Ewch i’r prif gynnwys

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd

Chemistry graduation students 20213

Mae’r rhai sydd â gradd Cemeg yn boblogaidd iawn ymysg cyflogwyr.

  • 93% o raddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach
  • 96% graduates in employment or further study (HESA Destination of Leavers Survey 2016/17)

Sgiliau a gwybodaeth

Mae gan ein graddedigion:

  • sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • profiad o weithio mewn labordy
  • sgiliau TG
  • yr hyder i ddadansoddi amrywiaeth o wybodaeth.

Byddwch yn dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy, fel y gallu i:

  • weithio’n annibynnol yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau a rheoli amrywiaeth o dasgau
  • cyfleu prosiectau ymchwil yn bendant
  • dysgu yn dilyn beirniadaeth adeiladol a rhoi eich dealltwriaeth ar waith yn y dyfodol
  • dangos arweiniad a pharodrwydd i ymchwilio i bynciau a datblygu damcaniaethau i ymchwilio iddynt yn y dyfodol
  • gweithio mewn tîm, parchu syniadau a dadleuon eraill a chydweithio wrth wneud ymchwil a datrys problemau.

Ar ôl gwneud hyfforddiant helaeth a manwl mewn labordy, bydd gennych yr hyder hefyd i ddefnyddio technegau cemegol ymarferol a ddefnyddir mewn labordai ledled y byd. Yn olaf, byddwch wedi ymarfer a datblygu amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys defnyddio rhaglenni TG a chyfryngau digidol.

Gyrfaoedd ymchwil

Byddwch yn gallu defnyddio eich gwybodaeth i ddilyn ystod o yrfaoedd ymchwil cyffrous mewn meysydd fel dod o hyd i feddyginiaethau a brechlynnau newydd, dadansoddi fforensig ar gyfer achosion troseddol, gwella dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a datblygu cynhyrchion a deunyddiau cemegol newydd.

Opsiynau gyrfa

Gall y sgiliau sy’n cael eu datblygu yn y labordy hefyd eich helpu i sicrhau rôl yn y diwydiant gweithgynhyrchu, lle mae'r pwyslais ar hyn o bryd ar nodi prosesau gwyrddach, rhatach a chyflymach.

Fodd bynnag, nid yw gyrfaoedd ym maes Cemeg yn dechrau ac yn gorffen yn y labordy. Gallech ddefnyddio’r hyfforddiant rhesymegol ac ymarferol a gawsoch i symud i feysydd marchnata, gwerthu, rheoli, cyllid, newyddiaduraeth wyddonol, addysgu a llawer mwy.

Mae cyflogwyr yn cynnwys sefydliadau cyffrous fel Hichrom Ltd, Johnson Matthey, Patent Seekers, Price Bailey LLP, PCI Pharma, Randox, Hazlewoods LLP a Dŵr Cymru.

Pam mae gyrfa ym maes Cemeg yn un bwysig

Lleoliadau proffesiynol

Nod y flwyddyn ar leoliad yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymhellach a’ch annog i gymryd y cam cyntaf er mwyn i chi ddatblygu methodoleg gwaith broffesiynol a chael profiad o fod â rhywfaint o gyfrifoldebau proffesiynol.

Blwyddyn Harriet yn y diwydiant

Blwyddyn dramor

Mae gweithio dramor yn eich galluogi i gael profiad o ddiwylliant gwahanol, ehangu eich rhwydwaith a datblygu sgiliau cyflogadwyedd.

Profiad Emilia o fod ym Mhrifysgol Wollongong

Eich Cynghorydd Gyrfaoedd neilltuedig

Mae gennym ein Cynghorydd Gyrfaoedd neilltuedig ein hunain sy’n cynnig apwyntiadau rheolaidd i’ch helpu i ymchwilio i’ch opsiynau a chynllunio taith eich gyrfa.

Gall hyn gynnwys eich helpu i:

  • chwilio am swydd
  • llunio CV
  • llenwi ffurflen gais
  • ysgrifennu llythyr eglurhaol
  • gymryd rhan mewn cyfweliadau ffug.

Mae’r apwyntiadau’n werthfawr o ran eich helpu i nodi opsiynau gyrfa, penderfynu pa lwybr i’w ddilyn a gwybod beth i’w wneud nesaf.

Mae’r Brifysgol yn cynnig Gwasanaeth Gyrfaoedd, ac mae ganddi hefyd bresenoldeb bywiog ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hynny’n sicrhau bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch bob amser.


HESA data: Copyright Higher Education Statistics Agency Limited 2020. The Higher Education Statistics Agency Limited cannot accept responsibility for any inferences or conclusions derived by third parties from its data. Data is from the latest Graduate Outcomes Survey 2017/18, published by HESA in June 2020.