithwyr, ei asiantaethau neu ei isgontractwyr
  • dwyll neu gamliwio twyllodrus.

Nid yw’r Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb ac mae’n eithrio atebolrwydd i’r graddau mwyaf posibl o dan y gyfraith gyffredinol am golled neu ddifrod i eiddo myfyrwyr neu am haint i offer myfyrwyr sydd wedi’i achosi gan firysau cyfrifiadurol, ac am ganlyniadau unrhyw ddifrod o’r fath.

Gwarchod Data

Caiff yr holl wybodaeth bersonol wrthoch chi a ffynonellau eraill sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau yn y Brifysgol ei chadw'n ddiogel. Bydd yn cael ei defnyddio gan y Brifysgol yn ystod cofrestru, yn ystod eich cwrs ac wedi i chi adael y Brifysgol am amrywiaeth o ddibenion yn cynnwys gweinyddu cofnodion academaidd, gwasanaethau cefnogi myfyrwyr a lles (yn cynnwys cwnsela), gwasanaethau gyrfaoedd a gweithredu Codau Ymarfer a Gweithdrefnau'r Brifysgol. Yn ogystal bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio gan y Brifysgol at ddibenion ymchwil, llunio ystadegau a gweinyddu ôl-fyfyrwyr.

Gall y Brifysgol am amrywiaeth o resymau yn cynnwys atal neu ganfod twyll neu am resymau sy'n gysylltiedig â mewnfudo a chenedligrwydd, roi'r wybodaeth hon i sefydliadau allanol yn cynnwys yr Heddlu; y Swyddfa Cartref;  Conswliaethau a Llysgenadaethau Tramor; Awdurdodau lleol; Adran Gwaith a Phensiynau a'i Asiantaethau; HESA; sefydliadau addysgiadol eraill neu Gyrff Dyfarnu a gwasanaethau llên-ladrad detholedig yn cynnwys PlagiarismAdvice.org (bydd rhan o'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Amerig yn yr achos hwn). Caiff gwybodaeth bersonol ei datgelu i gwmnïau casglu dyledion allanol neu asiantaethau gwirio credyd i helpu adfer ffioedd dysgu sydd heb eu talu neu unrhyw arian arall sy'n ddyledus i'r Brifysgol.

Os ydych yn cael eich cyflogi neu’n cael eich noddi gan drydydd parti yn ystod eich holl gyfnod astudio yn y Brifysgol neu ran ohono ac mae gan y cyflogwr/noddwr ddiddordeb uniongyrchol yn eich statws fel myfyriwr yn y Brifysgol (er enghraifft mae eich cyflogwr/noddwr yn talu am eich cwrs), rydych yn cytuno y gellir rhoi gwybodaeth yn ymwneud â’ch presenoldeb a’ch perfformiad i’ch cyflogwr/noddwr, heb drafod gyda chi. Gellid ddangos i'ch cyflogwyr/noddwr wybodaeth a chafwyd gan y Brifysgol drwy eich derbyn i'r Brifysgol oherwydd eich cofrestriad ar raglen astudiaethau a/neu i ennill dyfarniad yn y Brifysgol. Bydd y wybodaeth a roddir i'ch cyflogwr/noddwr fel arfer yn ymwneud â'ch presenoldeb a'ch perfformiad.

Gall y Brifysgol o bosibl ddatgelu ychydig neu eich holl wybodaeth bersonol i amrywiaeth o dderbynwyr at ddibenion gweinyddu darpariaeth academaidd a gweithrediadau cysylltiedig fel y gwasanaeth gyrfaoedd. Mae'r derbynwyr hyn yn cynnwys: Colegau sy'n bartneriaid i'r Brifysgol; sefydliadau sy'n darparu arian a bwrsariaethau i fyfyrwyr; Cynghorau Lleol (at dibenion sy'n gysylltiedig gyda'ch statws myfyriwr a allai gynnwys cysylltu gyda chi am eich hawl i bleidleisio.

Gallwch anfon unrhyw ymholiadau am yr uchod at eich Awdurdod Lleol perthnasol); noddwyr myfyrwyr (yn cynnwys Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac asiantaethau eraill, preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, sy'n darparu cefnogaeth myfyrwyr ac unigolion a sefydliadau rydych wedi trefnu cytundeb gyda nhw i ddarparu rhan o'ch costau neu'r holl gyfanswm); cyrff proffesiynol perthnasol (yn cynnwys y rhai hynny yr ydych wedi gwneud cais am aelodaeth a lle mae rheoliadau'r cwrs yn mynnu bod y Brifysgol yn darparu gwybodaeth -wele fanylion yn y llawlyfrau cwrs); sefydliadau addysg/hyfforddiant; cyflogwyr posibl a darparwyr lleoliadau astudio (efallai bod rhai y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop); cyrff ariannu llywodraethol; UCAS; Awdurdodau Lleol ac Iechyd; Banciau'r DU; Cwmnïau Yswiriant ac HESA.

Byddwn yn anfon rhan o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi at HESA. Bydd yn rhan o'ch cofnod HESA sy'n cynnwys manylion am eich grŵp ethnig ac unrhyw anableddau sydd gennych. Am ragor o fanylion am y wybodaeth rydym yn ei rhoi i HESA a sut mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd ar wefan HESA

Byddwn hefyd yn anfon rhan o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch i'r Undeb Myfyrwyr at ddibenion aelodaeth. Byddwch chi'n aelod o'r Undeb yn awtomatig unwaith i chi gofrestru'n y Brifysgol. Bydd trosglwyddo'r wybodaeth hyn yn eich galluogi i ddefnyddio gwasanaethau'r Undeb yn gynt. Yn ogystal bydd yn ei alluogi i gadarnhau eich cymhwysedd i ymuno gyda chlybiau a chymdeithasau ac i bledleisio'n yr etholiadau ac i gysylltu gyda chi gyda diweddariadau hanfodol.

Cewch ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad hwn o Undeb y Myfyrwyr. Os oes yn well gennych os nad yw'r wybodaeth yn cael ei rhannu gan yr Undeb yn y dull hwn, ysgrifennwch at y Cofrestrydd Academaidd, i gadarnhau hyn.

O bryd i'w gilydd, efallai bydd y Brifysgol yn cydweithio gydag Asiantaethau Ariannu'r Llywodraeth i gynnal ymchwil am brofiad myfyrwyr. Bydd unrhyw sefydliad sy'n cynnal ymchwil ar ran y Brifysgol a/neu'r Asiantaethau yma yn defnyddio'ch manylion ar gyfer y pwrpas a nodwyd ac yna'n eu dileu.

Mae'r Brifysgol yn cyhoeddi canlyniadau arholiadau ar hysbysfyrddau'r Brifysgol ac yn y llyfryn dyfarniadau. Cewch fanylion llawn y broses yma (a sut i'n hysbysu am unrhyw bryderon sydd gennych am y broses) o swyddfeydd yr Ysgol/adran.

Os oes gennych anabledd, bydd y wybodaeth rydych wedi ei darparu sy'n gysylltiedig â'r anabledd yma, yn cael ei phrosesu gan y Wasanaeth Anabledd a Dyslecsia ar gyfer dibenion asesu ac os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol ac ar gyfer gweithredu'r addasiadau hynny. Bydd y wybodaeth am eich anabledd yn cael ei datgelu, lle'n rhesymol, i staff perthnasol arall a allai fod angen y wybodaeth ar gyfer gweithredu'r holl addasiadau yma neu rai ohonynt. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio datgelu'r wybodaeth i'r math hwn o staff. Er byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i  weithredu'r addasiadau rhesymol, gall eich cais am gyfrinachedd, mewn rhai amgylchiadau, gael effaith ar weithredu'r addasiadau hyn.

Darllenwch fanylion llawn polisi gwarchod data'r Brifysgol

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ynglŷn â phroses gofrestru'r Brifysgol yn unol â'r Ddeddf Gwarchod Data drwy chwilio am 'Brifysgol Caerdydd' ar  wefan allanol Cofrestr Rheolwyr Data y Comisiynydd Gwybodaeth.

Cyffredinol

Os bydd unrhyw ddarpariaeth o’r contract rhyngoch chi a’r Brifysgol yn cael ei ddal yn ddi-rym neu’n amhosibl i’w weithredu yn llwyr neu’n rhannol gan unrhyw lys neu awdurdod cymwys, bydd y contract hwnnw’n parhau i fod yn ddilys o ran y darpariaethau eraill sydd wedi’u cynnwys ynddo a/neu weddill y ddarpariaeth sydd yn cael ei effeithio.

Bydd y contract rhyngoch chi a’r Brifysgol yn cael ei lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, ac mae’n cael ei lunio yn unol â’r rhain, ac mae’r partïon yn cytuno i ildio i awdurdodaeth y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Nid yw contract y Brifysgol gyda'i myfyrwyr yn rhoi buddiannau i drydydd parti at ddibenion Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999.